Capeli Cynnar

Mae adeiladau capeli yng Nghymru’n syrthio i dri dosbarth yn fras. Ar yr adeiladau cynharaf, a elwir yn gapeli ‘mynedfa ochrol’ neu ‘wal hir’, mae wyneb tebyg i dŷ gyda ffenestri a drysau wedi’u gosod ar draws y wal hir. Mae’r rhan fwyaf o’r capeli ‘wal hir’ hyn yn dyddio o’r cyfnod hyd at ganol y 19eg ganrif, tra cafwyd tuedd o’r 1830au ymlaen i adeiladu capeli ‘cynllun sgwâr’ ac erbyn y 1850au, yr arferiad oedd gosod wyneb y capel ar wal fer y talcen.

1689 – tua 1750

DS2010_1027_001

Capel Maesyronnen, Sir Faesyfed. ©Hawlfraint y Goron: CBHC, Picture ref; DS2010_1027_001

Hyd at Ddeddf Goddefiant 1689, roedd yn anghyfreithlon i ymneilltuwyr gwrdd i addoli. Roedd sawl cynulleidfa wedi bod yn cwrdd yn ddirgel mewn tai ac ysguboriau anghysbell ar adegau o erlid, er y codwyd ambell dŷ cwrdd syml, yn cynnwys Llanfaches, Sir Fynwy a Hwlffordd, Sir Penfro, ill dau erbyn 1639. Erbyn 1715, roedd rhyw 38 o gapeli wedi’u hadeiladu, er i lawer o gynulleidfaoedd barhau mewn tai ac ysguboriau nes gwneud digon o arian i godi adeilad pwrpasol. Erbyn canol y 18fed ganrif, roedd ffurf arbennig yn datblygu i gapeli Cymru, waeth beth fo’u henwad, eu maint na’u lleoliad. O ystyried mor gyflym y buwyd yn adeiladu wedi hynny, nid yw’n syndod nad oes fawr ddim wedi goroesi o’r cyfnod hwn.

Penrhiw-Chapel-v-copy

Capel Penrhiw Drwy garedigrwydd Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan

Dim ond un capel cynnar, Maesyronnen yn Sir Faesyfed, sy’n dal i sefyll mewn cyflwr tebyg i’w gyflwr gwreiddiol. Wedi’i addasu o ysgubor cyn 1720, ychwanegwyd blaen chwedarn hardd, a’i gymesuredd yn cyhoeddi ei statws fel tŷ cwrdd. Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar y pulpud hollbwysig, sydd wedi’i osod yng nghanol y wal (gefn) hir, yn nodweddiadol o’r cyfnod. Mae’n anodd pennu’n union beth oedd y cynsail i gapeli wal hir fel Maesyronnen. Rhoesai’r Diwygiad bwyslais ar y pulpud mewn eglwysi Protestannaidd, fel y dengys eglwysi Calfinaidd Ffrainc, yr Iseldiroedd a’r Alban o ddiwedd yr 16eg ganrif. Cynigiai’r kirk Albanaidd ôl-Ddiwygiad, a’i bulpud a’i orielau amlwg (er enghraifft, eglwys Dwyrain Cromarty, Ross & Cromarty) fodel da i adeiladwyr y capeli cynnar. Mae’r genhedlaeth gyntaf o gapeli ôl-1689 yng ngogledd Lloegr, fel capel Undodaidd Rivington, Sir Gaerhirfryn, a adeiladwyd ym 1703, yn adlewyrchiad clir o’r cynsail Albanaidd yn eu gwaith cynllunio a’u cymesuredd syml. Awgryma’r dystiolaeth hon fod adeiladwyr capeli Cymru, o ddyddiad cynnar iawn, yn ymwybodol o ddatblygiadau newydd yng nghynlluniau capeli mewn mannau eraill – ac er yr ystyrir yn aml fod rhai o’r capeli cynnar sydd wedi goroesi yn werinol eu harddull, nid felly y’u gwelid mewn cymhariaeth ag amodau byw nodweddiadol yr oes.

