Mwy am Yr Hen Gapel

Yn 1834 adeiladwyd y capel presennol, sef y trydydd, ar yr un safle â’r ail, a chynhaliwyd y gladdedigaeth gyntaf yn y fynwent. Adnewyddwyd y capel eto ar gost o £300 yn 1862.

Peidiwyd â defnyddio’r adeilad fel capel wedi’r “Troad Allan” yn 1876, pryd y trowyd y gynulleidfa allan o’r adeilad gan John Lloyd o Alltyrodyn a honnai fod amodau’r brydles wedi’u torri. Adeiladodd y gynulleidfa Gapel Llwynrhydowen newydd (NPRN 7289), ond ar farwolaeth Mr Lloyd ddwy flynedd yn ddiweddarach, rhoddodd ei chwaer Mrs Massey yr adeilad yn ôl i’r ymddiriedolwyr. Fe’i defnyddiwyd wedyn ar gyfer yr Ysgol Sul, a hefyd ar gyfer cyngherddau Nadolig ac eisteddfodau lleol tan oddeutu 1959, pryd yr adeiladwyd Neuadd Goffa D.H.Evans yn Pontsiân.

Adeilad â’i fynedfa ar y wal hir yw’r capel, wedi’i adeiladu o gerrig rwbel bras gydag addurniadau a chonglfeini o garreg nadd goleuach a tho llechi hanner talcendo. Mae dau ddrws allanol, gyda drysau panelog a ffenestri linter gyda rhwyllwaith croestor. Mae pâr canolog o ffenestri tal pengrwn gyda ffenestri sash dan ben o rwyllwaith croestor, a dwy ffenestr debyg, fyrrach o boptu iddynt uwchben y drysau. Yn y canol mae plac llechen â’r arysgrif “Llwynrhydowain 1834”. Mae dau arysgrif o’r gwaith adeiladu cynharach a phedair carreg goffa o’r 19eg ganrif, yn cynnwys un i Mary Thomas, gwraig gyntaf Gwilym Marles.

Y tu mewn ceir cynteddau â fflagiau llechi, yn arwain ymlaen i fyny grisiau i brif ystafell fewnol y capel a grisiau’r galeri. Mae gan bob cyntedd wal sgrin hanner gwydrog o’r 19eg ganrif yn gyfochrog â’r pulpud a 2 ddrws yn arwain i’r capel, wedi’u ffitio â cwareli ymyl gwydr lliw wedi’u hysgythru. Mae gan y prif du mewn lawr pren a waliau plastr gwyn a nenfwd gyda phanel canol crwn a chilfwâu wedi’u mowldio. Mae seddi mainc ar y llawr gwaelod, wedi’u gosod yn dri bloc yn wynebu’r Sedd Fawr unionlin. Mae dwy set o risiau i fyny at y pulpud llwyfan unionlin ac arnynt falwstrau bobin turniedig o arddull yr 17eg ganrif. Mae gan y pulpud ymestyniad gogwyddol canolog gyda phaneli wedi’u mowldio a darllenfa oleddog. Yn y gornel ogledd-ddwyreiniol mae hen lyfrgell y gweinidog sy’n cynnwys cwpwrdd llyfrau dwy haen â blaen sinc. Mae galeri ar y tair ochr o ganol y 19eg ganrif, wedi’i gynnal gan 5 colofn haearn yn dwyn y stamp “T BRIGHT CARMARTHEN” a gyda phaneli graenus wedi’u mowldio ar y blaen. Gyferbyn â’r pulpud mae’r cloc a’r geiriau “Dd Jones, Lampeter”. Seddi mainc agored sydd yn y galeri.

Animeiddio