Richard Owens

Llythyrau a manylebion gan Bensaer Capeli Cymraeg yn Lerpwl

DI2006_0267

Arcedau bwaog gosgeiddig y galeri yng Nghapel Annibynwyr Cymraeg Seion, Stryd y Popty, Aberystwyth, 1878 ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Richard Owens yw’r ail bensaer capeli mwyaf toreithiog yng Nghymru ac ef oedd dewis bensaer y Methodistiaid Calfinaidd – yr unig un o’r enwadau Anghydffurfiol sy’n gynhenid Gymreig a heb enwad cyfatebol yn Lloegr – tua diwedd y 19th ganrif. Ef hefyd yw’r unig bensaer capeli y mae gennym gasgliad enfawr o lythyrau a manylebion dyluniad capeli i fwrw goleuni ar ei waith – casgliad sydd bellach yn Archifdy Lerpwl. Ef oedd y pensaer preswyl ar y safle yn ystod gwaith adeiladu Capel Cymraeg yr Annibynwyr neu’r Cynulleidfawyr – Tabernacl Newydd – yn Everton, Lerpwl ym 1866-68. Dyma’r capel mwyaf a ddyluniwyd gan Thomas Thomas, y mwyaf toreithiog un o holl benseiri capeli Cymru, ac mae’n debyg y gall gynrychioli proses arwyddocaol o gyfnewid syniadau rhwng y ddau bensaer blaenllaw hyn. Yn ystod yr un cyfnod bu wrthi hefyd yn awdurdodi’r taliadau am waith ar safle ‘Cadeirlan y Cymry’, sef Capel Methodistiaid Calfinaidd Princes Road yn Lerpwl – y capel Cymraeg drutaf a godwyd erioed.

DS2006_182_002

Adeilad eglwysaidd Gothig y Capel Presbyteraidd Saesneg ar y Maes yng Nghaernarfon o 1882/83, lle roedd Richard Owens mor anfodlon â gwneuthuriad y rheiliau. ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Ganwyd Richard Owens yn y Ffôr i’r gogledd ddwyrain o Bwllheli ar Benrhyn Llŷn yn Sir Gaernarfon, ond fel cynifer o’i gyd-Ogleddwyr symudodd yn ei ugeiniau i Lerpwl lle mynychodd ddosbarthiadau nos mewn adeiladu a phensaernïaeth. Roedd Lerpwl bryd hynny’n gweithredu i raddau fel prifddinas economaidd gogledd Cymru ac roedd yno nifer sylweddol o gwmnïau adeiladu Cymreig mewn dinas borthladd a oedd yn ôl pob tebyg yr ail fwyaf yn y byd. Gweithiodd Richard Owens ar ddylunio tai i weithwyr cyffredinol yn Everton i gwmni David Roberts a’i Fab, ac ym 1867 dyluniodd blasty iddynt, a Chapel Gothig crand y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele. Symudodd ei bractis pensaernïol yn ddiweddarach i adeilad pencadlys mawreddog a ddyluniodd yng nghanol Lerpwl. Dyluniodd 250-300 o gapeli, yng ngogledd Cymru’n bennaf. Adeiladwyd 35 yn y 1860au, 25 ohonynt ar gyfer enwad y Methodistiaid Calfinaidd, yr oedd yntau’n aelod ohoni. Edmygwyd ei waith yng Nghymru’n fawr a dyluniodd dim llai na 165 o gapeli yn y 1870au, 90 ohonynt ar gyfer enwad y Methodistiaid Calfinaidd. Cofnodwyd 38 arall yn y 1880au pan oedd wedi gwneud enw go iawn iddo’i hun.

DI2007_0289

Capel Eidalaidd-Lombardaidd y Bedyddwyr Saesneg yn Aberystwyth, 1870: un o ddau gapel a ddyluniwyd gan Richard Owens, ill dau yn Stryd y Popty, gyda thrydydd ar yr un stryd fer wedi’i ddylunio ar batrwm ei gapel Tabernacl yn Aberystwyth. Defnyddiwyd y dyluniad hwn ganddo mewn cyfnod o bedair blynedd hefyd ar gapeli yng Nghorwen, y Rhyl, Rhuthun, Rhuddlan, Llandderfel, Dwyran, Betws-y-coed ac Everton (Lerpwl) ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Collai amynedd fwyfwy pryd bynnag y gwelai ddefnyddio safonau adeiladu gwael ar y capeli roedd wedi’u dylunio. Mae hyn yn amlwg o’r dogfennau a gadwyd o’i bractis pensaernïol sy’n bwrw goleuni unigryw ar y broses ddylunio capeli yng Nghymru. Fel Thomas Thomas, dyluniodd ei gapel cyntaf i’w hen gynulleidfa Galfinaidd ei hun, yn yr achos hwn yn y Ffôr, ym 1861-62. Erbyn 1864 roedd y pedwerydd adeilad y gwyddom iddo’i ddylunio, Capel Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg Fitzclarence Street yn Lerpwl, yn cael ei adeiladu, a chofnodir ‘Early in 1864 on February 13 the half-built walls collapsed in a storm’. Ailddechreuwyd gweithio ddeuddydd yn ddiweddarach ar y capel £7,000 drudfawr hwn, a nododd yr adroddiad terfynol ar yr adeilad ar Ragfyr 15, 1865, fod popeth yn ‘Quite Correct.’

