Llestri Capel

Llestri Capeli – pethau prin iawn bellach yn enwedig llestri’r capeli hynny sydd wedi cau. I ble yr aeth degau, ie gannoedd, ohonynt o gofio fod gan bron bob capel ei set o lestri? ‘Doeddent o fawr werth fel henebion i’r bobl hynny sy’n prynu gweddillion capeli ac felly mae’n debyg mai i’r sgip yr aethant. I ryw ddau neu dri ohonom sy’n eu casglu, ofer yn aml yw chwilio amdanynt. Nid erys ond yr ychydig a gafodd eu rhannu rhwng yr aelodau mwyaf ffyddlon pan ddatgorfforwyd yr achos. Yr unig obaith o’u cael bellach yw trwy ryw fam neu wyres a fu’n clirio tŷ’r fam-gu – di-werth yw’r rhain ganddynt gan nad oes diddordeb na chysylltiad mwyach gyda’r man a berchid gymaint gan yr hen wraig.

Yn y capeli sydd ar agor prin bellach y defnyddir y llestri hyn gan fod rhai rhatach a diaddurn wedi cymryd eu lle. Mewn ambell i gapel, lle yr unwyd dau neu dri achos ceir cymysgedd o lestri – ond efallai rhag digio a chynhyrfu gwahanol aelodau sy’n dal teyrngarwch i’w hen gapel, nis defnyddir. Maent yn dal llwch ar ryw silff uchaf mewn cwpwrdd yn y gegin gefn. Yn hytrach, defnyddir llestri mwy modern sydd yn fwy unffurf a di-liw a heb fod o ddiddordeb i gasglwr. Mor hardd yr edrychai byrddaid o’r llestri gwreiddiol ar noson sosial neu brynhawn Cymanfa Ganu.

Byddai cynhyrchwyr y llestri hyn yn anfon eu catalogau, o bryd i’w gilydd, i werthwyr llestri, dodrefn neu debyg yn y gwahanol drefi fel y medrai capeli neu rywun fyddai am wneud rhodd, ddewis eu hanghenion. Byddai ynddynt ddewis o ffurf a siâp, lliw a maint ac yn arbennig ffurf y bathodyn enw. Y bathodyn cyntaf yn y llun isod, efallai, sydd fwyaf cyffredin a thebyg ei fod yn perthyn i ryw gwmni arbennig. Roedd gan gwmnïau eraill eu gwahanol fathodynnau enw ac mewn gwahanol liwiau fel y gwelir yma.

Yn ôl catalogau tua chanol y tridegau pris dwsin o soseri nau blatiau bach oedd tua swllt a chwech gyda’r cwpanau ychydig geiniogau’n ddrutach. Os oedd y cwmni yn rhesymol enwog yna dodent yr enw ar gefn y llestri ond os byddai’r cwmni wedi cael arall mwy di-nod i wneud y gwaith drostynt yna ni cheid yr enw.

Roedd y gost wreiddiol ychydig yn uwch oherwydd roedd yn rhaid i’r cynhyrchwyr ysgythru plât copr o’r bathodyn enw;  byddai hwn yn cael ei gadw ganddynt am nifer o flynyddoedd ar gyfer yr archeb nesaf. Ffordd dda i sicrhau nad cwmni arall fyddai’n cael yr archeb.

Tua dechrau’r ganrif ddiwethaf dechreuwyd mudiad dirwest gan Cranogwen yn enwedig yn rhai o gymoedd y de – Y Rhondda Fawr a’r Rhondda Fach yn arbennig. Mae’n debyg i nifer o gapeli yn y cymoedd yma gynnwys y llythrennau yma UDMD ar eu llestri sef Undeb Dirwestol Merched y De. Anodd iawn, os o bosibl,yw  dod o hyd i’r llestri yma bellach, ond deil rhai, ac fe’u defnyddir yn Llanilar – ymhell o gymoedd y de. Efallai fod eu hangen yno o hyd gan fod y capel a’r dafarn yn wynebu ei gilydd yn y pentre’.

Anghyffredin iawn yw llestri Capel Gwynfil Llangeitho lle ceir yr enw llawn wedi ei dorri ar letgroes iddynt, ‘Wesley Llangeitho’ dylanwad unffurfiaeth Daniel Rowlands yn aros o hyd. Mewn llawer i gapel nid y llestri yn unig sy’n nodi’r enw; ceir nifer o enghreifftiau o’r enw ar y cyllyll a ffyrc ac fe geid offer arbennig yn rhai capeli, yn enwedig yn y de, i ddal y cynnwys erbyn y cymun.

 

Prin iawn yw’r llestri o’r Eglwys Wladol. Pam tybed? Ai oherwydd bod crefydd y capeli yn fwy cymdeithasol a’u festrïoedd yn ganolfan i bob sosial, cyngerdd, eisteddfod a chyfarfodydd amrywiol y plwyf?

Mae bathodynnau y rhan fwyaf yn Saesneg. Ond mae mwy i lestri capeli nag sydd yn ymddangos. Mae llawer ohonynt yn adlewyrchu safon a safle cymdeithasol yr achos.

Mae’r llestri mwyaf cain a drudfawr, ran amlaf, yn eiddo i’r capeli mwyaf – yn enwedig y capeli hynny yn y trefi neu rai dinasoedd dros y ffin megis Llundain a Lerpwl. Adlewyrchant gyfoeth, nid yn unig yr achos, ond hefyd yr aelodau, gan fod llawer o’r llestri hyn wedi eu cyflwyno fel cofeb i rywun annwyl ymadawedig.

Ar y llaw arall, digon rhad a di-raen yw llestri’r canghennau a berthynai i lawer o’r capeli hyn – y ’ragged Sunday Schools’ fel y’u gelwid mewn ambell dref – llestri pridd a digon diaddurn.

Trist yw nodi mae rhywbeth i’r oes a fu yw ein llestri capeli mwyach, rhywbeth i gasglwyr henebion i gofio am y
poblogrwydd a fu. Trist yw datgan fod ein crefydd wedi mynd yn ddi-liw, yn fwy dieithr ac yn llai cymdeithasol heb sôn am yr ochor ysbrydol.

William Griffiths, Aberystwyth