Capeli Diwydiannol

untitled copy

Talcen tri-bwa Eidalaidd mawreddog capel Tabernacl, a gynlluniwyd gan John Humphrey, ac a adeiladwyd yn 1873 yng nghanolfan gynhyrchu- tunplat Llanelli, NPRN 6429 © Hawlfraint y Goron: CBHC

Roedd oes aur adeiladu’r capeli yng Nghymru’n cyd-fynd â sefyllfa’r wlad ar y pryd fel y gymdeithas bennaf ddiwydiannol gyntaf yn y byd. Ar adeg cyfrifiad 1851, roedd mwy o bobl wedi’u cyflogi mewn diwydiant nag mewn amaethyddiaeth, am y tro cyntaf ar y blaned.

Cynulleidfaoedd o weithwyr a adeiladodd y rhan fwyaf o’r capeli, a hynny’n aml dan arweiniad rheolwyr y gweithfeydd a masnachwyr lleol. Gan fod angen cymaint o gyfalaf i adeiladu gweithfeydd diwydiannol (haearn a chopr yn bennaf) a oedd gyda’r mwyaf yn y byd yng nghanol y 19eg ganrif, tueddai arweinwyr Byrddau’r rhan fwyaf o fusnesau diwydiannol i fod yn aelodau o’r Eglwys Anglicanaidd Wladwriaethol – Eglwys Loegr. Yr oedd ambell eithriad, fel Methodistiaid Wesleaidd y teulu Guest o Waith Haearn y Dowlais, neu’r teuluoedd Harford a Darby o Lyn Ebwy, a oedd yn Grynwyr, ond nid oedd y rhain o reidrwydd yn rhannu ffydd enwadol y rhan fwyaf o’u gweithlu, nac yn wir eu mamiaith, sef y Gymraeg fel rheol yn hytrach na’r Saesneg. Serch hynny, un diwydiannwr Anghydffurfiol a rannai enwad â rhai o’i weithwyr oedd George Conway, y Bedyddiwr a sefydlodd Waith Tunplat Pont-rhyd-yr-ynn ger Cwmbrân, a adeiladodd gapel clasurol arbennig o gain yn yr ardal ym 1836. Gyda’i gyfoeth, sicrhaodd ei fod yn gapel anarferol o fawr â lliaws o golofnau gwastad cymen ar ei furiau.

Rhyw £1,000-£2,000 oedd y mwyaf y gallai cynulleidfa o weithwyr diwydiannol neu amaethyddol ei fforddio i adeiladu capel. Gallai diwydianwyr Anghydffurfiol fforddio talu llawer iawn mwy. Y drutaf o’r cyfan yng Nghymru oedd adeilad y Tabernacl, Treforys, a godwyd ym 1870-72.  Amcangyfrifwyd y gost ar y dechrau yn £10,000, ond erbyn cwblhau’r gwaith cofnodwyd iddo gostio £15,000 i’w adeiladu. Yn allweddol i hyn roedd triawd o ddiwydianwyr o enwad yr Annibynwyr a oedd wedi prynu hen felinau dŵr segur Gweithfeydd Copr enfawr yr Hafod yn Nhreforys ac wedi adeiladu cyfleusterau tunio nesaf at y melinau er mwyn creu Gweithfeydd Tunplat Fforest Uchaf (1845) a Beaufort (1860). Un o’r tri oedd John Jones Jenkins a anwyd gerllaw yng Nghlydach ac a aeth i weithio yng Ngwaith Fforest Uchaf pan oedd yn 14 oed gan godi’n gyflym iawn i fod yn Rheolwr Cyffredinol. Roedd hefyd yn rhan-berchennog nifer o weithfeydd, ac fe’i dyrchafwyd yn farchog ym 1885, yn Faer Abertawe ym 1889, ac yn AS dros Gaerfyrddin cyn cael ei wneud yn Arglwydd Glantawe ym 1906. Trigai yn Bath Villa yn Nhreforys, o fewn pellter cerdded rhwydd i Gapel Annibynwyr Libanus yn y stryd gefn a’i olynydd mawreddog, Tabernacl, a adeiladwyd ar stryd fawr Treforys, gan dra-arglwyddiaethu dros yr Eglwysi Anglicanaidd cynharach a godwyd gan deulu meistri copr y Morrisiaid a oedd wedi sefydlu ‘Morris Town’ neu ‘Tre Forris’ ym 1779.

