Defnydd cymdeithasol a diwylliannol

Addysg, yr Ysgol Sul, Darlithoedd, y Gymraeg, Llenyddiaeth

Griffith Jones (1684-1761) Rheithor Llanddowror

Griffith Jones (1684-1761) Rheithor Llanddowror

Mae perthynas agos wedi ffurfio rhwng capeli Anghydffurfiol a gweithgareddau addysgiadol a fu’n gysylltiedig yn bennaf â’r ysgol Sul a gynigiai ddosbarthiadau i oedolion a phlant fel ei gilydd. Gellir olrhain rhan o gefndir yr Ysgol Sul i ddigwyddiadau cyfatebol yn Lloegr, gan gynnwys gweithgareddau Robert Raikes a’i ymdrechion i addysgu oedolion ym Manceinion a Gwlad yr Haf. Yng Nghymru roedd datblygiadau cynharach yn cynnwys ysgolion cylchol Griffith Jones (1683-1761) mewn sawl rhan o Gymru, ac roedd y Parch. Thomas Charles, y Bala (1755-1814) yn ffigur allweddol, y gellir priodoli ei gyfraniad aruthrol i’w weledigaeth arloesol, ei sêl genhadol a’i ddoniau trefnu. Un canlyniad i dwf yr ysgolion Sul, a’r capeli, oedd galw cynyddol am Feiblau, ac roedd ei gyfraniad yn allweddol eto o ran ei gyfranogiad at sefydlu’r Feibl Gymdeithas a sicrhaodd argraffu a dosbarthu Beiblau Cymraeg.

CHARLES-Thomas_detail

Rev. Thomas Charles, Bala (1755-1814)

Brad_y_Llyfrau_Gleision_(llyfr)

“Brad y LLyfrau Gleision”

Amcan grefyddol oedd gan Thomas Charles yn bennaf, a’i fryd ar achub eneidiau, a’i nod yn ei Eiriadur Ysgrythyrol (4 cyfrol, 1805-1811) oedd esbonio a gwella dealltwriaeth o’r Beibl. Un canlyniad pwysig oedd cynnydd sylweddol yng nghyfraddau llythrennedd y Cymry. Hefyd, wrth i’r Anghydffurfwyr roi pwyslais ar ddarllen yr Ysgrythurau, a oedd wedi’u cyfieithu gan yr Esgob William Morgan i’r Gymraeg ym 1588 mewn cyfieithiad a ganmolwyd yn helaeth am ei geinder a’i eglurder, cafodd hynny effaith gadarnhaol ar yr iaith. Roedd hyn yn arbennig o bwysig yn wyneb y pwyslais ar y Saesneg fel unig gyfrwng y dysgu yn yr ysgolion dydd, lle gwaherddid defnyddio’r Gymraeg: un o’r pethau a ddarganfuwyd dan y llawr yng nghapel Pen-rhiw, Drefach Felindre, pan gafodd ei ddatgymalu cyn ei symud i’w leoliad presennol yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan, oedd y ‘Welsh Not’ a gâi ei grogi am wddf plentyn a ddaliwyd yn siarad Cymraeg yn yr ysgol. Canlyniadau gwerthfawr eraill i ledaeniad yr ysgolion Sul, mae’n debyg, oedd y cyfleon i unigolion ddatblygu eu sgiliau dadlau yn sgil trafod manwl ar faterion Beiblaidd a diwinyddol, a hefyd i ymgymryd â chyfrifoldebau cymdeithasol mewn strwythur cymdeithasol lle rhoddid bri ar werthoedd democrataidd.

Cydnabuwyd gwerth yr Ysgol Sul yn adroddiad y llywodraeth ar gyflwr addysg yng Nghymru, 1847 ‘Brad y Llyfrau Gleision’ fel y’i galwyd yn sgil ei bwyslais ffyrnig a hysterig ar brydiau ar anfoesoldeb ac anwybodaeth y Cymry, a’i ymosodiadau ar yr iaith Gymraeg. Er y sylw a roddwyd i rai diffygion tybiedig, roedd y comisiynwyr yn llawn canmoliaeth i’r ysgolion Sul y dywedwyd bod eu ‘tuedd gyffredinol’ yn ‘bendant yn fuddiol’ gan gyfeirio at ‘the permanent and striking effect which they have produced upon society’. Cofnododd cyfrifiad crefyddol 1851 fod 57% o boblogaeth Cymru’n mynychu man addoliad [yn cyferbynnu â’r 37% o boblogaeth Lloegr] a bod 87% o’r rhain yn bresennol mewn capel neu dŷ cwrdd. Roedd ysgol Sul gan y rhan fwyaf o’r capeli: ym Môn roedd gan 58 o 65 capel y Methodistiaid Calfinaidd ysgol Sul, ac roedd hynny’n wir am 33 o 36 chapel yr enwad yn ardal Pwllheli. Byddai 32.9% o drigolion gogledd Cymru’n mynychu ysgol Sul a 22.4% o drigolion y De. Dywedwyd ym 1852 fod bron i 100,000 o blant dan 15 oed yn cael eu dysgu gan ryw 25,000 i 30,000 o athrawon, a chyfeiriai ystadegau a gyhoeddwyd ym 1883 at 461,468 o ddisgyblion mewn ysgolion Sul anghydffurfiol. Cynyddodd nifer yr ysgolion Sul yng nghapeli’r Methodistiaid Calfinaidd o 1,483 ym 1885 i 1,664 ym 1900, a chynyddodd nifer y disgyblion o 186,740 i 202, 759, gan gyrraedd uchafrif o 222,239 ym 1905.

