Arwyddocâd Rhyngwladol Capeli Cymru

Beth wnaeth gapeli Cymru’n wahanol i eglwysi a chapeli a adeiladwyd mewn mannau eraill, a pha mor arwyddocaol ydyn nhw?

Eglwys Gatholig gudd y tu ôl i wyneb tŷ cyffredin, 1671, Begijnhof, Amsterdam; Llun: Stephen Hughes

Adeileddau syml tebyg i dai oedd y capeli cynnar yng Nghymru. O ganol y 19eg ganrif roedd arddull wyneb yr adeilad yn fwy cymhleth ond ar y cyfan roeddent yn dal wedi’u hadeiladu am ffracsiwn o gost adeiladau crandiach yr Eglwys Anglicanaidd sefydledig. Haerwyd yn aml fod manylder neu symlrwydd addurniad addoldy Cristnogol yn dibynnu ar y math o addoli Cristnogol a arferir ynddo, ond gor-symleiddio yw hynny. Mae hynny’n ymhlygu bod Eglwys Gatholig wedi’i haddurno mewn arddull crand a chymhleth iawn a bod adeiladwaith Eglwys Anglicanaidd neu Esgobol yn hynod fawreddog a thraddodiadol. Byddai’r ddamcaniaeth hefyd yn golygu y câi capeli Anghydffurfiol bob amser eu hadeiladu ar ffurf tŷ gweddi syml i adlewyrchu arferion addoli Piwritanaidd a ysbrydolwyd gan Calvin ac eraill.

Eglwys Gatholig gudd mewn llofft, Ons Lieve op Solder, Ein Harglwydd yn yr Atig, 1661-63 Amsterdam; Llun: Stephen Hughes.

Gellir rhoi prawf ar y ddamcaniaeth honno drwy gymharu symlrwydd neu gymhlethdod addoldai Cristnogol mewn gwledydd eraill. Ceir prawf da mewn gwledydd lle arweiniodd y Diwygiad at sefydlu Calfiniaeth neu Lutheriaeth yn grefydd Brotestannaidd y wladwriaeth a lle daeth eglwysi Catholig newydd a grwpiau hollt Protestannaidd i gynrychioli’r Anghydffurfiaeth newydd.

Erbyn yr 16eg ganrif, Amsterdam oedd prif ddinas masnachu gogledd Ewrop; aeth drwy oes aur yn yr 17eg ganrif fel prif ddinas ymerodraeth eang ac yn y 18fed ganrif dyma brifddinas ariannol y byd. Dinas Gatholig bybyr oedd hi, yn ochri gyda Sbaen yn rhyfeloedd cartref a chrefyddol yr Iseldiroedd nes i Galfinwyr gymryd grym dinesig ym 1578 a throi’r Catholigion allan o Amsterdam yn y Newidiad; wedi 1581 cafwyd gwaharddiad swyddogol ar ymarfer y grefydd Gatholig yn agored. Serch hynny, parhau’n Gatholigion wnaeth llawer o bobl yn Amsterdam, gan ddathlu’r offeren yn eu hystafelloedd byw, mewn gweithleoedd ac mewn warysau, a hynny’n aml gyda chydsyniad mud yr awdurdodau. Yn awyrgylch mwy goddefgar yr 17eg ganrif gwelwyd rhwydwaith o eglwysi ‘cudd’ yn y ganolfan ariannol ryngwladol gyntaf hon, ac mae rhai enghreifftiau nodedig yn dal i fodoli. Yn y cyfnod hwn, ni chaniateid i eglwysi Catholig ymddangos fel eglwysi am mai Protestaniaeth oedd Crefydd y Wladwriaeth, ac ar ben hynny roedd rhaid iddynt gael enw seciwlar hefyd.

Roedd urdd grefyddol Gatholig fenywaidd y Beguines yn Amsterdam yn cydfyw yn y clos o dai sy’n dal i’w weld. Ym 1671 gosodwyd y garreg sylfaen ar gyfer addoldy pwrpasol newydd. Cymeradwywyd y cynlluniau adeiladu gan y fwrdeistref ar yr amod na châi’r adeilad ymdebygu i eglwys o’r tu allan.