Prif ddiwydianwyr eraill y diwydiant tunplat oedd Richard Hughes a Daniel Edwards. Roedd Edwards wedi gweithio fel saer maen ar Waith Tunplat Ystalyfera yng Nghwm Tawe ac ym 1868 ymunodd â Jenkins i adeiladu Gwaith Tunplat Worcester yn Nhreforys. Daeth y bartneriaeth i ben ddwy flynedd yn ddiweddarach a pherswadiwyd Edwards i oruchwylio gwaith adeiladu Capel y Tabernacl cyn mynd ati i adeiladu Gwaith Tunplat a Dur enfawr y Dyffryn yn Nhreforys a gyflogai 1,100 o weithwyr erbyn y 1890au.

Bu sylw mawr i’r capeli Anghydffurfiol anferthol Eidalaidd eu harddull a godwyd gan ddiwydianwyr tecstilau Swydd Efrog a Swydd Gaerhirfryn yn y cyfnod hwn, ac ymddangosai lluniau a disgrifiadau ohonynt ym Mlwyddlyfr Undeb Cynulleidfaol Cymru a Lloegr, yr oedd chwarter ei aelodau’n Gymry. Cyfrannodd diwydianwyr tecstilau Anghydffurfiol o ogledd Lloegr megis Crossley o Halifax a Salt o Saltaire at adeiladu capeli yng Nghymru hefyd. Roedd pensaer y Tabernacl, John Humphrey, yn ddiacon yn y capel ym Mynydd-bach ar ochr orllewinol Treforys ac roedd gan ei gapeli cyntaf a godwyd ym 1866-68 ym maestrefi diwydiannol Abertawe fwâu sengl mawr wedi’u gosod yn eu talcenni dan ddylanwad cynlluniau’r gweinidog-bensaer cyfagos Thomas Thomas. Ond aeth Daniel Edwards â John Humphrey a gweinidog Libanus a’r Tabernacl ar daith i weld y capeli uchaf eu bri yn Lloegr i gael syniadau ar gyfer adeiladwaith y capel newydd.

Mae’n debyg mai un o’r capeli hyn yr ymwelwyd â hwy oedd capel 1,500 sedd y Providence Congregational yn Cleckheaton, i’r gogledd-orllewin o Leeds, a godwyd ym 1857-59, a wyneb y talcen blaen yn cynnwys sawl bwa’n ymgodi o bennau rhes o golofnau Corinthaidd cywrain gan gynnal pediment clasurol enfawr i ffurfio’r talcen. Mewn Ysgol Sul fawr yn yr islawr cynhelid un dosbarth a ddysgid gan y diwydiannwr tecstilau William Anderton a oedd wedi talu rhan o gost codi’r capel.

Capel arall a ddarluniwyd ym Mlwyddlyfr y Cynulleidfawyr oedd Capel Cynulleidfaol Stratford yn nwyrain Llundain, a eisteddai 1,600 ac a adeiladwyd ym 1866-67 gan benodi’r gweinidog cyntaf ym 1869. Arweiniwyd Pwyllgor Adeiladu’r capel hwn gan Fasnachwr yn Ninas Llundain o’r enw William Settles a roesai fenthyg y rhan fwyaf o’r gost o £11,500 yn ddi-rent. Roedd gan y capel bortico clasurol tair rhan gyda cholofnau dwbl ac roedd tŵr pigfain Eidalaidd ar yr ochr dde ac ysgoldy mawr oddi tanodd – dylanwad cryf amlwg ar yr elfennau dyluniad a ddefnyddiwyd ac a gopïwyd mor llwyddiannus yn Nhabernacl Treforys.