Mae tystiolaeth hefyd y gallai fod braidd yn bigog. Er enghraifft, mewn llythyr a anfonodd at y rhai a oedd wrthi’n adeiladu Capel Methodistiaid Calfinaidd Mynydd Seion, Stryd y Capel, Abergele, Sir Ddinbych ym 1867 gwelir y nodyn cryptig: ‘I enclose quantities [of building materials], it appears you do not want to see plans.’

Byddai pob pensaer capeli’n ymweld â safleoedd yn rheolaidd i arolygu gwaith yr adeiladwyr ar eu cynlluniau capel. Ar 24 Ebrill 1873, ymwelodd Richard Owens â safle adeiladu Capel Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg a Phresbyteraidd Saesneg Ithon Road yn Llandrindod, Sir Faesyfed, a nododd mewn llythyr anniddig y diwrnod canlynol ‘Surveyed yesterday … horrid evidence of hasty way finished.’

Ar 15 Mehefin 1883 ysgrifennodd lythyr hollol ddi-flewyn ar dafod at adeiladwr y Capel Wesle newydd ym Mhrestatyn, yn mynegi ei anfodlonrwydd â’r gwaith a wnaed: ‘To Mr. John W. Jones, Builder, Morley Road, Rhyl. I hereby give you this notice that I am not at all satisfied with the progress you are making at the new Wesleyan Chapel Prestatyn and unless you add considerably to the number of men on the ground and provide materials for them I shall on behalf of the Trustees take the work into my own hands and employ another party to do the work and charge you with the cost. You will please take this as three days legal notice as specified in the Contract. I cannot see any way to advance any more money until considerably more work is done. Yours respectfully, Richard Owens.’

Mwy eithafol oedd y modd y gweithredodd ar ôl ymweld â safle adeiladu Capel Saesneg y Presbyteriaid ar y Maes yng Nghaernarfon ym 1883. Drannoeth ysgrifennodd at y bwriwr haearn a oedd wedi cyflenwi rheiliau’r capel: ‘Mr. W.H.Peake, Seal Street. Sir, I have just returned from Caernarfon and I saw the Gates and Railings made by you to my order, and I beg to inform you that I have condemned the whole thing and ordered them down again of all the Iron Works that I ever had this is the worst specimen. Your Gates are fully 5’’ [12.7cm] too narrow and the work most slovenly done throughout. They will be there at your own risk and you will have to pay the carriage of them.’ Fodd bynnag, yn yr achos hwn efallai iddo fynd y tu hwnt i’w awdurdod fel pensaer, oherwydd ysgrifennodd pwyllgor adeiladu’r capel ato i ddweud nad oeddent yn hapus â’r hyn a wnaeth.

Roedd Richard Owens yn frwd o blaid defnyddio elfennau a gymerwyd o’r bensaernïaeth gymysg a oedd yn gyffredin yng ngogledd yr Eidal (Lombardia) yng nghyfnod y newid o bensaernïaeth Romanésg bwâu crynion (Pensaernïaeth Normanaiddfel y’i gelwid ym Mhrydain) i’r arddull Gothig, a gynrychiolid gan ffenestri crynion a threswaith plât. Roedd y bensaernïaeth Eidalaidd-Lombardaidd hon yn gweddu i’r dim i syniadau penseiri Fictorianaidd o ran cymysgu arddulliau i ganfod mynegiant newydd o ffurfiau pensaernïol ar gyfer y 19eg ganrif. Dyluniodd hefyd rai o’r enghreifftiau gorau o gapeli ‘eglwys lawn’ Gothig a chapeli pedimentog Eidalaidd yn arddull y Dadeni a berthyn i ail hanner y 19eg ganrif, a hynny yng Nghymru ac mewn capeli Cymraeg yn Lerpwl a threfi eraill yn Lloegr.

Cymaint oedd yr edmygedd tuag at waith Richard Owens nes iddo ddylunio cynifer â phedwar capel yr un mewn trefi fel Aberystwyth a Llanidloes. Mae gan Stryd y Popty yn Aberystwyth ddau gapel o’i waith sy’n dal yn weithredol, sef capel Annibynwyr Cymraeg Seion a Chapel Bedyddwyr Saesneg Maes Alfred. Cafodd trydydd capel yn yr un stryd fer, sef Capel Bedyddwyr Cymraeg Bethel, ei ddylunio gan yr adeiladwr lleol Thomas Morgan ar batrwm gwaith Richard Owens ar gapel Tabernacl y Methodistiaid Calfinaidd yn Aberystwyth.

Stephen Hughes

Darllen Pellach
The Buildings of Wales Volumes (Yale, New Haven & London) for Carmarthenshire & Ceredigion (2006) & Pembrokeshire (2004) gan Thomas Lloyd, Julian Orbach a Robert Scourfield; Gwynedd (2009) gan Richard Haslam, Julian Orbach ac Adam Voelcker, a Powys (2013) gan Robert Scourfield a Richard Haslam. Ym mhob un o’r llyfrau hyn ceir cyflwyniad rhagorol i bensaernïaeth Anghydffurfiol a llawer cyfeiriad yn eu mynegeion at waith Richard Owens.