Capeli Diweddarach

Erbyn y 1840au, cafwyd newidiadau yng nghynllun capeli wrth i gynulleidfaoedd ddewis cael adeiladau a allai ddal mwy o bobl yn haws. Dilynodd y prif enwadau i gyd duedd debyg tuag at gapeli cynllun sgwâr ac wedyn rai cynllun talcen. Roedd sawl amrywiad i’r cynllun sgwâr, ond daeth y cynllun talcen yn gynllun cyffredinol cyn diwedd y 19eg century. In the latter type, the entrance was located within the front gable facade, the pews and galleries orientated towards the pulpit at the far end.

rccs00280

Capel Gwynfil, Llangeitho, Ceredigion ©Hawlfraint y Goron: CBHC, Picture ref; rccs00280

Dechreuodd y duedd gynyddol oddi wrth adeiladu capeli wal hir tuag at rai â chynllun dyfnach, mwy sgwâr, tua diwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg. Mae rhai enghreifftiau cynnar, fel capel Daniel Rowland a adeiladwyd ym 1764 yn Llangeitho, Ceredigion, a rennid yn fewnol â phileri carreg. Roedd cynlluniau ‘pileri dwbl’ o’r fath yn gyffredin mewn capeli mawr yn Lloegr tua diwedd y 18fed ganrif, gan adleisio arddull tai mawr. Ond tua diwedd y ganrif aeth capeli cynllun sgwâr yn fwy cryno, a gellid eu toi â thalcendo, gan wneud i ffwrdd â’r pileri anghyfleus.

Capel Bedyddwyr Ramoth, Y Bontfaen

Capel Bedyddwyr Ramoth, Y Bontfaen ©Hawlfraint y Goron: CBHC, Picture ref; DS2010_013_002

Capel Pentre Llifior

Capel Pentre Llifior, Sir Drefaldwyn ©Hawlfraint y Goron: CBHC, Picture ref: DS2012_436_001

Fel eu cymheiriaid yn Lloegr, mae capeli cynllun sgwâr yng Nghymru’n disgyn i ddau brif fath, sef y rhai â drysau canolog, fel capel Annibynwyr Ramoth, y Bontfaen, Morgannwg (1829), ac, yn llai cyffredin, y rhai a lynai at batrwm y capeli wal hir cynharach â drysau tua’r ddau ben. Tyfodd poblogrwydd y capel cynllun sgwâr yn sgil y ffaith y gellid darparu mwy o seddi i gynulleidfaoedd cynyddol o fewn awditoriwm mwy cryno. Ond fel gyda’r cynllun wal hir, roedd yn anodd, heb waith ailadeiladu mawr, adeiladu unrhyw estyniad ar wahân i ad-drefnu seddi a chodi galerïau. Mewn ymateb i’r broblem hon, gwelir newid arall yn null cynllunio capeli o tua 1800. Mae Capel Pentre Llifior, Betws Cedewain, Sir Drefaldwyn a adeiladwyd ym 1798 yn enghraifft gynnar dda o gapel lle mae’r fynedfa wedi’i hadeiladu yn y wal dalcen, a’r galeri a’r corau’n wynebu’r pulpud yn y pen gyferbyn

Capel Earlswood

Capel Earlswood, Sir Fynwy

aethpwyd i ffafrio capeli talcennog gyda blaenau mwyfwy ‘pensaernïol’ wedi i Gapel John Wesley gael ei adeiladu yn City Road Llundain ym 1778. Mae capeli talcennog cynharach wedi goroesi, ond roedd City Road a’i wyneb pedimentog yn hynod o ddylanwadol, nes i gynhadledd y Methodistiaid ym 1790 ddatgan bod ei gynllun yn esiampl briodol i holl gapeli newydd yr enwad. Capel talcennog syml y Methodistiaid yn Earlswood, Sir Fynwy (1791) yw un o’r enghreifftiau cynharaf sydd wedi goroesi yng Nghymru.

Wrth i’r ganrif fynd rhagddi, daeth waliau talcennog yn fwy addurnol, yn gyntaf gyda ffenestri ar y ddau lawr, er enghraifft, Capel Bedyddwyr Bethabara, Crucywel, Sir Frycheiniog (1840) neu gyda ffenestri uchel yn rhychwantu’r ddau lawr, er enghraifft Capel Bedyddwyr Llangloffan, Sir Benfro (1862). Parhaodd y traddodiad o ddefnyddio ffenestri pengrwn, er bod y ffurf bwa pigfain yn nodweddiadol o’r capeli Gothig diweddarach.

Roedd sawl mantais i gapel blaen talcen â’i seddi’n wynebu’r pulpud yn y pen pellaf. Roedd capeli o’r fath yn llai tebyg i dŷ cyffredin ac yn fwy tebyg i addoldy go iawn, gan ddangos hyder ac adnoddau cynyddol eu cynulleidfaoedd, yn enwedig pan fyddai ganddynt wyneb Gothig neu Glasurol ffasiynol. Roedd yn hawdd codi estyniad arnynt, un ai ar y cefn neu hyd yn oed ar y blaen. Roedd y cynllun culach yn caniatáu ar gyfer adeiladwaith to cryfach a byddai’r galerïau, boed o gwmpas tair ochr neu ddim ond ar wal y fynedfa, yn caniatáu i bawb weld y pulpud yn glir. Roedd ffurf y cynllun yn haws ei haddasu ar gyfer lleiniau trefol ac ar gyfer creu ffasâd a oedd yn fwy tebygol o sefyll allan mewn tref. Gwnaed i ffwrdd â’r traddodiad o osod ffenestr y tu ôl i’r pulpud, fel na fyddai problem mwyach wrth i’r haul ddallu’r gynulleidfa. Yn hytrach, rhoddid fframwaith o bren neu blastr am y pulpud yn aml, a hwnnw weithiau’n cynnwys adnod o’r ysgrythur.