Dyluniwyd capel 1,450 sedd y Tabernacl yn Nhreforys gan Humphrey gyda thri bwa enfawr wedi’u gosod ar ei wyneb, ond ei ogoniant pennaf yw’r meindwr Eidalaidd nas gwelwyd mo’i fath o’r blaen ym mhensaernïaeth capeli Anghydffurfiol Prydain. Roedd lle i fil eistedd yn yr ysgoldy yn islawr y safle goleddfog. Roedd trefi diwydiannol eraill yn awyddus i gael fersiwn o’r wyneb tri bwa mawreddog â’i gyfuniad o fwâu a phortico. Ym 1873 cwblhawyd ail Dabernacl, sef Capel yr Annibynwyr yng nghanolfan arall y gweithfeydd tun sef Llanelli, ar gost lai o £4,000 heb y tŵr.  Ym 1878 cwblhawyd fersiwn llai eto yn nhref tecstilau’r Canolbarth, Llanidloes, sef Capel Cynulleidfaol Saesneg Zion ar gost o £1,550.

Ariannwyd Capel Bethel yn Llandinam gan y Contractwr Rheilffyrdd a’r Perchennog Glo David Davies ac fe’i hadeiladwyd gan y cynllunwyr adeiladau rheilffordd Szlumper & Aldwinckle o Lerpwl ym 1872-73. ©Hawlfraint y Goron: RCAHMW, Cyf. llun: DI2013_0343

DI2013_0343

Capel Bethel, Llandinam a ariannwyd gan David Davies, y Contractwr Rheilffyrdd a Pherchennog Glofeydd ac a adeiladwyd yn 1872-73 gan gwmni Szlumper & Aldwinckle, Lerpwl, y cynllunwyr adeiladu rheilffyrdd. NPRN 11317 ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Ffynnodd porthladdoedd Penarth, Caerdydd, y Barri a Chasnewydd yn oes Fictoria ac Edward wrth i faes glo de Cymru ddarparu tanwydd i lyngesau’r byd a chyflenwadau i ran helaeth o ddiwydiant Canoldir Ewrop. Erbyn 1913, de Cymru oedd allforiwr glo mwyaf y byd a’r maes glo mwyaf ym Mhrydain. Adeiladwyd capeli ac ysgoldai anferthol newydd ar hyd yr arfordir. Methodist Calfinaidd oedd David Davies, y contractwr rheilffyrdd a’r diwydiannwr a sefydlodd borthladd y Barri a Glofeydd Cwmni Ocean yn y Rhondda. Helpodd i ariannu llawer o gapeli gan gynnwys yr un sylweddol a godwyd ym 1872-73 gan y cynllunwyr adeiladau rheilffyrdd Szlumper & Aldwinkle o Lerpwl yn ardal ei gartref yn Llandinam, Sir Drefaldwyn (Powys).

Roedd partner busnes Davies, John Cory, yn Fethodist Wesleaidd cysylltiedig â chapel mawr Heol y Rhath yng Nghaerdydd, a ailadeiladwyd yn yr arddull Gothig, ac ar raddfa a fyddai bron yn gweddu i gadeirlan, gan y penseiri Habershon, Pite & Fawckner o Gasnewydd ym 1871. Cwmni o Lundain yn wreiddiol oedd practis penseiri Habershon ond wedi iddynt adeiladu’r Capel Bedyddwyr Saesneg yn Nhredegar i gynulleidfa a oedd yn cynnwys Richard Cory (yr ieuaf) ym 1862, a gweld cyfleon eraill i godi capeli, temtiwyd William Gilbert Habershon i agor swyddfa i wasanaethu porthladdoedd glo cyfoethog de Cymru.