Y bwriad i oleuo’r gymuned leol oedd yn gyfrifol am yr ymdrechion i drefnu darlithoedd ar bynciau penodol. Ym Methania, Maesteg, anerchwyd cyfarfodydd gan y Parchedigion Toyohio Kagawa, Japan ym Mehefin 1950 a Dr Martin Niemoller, yr Almaen, ym Mehefin 1953. Dyna ddau o’r siaradwyr mawr eu bri a wahoddwyd i gyfarfodydd y gymdeithas a gynhelid ar brynhawniau Sul yn ysgoldy Tabernacl, Caerfyrddin, a drefnwyd am flynyddoedd lawer, o 1928 ymlaen, gan T.J. Evans, ysgrifennydd diwyd y capel. Ymysg siaradwyr enwog eraill a wahoddwyd i annerch y cyfarfodydd roedd y Parchedigion Dick Sheppard, Donald Soper a W. E. Sangster; yr Arglwyddi Attlee a Hailsham; a Hugh Gaitskell ac Emlyn Williams. Anerchodd y Parch. Ddr Niemoller gyfarfod a gynhaliwyd yn ysgoldy Zion, Llanelli, hefyd, lle cynhaliwyd cyfarfodydd gwleidyddol hefyd, a’r siaradwyr yn cynnwys David Lloyd George ar fwy nag un achlysur.

Daniel Owen

Daniel Owen (1836-95)

Yn yr ysgoldy hwn ym 1947 y sefydlwyd yr ysgol ddwyieithog gyntaf yng Nghymru i’w sefydlu gan awdurdod lleol, ac yma y bu nes symud i gartref parhaol. Ymysg capeli eraill a chwaraeodd ran bwysig yn sefydlu a chynnal ysgolion dwyieithog roedd Bethania, Maesteg, y bu ei ysgoldy’n gartref ym 1949 i ysgol Gymraeg newydd Maesteg; Bethesda, yr Wyddgrug, cartref cyntaf ym 1949 yr ysgol gynradd a esblygodd i fod yn Ysgol Gymraeg Glanrafon; a Chapel Mawr, Dinbych, y cynhaliwyd ysgol Gymraeg Twm o’r Nant yn ei ysgoldy cyn iddi symud i adeilad newydd.

Roedd gweinidogion ac aelodau blaenllaw’r capeli’n cynnwys nifer o awduron toreithiog ac unigolion amlwg ym myd cyhoeddus a llenyddol Cymru. Cyhoeddodd Thomas Evans, neu Tomos Glyn Cothi (1764-1833), gweinidog yr Hen Dŷ Cwrdd, Trecynon, (1813-33) a gweinidog cyntaf yr Undodiaid yng Nghymru mae’n debyg, bamffledi, cyfieithiadau a Geiriadur Cymraeg-Saesneg. Roedd David Rees (1801-69), gweinidog Capel Als, Llanelli (1829-1869) a adwaenid fel ‘Y Cynhyrfwr’ oherwydd ei edmygedd o Daniel O’Connell (1775-1847), yr arweinydd gwleidyddol yn Iwerddon a ymgyrchodd dros ryddfreinio’r Pabyddion, yn un o arweinwyr blaenllaw Cymru’r 19eg ganrif, yn amddiffynnwr cadarn dros Anghydffurfiaeth a fynegodd ei syniadau Radicalaidd yn groyw fel golygydd cylchgrawn Y Diwygiwr (1835-1865). Hefyd, ystyrir Daniel Owen (1836-95), pregethwr achlysurol ac un o’r rhai cyfrifol am drefnu’r gwasanaethau nosweithiol ym Methesda, yr Wyddgrug, yn un o’n nofelwyr Cymraeg mwyaf, a rhoddai ddarluniau byw o’r capel mewn nofelau fel Rhys Lewis ac Enoc Huws.

Huw Owen

 

Darllen pellach:

Braslun o hanes yr eglwysi… [Hanes byrrach, argraffedig mewn llawlyfr o Gyfarfod Blynyddol y Bedyddwyr a gynhaliwyd ym Methania ym 1925]

Davies, Hanes Eglwys Bethania am y can mlynedd diwethaf,

Lionel Madden, Social and cultural uses of chapels, (papur heb ei gyhoeddi)

David Leslie Davies, They love to be Dissenters: The Historical Background of Hen Dŷ Cwrdd, Aberdare, 1650-1862, (2012)

Huw John Hughes, Coleg y Werin, Hanes yr Ysgol Sul yng Nghymru rhwng 1780-1851, (2013)

D Huw Owen, The Chapels of Wales, (2012)

Ieuan Gwynedd Jones and David Williams (gol.), The Religious Census of 1851, A Calendar of the Returns relating to Wales, vol.1 South Wales, (1976)

Ieuan Gwynedd Jones (gol.), The Religious Census of 1851, A Calendar of the Returns relating to Wales vol.ii North Wales, (1981)