Tua diwedd y 19eg ganrif, cafodd capeli tref, yn enwedig, eu hymestyn tuag yn ôl yn aml i wneud lle i organ (eitem anghyffredin cyn y dyddiad hwn), gan gyfuno hynny’n aml â phedwerydd galeri ar gyfer côr, a gyda festri ac ysgoldy y tu ôl, er enghraifft, Capel Wesleaidd Ebeneser Caernarfon, a estynnwyd ym 1893.

DI2008_0657

Capel Bethania, Berllandywyll, Myddfai ©Hawlfraint y Goron: CBHC, Picture ref: DI2008_0657

Erbyn y 1860au, roedd llawer o’r capeli hŷn wedi’u hailfodelu a’u had-drefnu yn ôl y cynllun talcen, a hynny wedi’i wneud mor grefftus yn aml nes nad yw eu gwreiddiau wal hir yn amlwg nes bydd gwaith adnewyddu’n datgelu agorfeydd cynharach. Mae rhai addasiadau’n fwy gweladwy, serch hynny, fel yng Nghapel Methodistiaid Calfinaidd Bethania, Myddfai, Sir Gaerfyrddin (NPRN 6610), lle ychwanegwyd talcen llydan ym 1880 dros wyneb blaen ochrol 1857. (llun ar Coflein) Wrth ailfodelu capel Methodistiaid Calfinaidd Tŷ Newydd, Cynwyl Gaeo, Sir Gaerfyrddin ym 1907, er creu mynedfa dalcen newydd, ni lwyddwyd yn llwyr i guddio gwedd capel gwreiddiol 1837.

DI2006_0088

Capel Rhosycaerau, Sir Benfro ©Hawlfraint y Goron: CBHC, Picture ref: DI2006_0088

Fel y gellid disgwyl, mae llawer o gapeli wedi’u hadeiladu ar gynllun ‘cymysgryw’, sy’n anodd eu categoreiddio. Adeiladwyd Capel Annibynnol Rhosycaerau yn Sir Benfro ym 1826 ar gynllun talcennog ond eto gyda phâr o ddrysau allanol. Mae gan gapel Bedyddwyr Ainon Llanuwchllyn, Sir Feirionnydd, 1840, flaen wal hir, ond cynllun sgwâr. Mor ddiweddar â 1860 mae capel AnnibynwyrNebo yn Efailwen, Sir Gaerfyrddin yn gapel cynllun sgwâr â thalcendo, ond eto gyda’r pulpud yn cefnu ar y cyntedd blaen, yn adlais o draddodiad hŷn y wal flaen hir. Mewn rhai rhannau diwydiannol o Geredigion ac, ychydig yn ddiweddarach, Sir Benfro, ceir capeli wyneb ochrol â’u tu mewn wedi’i gyfeirio at y wal dalcen. Mae’r rhain yn dyddio o ganol y 19eg ganrif, ac mae capel Methodistiaid Calfinaidd Penllwyn,(1850) Capel Bangor, Ceredigion, yn enghraifft dda. Nid yw’n eglur pam y tybiwyd bod y math yma o gynllun yn addas i gynulleidfaoedd o fwynwyr plwm neu lowyr yn bennaf, ond mae’n rhoi syniad inni o’r modd y gallai syniadau am arddull a chynllun ymledu’n gyflym ar draws Cymru, wrth i deuluoedd Anghydffurfiol symud o ardal i ardal.

DS2007_400_001

Capel Ebeneser, Llandudno ©Crown Copyright: RCAHMW, Picture ref:DS2007_400_001

Roedd cynlluniau wythochrog yn boblogaidd i eglwysi yn yr Iseldiroedd yn yr 17eg ganrif, ynghyd â rhai o eglwysi’r Presbyteriaid Albanaidd. Argymhellodd John Wesley y cynllun wythochrog fel ‘y gorau i’r llais’ ac mae amryw wedi goroesi ers diwedd y 18fed ganrif yn Lloegr, er enghraifft yn Stroud (1762). Ond yng Nghymru, mae capel Beulah ym Margam, Morgannwg, a adeiladwyd ym 1838 (NPRN 9858) (lluniau – ar Flickr) i’r Methodistiaid Calfinaidd, yn unigryw fel yr unig gapel wythochrog ei gynllun yn y wlad, er yr adlewyrchir y siâp yn aml yn y galerïau pum ochr niferus a geir mewn capeli wyneb ochrol o’r 1820au. Mae gan gapel Ebenezer William Beddoe Rees yn Llandudno, Sir Gaernarfon (1909) (NPRN 6898) gynllun hollol grwn, a cheir cynlluniau seddi hanner crwn neu bedol weithiau, er enghraifft yn y Tabernacl, Rhuthun, Sir Ddinbych (1888-91).Mae’n amlwg, ac efallai i’w ddisgwyl, fod yr adeiladwyr Anghydffurfiol, yn wahanol i’w cymheiriaid Anglicanaidd, yn gymharol rydd i addasu cynlluniau ac arddulliau i’w hanghenion, eu dewisiadau a’u cyllideb eu hunain. Mae amrywiaeth y capeli sydd wedi goroesi’n profi hynny, er ei bod yn amlwg hefyd, wrth i ffasiynau newid, y lledaenodd syniadau’n gyflym, ar lafar i ddechrau ac wedyn drwy’r wasg a’r cyfnodolion adeiladu, yn enwedig pan fyddai darluniau ar gael

Rob Scourfield