Cymerodd rheolwyr y gweithfeydd a’r glofeydd ran flaenllaw yn arweinyddiaeth a diaconiaeth y capeli. Roedd rheolwyr dwyieithog y prif weithfeydd haearn a chopr yn aml yn flaenoriaid yn y capeli Cymraeg lleol. Wesleaid yn aml oedd y rheolwyr a’r arbenigwyr mwyngloddio caled o Gernyw, a sefydlodd a mynychu llawer o’r capeli a godwyd yn yr ardaloedd mwyngloddio plwm ac arian yn uwchdiroedd gwledig gogledd Ceredigion.  Sefydlwyd capel enwad Cristnogion y Beibl yn Nhrevivian, Abertawe gan weithwyr o Gernyw a oedd wedi dilyn y teulu Vivian i ganfod gwaith yng Ngwaith Copr yr Hafod, y mwyaf o’i fath yn y byd.

Roedd Capel Bedyddwyr Horeb a godwyd ym 1862 ym Mlaenafon yn un o nifer a ddyluniwyd gan beirianwyr oedd yn aelodau o’u cynulleidfaoedd. ©Hawlfraint y Goron: RCAHMW, Cyf. llun: DS2006_028_001

DS2006_028_001

Horeb, Capel y Bedyddwyr a adeiladwyd yn 1862 ym Mlaenafon oedd un o’r nifer a gynlluniwyd gan aelodau o gynulleidfaoedd a oedd yn beirianwyr. NPRN 10491, ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Roedd gan bob cymuned ddiwydiannol ei chlwstwr o addoldai ynghanol pob pentref neu dref. Roedd gan y dref ddiwydiannol o ryw 10,000 o bobl a adeiladwyd o gwmpas Gwaith Haearn Blaenafon ym Mynwy dri ar ddeg o gapeli erbyn 1900.  Sicrhaodd dylanwad Thomas Deakin, Weslead a rheolwr y lofa ym Mlaenafon, fod capel Methodist mawr erbyn 1837 yn ffurfio canolbwynt i ddeugain tŷ Chapel Row, a gwblhawyd gan Gwmni Haearn a Glo Blaenafon ym 1839. Thomas Thomas, peiriannydd yng Ngwaith Haearn Blaenafon, a ddyluniodd Gapel Bedyddwyr Horeb ym 1862. Cynlluniwyd adeiladau’n aml gan beirianwyr oedd yn aelodau o gynulleidfaoedd y capeli hynny. O bosib mai un o’r cyntaf o’r rhain oedd y peiriannydd arloesol William Edwards a oedd hefyd yn weinidog gyda’r Annibynwyr. Fe gynlluniodd Dreforys ym 1779, gan sefydlu’r drefn i’w dilyn gan y sawl fyddai’n adeiladu tai, cyn adeiladu Capel Annibynwyr Libanus ym 1782.

Peniel Chapel, Tremadog DS2007_282_003

Awgrymodd William Madocks, y tirfeddiannwr a’r diwydiannwr, y dylid addurno ei dref fodel Tremadog gan dalwyneb colofnog Eidalaidd Capel Peniel ac fe’i gorffennwyd yn ei ffurf bresennol yn 1849 dan arolygaeth ei beiriannydd John Williams. NPRN 7128 ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Gwelwyd dylanwad diwydiannol a pheirianyddol arbennig o bwysig yn adeilad Capel Peniel y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhremadog ger Porthmadog yng Ngwynedd. Tybid am yn hir mai hwn oedd y capel clasurol colofnog cyntaf yng Nghymru ond bellach gwyddom y bu’r broses a’r dylanwadau ar y gwaith adeiladu yn faith a chymhleth. Unig fwriad gwreiddiol y tirfeddiannwr a’r diwydiannwr William Madocks oedd adennill rhan ogleddol Aber Afon Glaslyn trwy godi arglawdd môr mawr ym 1800.  Cychwynnwyd adeiladu’r pentref model newydd, Tremadog, ym 1805, a’i leoli yng nghanol y tir a adferwyd, gyda chamlas fynediad, storfa ŷd ac argaeau a melinau gwlân a blawd mawr a yrrid gan ddŵr.

