Thomas Thomas

Pensaer cenedlaethol cyntaf Cymru

DS2006_097_001

Blaen Capel Annibynwyr Salem a’i fwa mawr, Stryd Fawr, Porthmadog, 1860. ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Thomas Thomas oedd y mwyaf toreithiog o’r penseiri capeli y gwyddom amdanynt yng Nghymru, a dywedir ei fod wedi bod â rhan mewn adeiladu, adfer neu ehangu rhyw fil o gapeli ar hyd a lled y wlad. Fe’i cysylltid yn arbennig â gwaith adeiladu ar ran yr Annibynwyr Cymraeg, un o’r pedair enwad Anghydffurfiol mwyaf yng Nghymru. Bu’n ddiacon ac wedyn yn weinidog gyda’r Annibynwyr. Roedd defnyddio aelodau blaenllaw o enwad penodol fel hyn i ddylunio addoldai ar gyfer eu cynulleidfaoedd eu hunain yn bennaf yn un o nodweddion pensaernïaeth Capeli Cymru yng nghanol a diwedd y 19eg ganrif.

Cafodd Thomas ei eni a’i fagu ger Ffair-fach, Llandeilo, yn Sir Gaerfyrddin, a daeth yn ddiacon yng Nghapel yr Annibynwyr yno yn ei arddegau. Gweithiodd gyda’i dad yn ei fusnes saer coed cyn ymadael i fyw yn Abertawe. Heb unrhyw hyfforddiant diwinyddol ffurfiol fe’i penodwyd yn weinidog ar Gapel Annibynwyr Hebron ym mhentref glofaol Clydach yng Nghwm Tawe isaf ym 1848.

CD2003-255-035

Dyluniad nodweddiadol Thomas Thomas o blac enw’r capel a’i ddyddiad ar Gapel Annibynwyr Carmel ym Mhorth Amlwch, 1861/2. ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Nid oes sicrwydd sawl capel y gallai fod wedi’u dylunio yn y 1830au a’r 1840au ond un o’i gynlluniau ef bron yn ddi-os oedd ailddyluniad ei gapel ei hun yn Hebron yn y 1840au. Yn aml gellir priodoli dyluniad i Thomas ar sail dyluniad y plac sy’n dwyn enw a dyddiad y capel. Yn ei gapeli cynnar byddai hwn fel arfer ar ffurf plac carreg petryal â minfylchau crwm wedi’u cerfio allan o’r pedair cornel a’r garreg wedi’i chynnal ar ddau fraced neu gorbel carreg. Mae plac o’r fath wedi’i ailosod ar yr Ysgoldy wrth ochr y capel yn Hebron a ailadeiladwyd yn ddiweddarach.

DS2009_053_001

Tu allan o gapel diweddar gan Thomas Thomas yn yr arddull Lombardaidd. Capel Annibynwyr Bethania, Rhes Penrhyn, Bethesda. ©Hawlfraint y Goron: CBHC

TY cynulleidfaoedd mwyaf cyfoethog yng nghanol y 19eg ganrif oedd y rhai o gwmpas canolfan ryngwladol y diwydiant copr yn Abertawe. Roedd llawer o uwch-reolwyr y gweithfeydd copr yn ddiaconiaid yng nghapeli’r cylch, a’r Annibynwyr Cymraeg oedd anghydffurfwyr mwyaf niferus yr ardal gefnog hon. Gwaith Copr yr Hafod oedd y gwaith copr mwyaf yn y byd, a gwaith Copr y Morfa’n ail agos, a byddai llawer o’r gweithwyr a’r rheolwyr yn mynychu Capel Annibynwyr Seilo gerllaw. Dyma’r gynulleidfa a ofynnodd i Thomas Thomas ddod yn weinidog arnynt ym 1851. Yn rhyfeddol, parhaodd yn weinidog yng Nghlydach, ac ar Gapel Annibynwyr Cadle (Fforestfach) i’r gorllewin, tan 1853. Ailddyluniodd Gapel Seilo ac adeiladodd Bryn Villa gerllaw fel mans iddo’i hun yn ogystal ag Ysgol Sul a Dyddiol ym Mrynhyfryd.

Roedd tua chwarter aelodau Undeb Cynulleidfaol Cymru a Lloegr yn weinidogion yng Nghymru a chafodd yr Undeb sawl Cadeirydd o Gymro. Wrth i fewnfudo ac addysg Saesneg gynyddu, helpodd llawer o gynulleidfaoedd Cymraeg y gwaith o ddarparu capeli Saesneg, yn enwedig yn Sir Fynwy. Wrth blotio lleoliad capeli a ddyluniwyd gan Thomas Thomas yn y cyfnod hyd at 1849 gwelir bod tri chwarter ohonynt yn ardal y gwaith haearn mwyaf yn y byd yn ardal Blaenau’r Cymoedd ym Mynwy, ac roedd dau draean o’r rheiny’n gapeli Saesneg yn hytrach na rhai Cymraeg.