Adeiladwyd yr enwocaf o eglwysi cudd Amsterdam yn yr un cyfnod ar safle agos at yr Olde Kirk mewn bloc tai’n wynebu hen Gamlas Voorburgwal. Cawsai’r tŷ ei brynu gan y Masnachwr Almaenig Jan Hartman ym 1661 ac ef a gododd y bloc saith llawr presennol yn y ddwy flynedd ganlynol. Roedd tŷ Jan ar lan y gamlas yn flaen tŷ i ddau arall a wynebai lôn gefn, ac ar y trydydd llawr adeiladodd eglwys, a gymerai’r rhan fwyaf o dri llawr uchaf y tai cefn. Mae dau lawr o orielau i’r eglwys ac fe’i hehangwyd oddeutu 1735.  Ei enw seciwlar gwreiddiol er mwyn peidio â thynnu blewyn o drwyn yr awdurdodau oedd ‘t Haantje’ ond yn y 19eg ganrif daethpwyd i’w adnabod fel ‘Ons’ Lieve Heer op Solder’ (Ein Harglwydd yn yr Atig), a bellach dyma Amgueddfa Amstelkring.

Ar y llaw arall, daliwyd i ddefnyddio’r eglwysi Catholig mawr o’r cyfnod cyn y Diwygiad ar gyfer y grefydd Brotestannaidd newydd, wedi tynnu’r cerfluniau a pheintiadau allan ohonynt. Roedd eglwysi mawr newydd yr 17eg ganrif yn adlewyrchu safle blaenllaw Amsterdam, ac nid egwyddorion syml Calvin oedd eu prif nodwedd, ond yn hytrach gyfleu tra-arglwyddiaeth y grefydd wladwriaethol newydd yng nghanolfan ariannol gyfoethocaf y byd. Y gyntaf o’r rhain oedd y Zuiderkerk a ddyluniwyd gan Hendrick de Keyser ac a adeiladwyd ym 1603-11. O ran ffurf, eglwys fawr draddodiadol ydoedd i bob pwrpas, â meindwr gorllewinol a dwy groesfa, ond yn arddull gyfoes y Dadeni yn hytrach na’r hen arddull Gothig.

Bu prosiect ehangu trefol 1613 yn fodd i greu Maestrefi newydd y Cylch Camlesi Allanol (sydd bellach yn Safle Treftadaeth Byd) lle roedd gofyn ar y dechrau am eglwysi Protestannaidd newydd ar gyfer datblygiad trefol y gogledd-orllewin. Roedd ardal ‘Nieuwe Werck’ neu Jordaan y tu allan i’r camlesi canolog i’r gogledd-orllewin yn faestref allanol llawer tlotach a rhoddwyd eglwys i’r fan hon ar yr un pryd â’r Westerkerk addurnedig iawn a wasanaethai ardal y camlesi mewnol. Y Noorderkerk (Eglwys y Gogledd, 1620-23) oedd hon; roedd yn fan addoli ar gynllun canolog lle gwireddwyd y ddelfryd orllewinol debygol o ganolbwyntio’r addoli ar y pulpud. Eto, bu i gynulleidfaoedd cyfoethocach, a mwy traddodiadol, y Zuiderkerk a’r Westerkerk adeiladu eglwysi a oedd o ran eu dyluniad yn fwy addas ar gyfer hen ffocws addoli’r Offeren Gatholig gan ganolbwyntio ar orymdeithiau a’r allor yn y pen dwyreiniol.  Yn ddiddorol iawn, daeth y ddadl hon i’r amlwg yn ystod y ddadl ynghylch dyluniad eglwys St Paul yn Llundain yn y cyfnod 1671-75, pan lwyddodd y clerigwyr traddodiadol eu bryd i drechu cynlluniau’r pensaer Christopher Wren i adeiladu’r gadeirlan ar ffurf Croes Roegaidd.