Awgrymodd y tirfeddiannwr a’r diwydiannwr William Madocks wyneb colofnog Eidalaidd Capel Peniel i addurno ei bentref model Tremadog ac fe’i cwblhawyd yn ei ffurf bresennol dan oruchwyliaeth ei beiriannydd John Williams ym 1849. © Hawlfraint y Goron: RCAHMW, Cyf. llun: DS2014_289_001

Roedd clwstwr o adeiladau addurniadol yn galon i’r pentref, gan gynnwys Neuadd y Farchnad (1807), Gwesty (1807), Eglwys (1811), ‘Porth Buddugoliaeth’ (tua 1811) a Chapel (1810-11). Roedd Madocks wedi bod yn gohebu â’r archaeolegydd clasurol arloesol William Gell ynglŷn â’r syniad o adeiladu fersiwn o Deml Neifion yn Nhremadog.  O ganlyniad, efallai, addawodd £50 ar gyfer portico a fyddai’n addurno tu blaen Capel Tremadog ond erbyn 1810 roedd mewn argyfwng ariannol difrifol wrth adeiladu ei ail arglawdd mwy o faint (y Cob) ac ni allai gynnig mwy na £10 pan ddaeth i agoriad y capel cyn iddo gael ei gwblhau. Mae’n debyg felly nad oedd colofnau, neu efallai y gosodwyd rhai pren dros dro, oherwydd ym 1849 yr ychwanegwyd y colofnau carreg presennol, dan oruchwyliaeth John Williams, asiant a pheiriannydd Madocks. Roedd gan Madocks (a Williams) ran uniongyrchol yn nyluniad Tremadog: mae cynllun Porth y Fuddugoliaeth yn cynnwys elfennau o ystafell wydr Tywysog Cymru yn Carlton House yn Llundain, a chyfeiriwyd at Covent Garden wrth ddisgrifio’r theatr yn Neuadd y Dref Tremadog. Does dim dwywaith nad yw dyluniad capel Peniel gyda’i ffenestr olwyn yn y pediment yn seiliedig ar ddyluniad Eglwys St. Paul yn Covent Garden a adeiladwyd gan y pensaer mawr o Gymro Llundain, Inigo Jones, yr hanai ei deulu o Groesonnen ger Llanrwst. Roedd Madocks wedi hwyluso’r gwaith adeiladu drwy roi prydles hir ar y safle am dâl nominal o ddwy ffeuen y flwyddyn!

Peiriannydd arall a fu’n codi capeli yn y cyfnod hwn oedd Thomas White, rheolwr a pheiriannydd preswyl Camlas Abertawe, a oedd yn gyfrifol am adeiladu Capel Cynulleidfaol Saesneg Ystalyfera ym 1868-69. Safai’r adeilad Gothig hwn nesaf at Waith Haearn a Thunplat enfawr Ystalyfera ac fe’i hariannwyd yn rhannol gan un o’r rheolwyr yno, un Mr Parish a pherchennog Pwll Glo Hendreforgan, Mr Bayne.

Ni fyddai defnyddiau diwydiannol neu leol yn dylanwadu’n gyffredinol ar ddyluniad capeli – gellir gweld bod penseiri capeli mwyaf toreithiog Cymru fel y Parchedig Thomas Thomas, neu Richard Owen, yn defnyddio’r un cynlluniau dro ar ôl tro dros nifer o flynyddoedd, gan eu hadeiladu o ba bynnag garreg neu frics oedd ar gael yn lleol. Yr unig eithriad oedd gogledd-ddwyrain Cymru, lle rhoddai addurniadau a theils terracotta ffurfiedig o weithfeydd enwog J.C. Edwards o Riwabon naws ychwanegol i ddyluniad y 21 capel cyfagos yn Rhosllannerchrugog ddiwydiannol neu yn nhrefi glan môr Bae Colwyn, y Rhyl a Phrestatyn.

 

Stephen Hughes

Darllen Pellach:

Stephen Hughes, ‘The Institutions of the Copper Townships’, Copperopolis: Landscapes of the Early Industrial Period in Wales (Aberystwyth, RCAHMW, 2000), 241-294.

Chris Barber, Exploring Blaenavon Industrial Landscape World Heritage Site (Abergavenny, Blorenge, 2002).