DS2009_053_006

Tu mewn capel diweddar gan Thomas Thomas yn yr arddull Lombardaidd. Capel Annibynwyr Bethania, Rhes Penrhyn, Bethesda. ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Rhoddodd y brwdfrydedd a enynnwyd gan ddiwygiad crefyddol mawr 1859-60 hwb i weithgareddau adeiladu ac ailadeiladu yn yr enwadau Cymreig i gyd. Chwyddodd y nifer o gapeli a ddyluniwyd gan Thomas Thomas. Mae’n anodd nodi pa gapeli’n union a ddyluniwyd gan Thomas, a hynny’n bennaf am fod gan gynulleidfaoedd lawer mwy o ddiddordeb mewn materion ysbrydol a chrefyddol nag yn yr adeiladau lle gwneid yr addoli. Ond yn y cyfnod rhwng 1850 a 1869 gwyddom ei fod wedi canolbwyntio’i waith o gwmpas ardal gweithfeydd copr Abertawe. Capeli i gynulleidfaoedd Annibynwyr Cymraeg oedd y rhain gan mwyaf ond fe ddyluniodd tua hanner y nifer honno o gapeli ar gyfer cynulleidfaoedd Saesneg yn ardal Abertawe.

Roedd ardal y chwareli yng Ngwynedd ac Ynys Môn yn frwd iawn dros achos yr Annibynwyr Cymraeg hefyd. Mae’n debyg fod Thomas wedi dylunio bron gymaint o gapeli yn yr ardal honno cyn 1869 ag y gwnaeth ar gyfer cynulleidfaoedd Cymraeg Abertawe. Yn y cyfnod hwn daeth ei ddyluniadau nodweddiadol mor adnabyddus fel bod llawer o’r cynulleidfaoedd trefol mwy cefnog ar hyd a lled Cymru’n awyddus i Thomas ddylunio eu capeli. Âi hyn y tu hwnt i enwad ac iaith, ac roedd cryn alw am ei waith ymysg edmygwyr ei gapeli Cynulleidfaol yng nghymunedau gweithfeydd haearn y de-ddwyrain.

Erbyn 1875 roedd yn un o’r ychydig benseiri capeli i gael ei enw ar gerrig sylfaen ei adeiladau ac yn y papurau newydd Cymraeg. Ond yn y flwyddyn honno fe ymddeolodd fel gweinidog. Wrth i slymiau gael eu clirio bryd hynny i hwyluso mynediad i Orsaf Abertawe i’r meistri copr oedd yn byw o gwmpas Bae Abertawe, datgelwyd ei fod yn berchen ar oddeutu 40 o dai a ddefnyddid fel puteindai. Cafodd iawndal am eu dymchwel ac ymddeolodd i dŷ mawr ger y Bae lle ymunodd â’r Capel Cynulleidfaol Saesneg lleol, a pharhaodd i ddylunio capeli tan ei farwolaeth ym 1889.

Mae’n adnabyddus am boblogeiddio’r bwa mawr yn wal dalcen flaen ei gapeli fel nodwedd ddylunio. Mae modd profi iddo gael benthyg syniadau oddi wrth Thomas Oliver yr ieuaf, pensaer proffesiynol y cyhoeddwyd engrafiadau o’i ddyluniadau bwâu mawr ym Mlwyddlyfr Undeb Cynulleidfawyr Cymru a Lloegr. Roedd y Capeli Bwa Mawr hyn yn destun cryn edmygedd a byddai’r adeiladwyr lleol a gynorthwyai Thomas yn aml yn adeiladu eu fersiynau eu hunain o’r un peth yn yr ardaloedd cyfagos.

Arbrofodd hefyd gyda dyluniadau eraill, a byddai fersiynau o bob un yn ymddangos ledled Cymru wedi’u hadeiladu mewn amrywiaeth o ddefnyddiau adeiladu lleol. Er cryn bryder i rai cynulleidfaoedd Anghydffurfiol lleol bu’n arbrofi hefyd gyda’r arddull Gothig gan esblygu ambell ddyluniad treswaith gwreiddiol. Ei gapel mwyaf oedd capel mawr dau dŵr y Tabernacl Newydd yn Everton yn Lerpwl, capel ar gyfer cynulleidfa Gymraeg mewn arddull gymysg Romanésg a Gothig cynnar, lle cafodd gymorth y pensaer capeli lleol Richard Owen. Ei adeilad mwyaf yng Nghymru oedd Coleg Coffa’r Annibynwyr yn Aberhonddu, gyda thŵr Gothig ymddyrchafol yn tra-arglwyddiaethu dros adeilad sydd bellach yn fflatiau.

Stephen Hughes

Darllen Pellach:

Stephen Hughes, ‘Thomas Thomas, 1817-88: the first national architect of Wales’, Archaeologia Cambrensis 152 (2003), pp. 69-166.