Erbyn canol y 19eg ganrif roedd yr Eglwys Gatholig yn mwynhau adfywiad ac wedi datblygu arddull bensaernïol Gothic aeddfed, gan droi oddi wrth yr eglwysi domestig eu gwedd â’u tu mewn clasurol. Roedd Eglwys Gwladwriaeth yr Iseldiroedd – yr Eglwys Ddiwygiedig Iseldiraidd – wedi parhau i godi adeiladau mawr ar eu pen eu hunain â gwedd Ddarddullaidd neu Ddadeni. Mater bellach i grwpiau hollt, a hefyd i gredoau lleiafrifol neu enwadau o darddiad tramor, oedd cynhyrchu addoldai di-nod wedi’u gosod o fewn terasau tai ar lannau camlesi a chanolbwyntio hynny o addurn pensaernïol y gellid ei fforddio ar flaen yr adeilad a wynebai stryd ar y gamlas. Nid oedd fawr ddim gwahaniaeth rhwng y math hwn o adeilad syml ar ffurf ysgubor gydag wyneb arddangos yn wynebu’r stryd a’r miloedd o gapeli Anghydffurfiol â’u hwynebau amlwg a adeiladwyd yn ne Prydain wedi Diwygiad Mawr 1858-59 ac ymlaen i ddechrau’r 20fed ganrif.

Roedd llawer o benseiri yng ngorllewin Ewrop a gogledd America tua diwedd y 19eg ganrif yn ceisio sefydlu arddull newydd gwahanol gan ymgorffori elfennau anghydweddol o’r gorffennol yn aml. Roedd anghydffurfwyr yn arbennig o hoff o wneud defnydd chwareus o batrymau o gymysgeddau arddull ar yr addurn ar eu blaen, a oedd yn nodwedd mor amlwg wahanol i addoldai mawr eglwys y wladwriaeth a’r grefydd Gatholig, a oedd ar i fyny.

Un o’r prif grwpiau i hollti oddi wrth yr Eglwys Ddiwygiedig Iseldiraidd oedd y Gereformeerden a adeiladodd gapel, neu eglwys, â blaen talcen ar y stryd hyd lan y Keizersgracht lydan yn Amsterdam ym 1888-90. Mae’r Keizersgrachtkerk hon yn dangos cymysgedd o’r arddulliau Gothig a Fenisaidd mewn cynllun a luniwyd gan G. B. ac A. Salm.  Problem glasurol gyda phroffil addoldai unto yn wynebu stryd yw sut i osgoi’r argraff fod y gynulleidfa’n addoli mewn cwt braidd yn blaen ac afrosgo. Y ffordd fwyaf mawreddog o ddatrys hyn yw darparu dau dŵr neu feindwr o boptu i’r talcen: yng Nghymru, er enghraifft, efallai bod rhyw 20 o gapeli, allan o 6,000, sydd â’r ‘wyneb cadeirlan’ yma. Mae’r Keisergrachtkerk yn Amsterdam yn defnyddio ffurf fersiwn pigfain Gothig o gynllun y bwâu mawr sy’n ymddatod i mewn i’r talcen.

Mae un arall o gapeli’r Gereformeerden yn dangos rhai syniadau clasurol o ran cynllun capeli. Fel llawer o gapeli ym Mhrydain, yn enwedig rhai’r Wesleaid, safai hwn ar safle cornel a roddai lawer o’r manteision o fedru hawlio presenoldeb dominyddol heb y costau o orfod prynu safle mwy a fyddai’n ofynnol ar gyfer adeilad a safai ar ei ben ei hun. Lluniwyd y capel yn arddull y Dadeni ac mae’r adeilad di-dŵr llai mawreddog hwn yn debycach i adeiladau eraill yr Anghydffurfwyr yn rhyngwladol.

Eglwys, neu gapel, Gothig arall sydd wedi’i hadeiladu i mewn i deras o adeiladau heb ddim ond ei hwyneb blaen yn weladwy yw’r Eglwys Esgobol Saesneg yn Amsterdam. Mae ei phroffil ar ffurf sied fawr sy’n awgrym clir o’i defnydd gwreiddiol fel marchnad frethyn a addaswyd gan y pensaer J. Janssen i greu’r eglwys bresennol ym 1827-29.  Er i’r eglwys hon gael ei hadeiladu i ddarparu man addoli i gynulleidfa Eglwys Anglicanaidd wladwriaethol de Lloegr, yn y cyd-destun hwn mae’n cynrychioli enwad a oedd yn Anghydffurfiol mewn perthynas â’r Eglwys Ddiwygiedig Iseldiraidd. Adlewyrchir ei chyd-destun yn ei harddull bensaernïol sydd, er yn ddefnydd cynnar iawn a dylanwadol o’r dull Gothig, wedi’i rhannu’n dair rhan gan dyrau main; llenwir pob rhan â thair ffenestr rwyllog fawr â rhwyllwaith croestoriadol syml na fyddai allan o’u lle mewn unrhyw adeilad syml, neu ‘gapel gothig’ yng Nghymru neu Loegr.

