Hanes Yr Hen Gapel

DS2014_288_003 copy

Dechreuodd achos yr Undodaidd yn Llwynrhydowen yn 1726, pryd y dywedir bod Jenkin Jones wedi pregethu i’r gynulleidfa Arminaidd gyntaf yng Nghymru a darddodd o eglwys Pantycreuddyn. Adeiladwyd y capel cyntaf yn 1733, ac wedi marwolaeth Jenkin Jones yn 1742 fe’i dilynwyd gan ei nai, y Parch. D Lloyd o Frynllefrith. Roedd hwnnw’n bregethwr poblogaidd dros ben a chynyddodd y gynulleidfa’n aruthrol dan ei ofalaeth, nes y bu raid ehangu’r capel yn 1745. Cafodd ei ailadeiladu’n gyfan gwbl yn 1791 ar safle fymryn yn wahanol. Adeiladwyd y capel presennol, sef y trydydd, yn 1834.

Yn ystod y cyfnod hwn, hyd at 1876, gallai’r gynulleidfa fod cymaint â 600. Roedd yn rhan o ddiwylliant Undodaidd radicalaidd yng nghefn gwlad Cymru, a wrthsafodd don ar ôl ton o ddiwygiadau efengylaidd a ddeilliai o graidd Methodistiaeth Galfinaidd Cymru nid nepell i’r gogledd. Yn sgil hynny daethpwyd i adnabod y cymunedau hyn gyda’i gilydd yn hanesyddiaeth elyniaethus y Methodistiaid fel y ‘Smotyn Du’.

Roedd tir yr Hen Gapel wedi’i ddal ar brydles gan stad leol Alltyroden, a thua chanol y ganrif gwelwyd tensiynau cynyddol rhwng y tirfeddiannwr o Dori a’r gynulleidfa radicalaidd a’i gweinidog. Roedd stad Alltyrodyn wedi bod yn ddrwgenwog am droi pobl allan yn ystod y ‘Pedwar Degau Newynog’; cafodd Anna Lloyd Jones, mam Undodaidd y pensaer Americanaidd enwog Frank Lloyd Wright, ei throi allan yn yr adeg honno. Daeth y Parch. William Thomas, a oedd yn fwy adnabyddus dan ei enw barddol Gwilym Marles, yn weinidog ac yn eiriolwr dros ryddid gwleidyddol, cymdeithasol a chrefyddol ar ran y tlawd a’r gorthrymedig. Yn y pen draw, taflwyd y gweinidog a’r gynulleidfa allan o’r capel yn 1876 gan y tirfeddiannwr, John Lloyd o Alltyrodyn, a gwynai fod eu hideoleg Undodaidd ‘radicalaidd’, gwrth-Dorïaidd, yn torri amodau eu prydles. Wedi cau’r capel, anerchodd Gwilym Marles dorf o ryw 3,000 yn yr awyr agored, gyda’i gefn at y capel, a oedd dan glo a chadwynau arno.GwylimMarles copy

Yn sgil y diddordeb cenedlaethol a ysgogwyd gan y troi allan, cafwyd ymgyrch codi arian a chrëwyd capel newydd yn Rhydowen. Yn anffodus, erbyn hyn roedd Gwilym yn wael ei iechyd a bu farw cyn gallu bod yn presennol yn seremoni agor y capel newydd. Claddwyd ei gorff yn y capel newydd, a gysegrwyd wedyn er coffâd iddo.

Wedi i John Lloyd farw sicrhaodd ei chwaer Mrs Massey fod y capel gwreiddiol yn cael ei roi’n ôl i’r gynulleidfa. Fe’i defnyddiwyd yn bennaf wedi hynny fel Ysgol Sul a lle ar gyfer cyngherddau ac Eisteddfodau, cyn cau yn y 1960au. Fe’i hailagorwyd am gyfnod byr yn y 1970au fel amgueddfa Undodaidd.
Mae arwyddocâd diwylliannol hefyd i’r ffaith fod Gwilym Marles yn hen ewythr i’r bardd, Dylan Thomas. Mae awgrym, hyd yn oed, mai’r gweinidog a daflwyd allan mor waradwyddus oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r Parchedig Eli Jenkins yn nrama’r bardd, Dan y Wenallt.

Trosglwyddwyd yr Hen Gapel i’r Ymddiriedolaeth yn 2008, dan ei statws fel elusen ragnodedig dan Ddeddf Eglwysi ac Addoldai Eraill Gwag 1969 (fel y’i diwygiwyd yn Atodlen 5 Deddf Elusennau 1992).

 

Animeiddio