Mae’r berthynas hon rhwng yr adeiladau crand, addurnedig a thraddodiadol weithiau sy’n perthyn i eglwys Galfinaidd neu Brotestannaidd y wladwriaeth a’r adeiladau symlach, mwy cynnil neu gudd sy’n perthyn i enwadau lleiafrifol yn ddarlun eithaf cyson rhwng gwladwriaethau. Ceir darlun tebyg yn yr Alban lle arddelwyd Presbyteriaeth fel crefydd y wladwriaeth yn yr 16eg ganrif.

Pa ffactorau dylunio a barodd fod capeli Cymru’n arbennig?

Roedd dwy nodwedd ddylunio benodol a barai fod capeli Cymru’n unigryw. Un oedd bod Sedd Fawr ym mhob capel Cymraeg, lle’r eisteddai blaenoriaid y capel, gan sefyll a throi i wynebu’r gynulleidfa pan fyddent yn canu. Roedd y ‘Sêt Fawr’ yn union o dan y pulpud ac ym Mhrydain ceir trefniant tebyg gyda’r ‘Leaders Pews’ a geir yn rhai o gapeli Cernyw. Roedd y cloc ar wyneb yr oriel gyferbyn, fel y gallai’r gweinidog amseru ei bregeth, yn nodwedd a ddenodd sylw pregethwyr a phenseiri o lefydd eraill.

Roedd cynulleidfaoedd a oedd yn awyddus i gynnal y Gymraeg yn frwd iawn dros gadw defnydd arddull Eidalaidd arbennig hyd at ddiwedd y 19eg ganrif er mwyn cadw’r gwahaniaeth rhyngddynt ag arddull Gothig adeiladau’r Eglwys Anglicanaidd sefydledig. Mewn symudiad cyfochrog yng Nghatalonia ceisiodd grŵp o benseiri’n cynnwys Antonio Gaudi sefydlu Art Nouveau fel mynegiant arwahanol o bensaernïaeth genedlaethol Gatalanaidd i’w defnyddio mewn addoldai ac adeiladau eraill yn Barcelona a’r cylch.

Yn rhyngwladol, mae tebygrwydd teuluol rhwng adeiladau nad oeddent yn cydymffurfio â phrif grefydd y wladwriaeth, ac mewn capeli Protestannaidd yn Tsieina, U.D.A., Awstralia a Ffrainc gellir gweld arddull domestig, Eidalaidd a syml sy’n gyfarwydd i rai sy’n adnabod eu cefndryd mwy niferus, ac ieithyddol bwysig, yng Nghymru. Mae Robert G. Thomas yn Awstralia a Frank Lloyd Wright yn yr Unol Daleithiau ymysg y penseiri o Gymru, neu o dras Gymreig, a ddefnyddiodd syniadau Cymreig wrth ddylunio capeli Anghydffurfiol dramor.

Mae capeli Cymru’n arwyddocaol oherwydd bod cymaint ohonynt mewn ardal mor fach, sy’n arwydd o bwysigrwydd arbennig cynnal defnydd iaith a diwylliant lleiafrifol ar droad yr 20fed ganrif. Cynifer yw’r capeli a’r ysgoldai a thai gofalwyr a gweinidogion yng nghymunedau Cymru nes creu trefi sy’n nodedig o wahanol i unrhyw le arall.

Stephen Hughes

Darllen Pellach:

Amsterdam Heritage, Bureau Monumenten & Archeologie.

Archimon: The virtual museum of religious architecture in the Netherlands.

Coleman, B. I. 1980. The Church of England in the Mid-Nineteenth Century: a social geography, London, Historical Association.

Hughes, S.R. 2012.  ‘The Architecture of Nonconformist Christian Religion and National Identity’ in P. Bellamy and G. Montpetit, Religion: Beliefs, Theories and Societal Effects, New York, Nova Science, 103-142,

MacInnes, R.; Glendinning, M.; MacKechie, A. 1999. Building a Nation: The Story of Scotland’s Architecture, Edinburgh, Canongate.