Tua 1750 –tua 1840

Erbyn canol y 1700au, roedd tuedd tuag at wynebau wal hir mwy arbennig, fel arfer gyda ffenestr ganolog fawr yn rhoi golau i’r pulpud oddi tani. Gwelir hyn mewn disgrifiadau o gapeli hŷn cyn iddynt gael eu hailadeiladu. Adeiladwyd Capel Methodistiaid Calfinaidd Bethel yn y Waunfawr, Sir Gaernarfon gyntaf ym 1785 am £150. Mae darlun sgematig o’i gynllun gwreiddiol yn hanes y capel a ysgrifennwyd ym 1946 (D.J. Lewis, Dau Can Mwyddiant Bethel M.C. Y Waunfawr, Arfon 1746-1946).

Capel Newydd Nanhoron, Sir Gaernarfon

Capel Newydd Nanhoron, Sir Gaernarfon ©Hawlfraint y Goron: CBHC, Picture ref; DS2007_227_002

Mae nifer fechan yn dal i sefyll heb eu newid, fel dau o’r goreuon, Capel Annibynwyr Nanhoron, Independent Sir Gaernarfon a godwyd ym 1770-72 a Chapel Penrhiw, Llangeler, Sir Gaerfyrddin, a addaswyd o ysgubor gan yr Undodiaid yn 1777, ac sydd i’w weld bellach yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Caerdydd. Yn ddiweddarach yn y 18fed ganrif, daeth cymesuredd yr wyneb yn fwy ffurfiol, gan ddangos hyder cynyddol y cynulleidfaoedd, ac ymwybyddiaeth fwy o arddull bensaernïol. Roedd aelodaeth a chyllid capeli’n tyfu, ac roedd awydd i wneud datganiad gweledol – ac efallai i gystadlu â chynulleidfaoedd cyfagos.

PONTROBERT CHAPEL  PONTROBERT

Pontrobert Chapel, Pontrobert ©Hawlfraint y Goron: CBHC, Picture ref: CD2003_215_027

Roedd gan Gapel Bedyddwyr Blaenywaun, Llandudoch,, Sir Benfro, a adeiladwyd ym 1795, flaen gyda dau ddrws allanol a phâr o ffenestri rhyngddynt (B. Rees, Hanes Blaenywaun, Gerazim, Penuel, Tabernacle,1899). Ffurf debyg sydd i’r capel ym Mhontrobert, Sir Drefaldwyn, a adeiladwyd ym 1806. Wrth i fwy a mwy o gapeli gael eu codi, daeth y ffurf hon yn gyffredin ar draws Cymru, gan ychwanegu rhyw fanylyn clasurol syml yn aml, yn enwedig y defnydd o ffenestri pen crwn i wahaniaethu capeli oddi wrth dai cyffredin. Y tu mewn, i wneud lle i’r cynulleidfaoedd a oedd yn tyfu’n gyflym, codid galerïau panelog fel arfer o gwmpas tair ochr, yn wynebu’r pulpud.

Capel Adfa

Capel Adfa, Sir Drefaldwyn. ©Hawlfraint y Goron: CBHC, Coflein Ref; RSC169_01

Mantais i gapeli wal hir oedd y gellid cynyddu neu leihau eu maint yn ôl y cyllid neu’r gynulleidfa oedd ar gael. Gellid defnyddio model bychan gyda drws canolog a ffenestri o boptu fel Cae-bach, Sir Faesyfed (1804) gan achosion heb lawer o aelodau nac arian, tra byddai amrywiad mwy o faint yn caniatáu hwyhau’r wyneb trwy ychwanegu ffenestri uchel i oleuo’r grisiau i’r galeri.

Un enghraifft gynnar o’r ffurf hon yw capel Undodaidd Gellionnen, Sir Forgannwg, a adeiladwyd ym 1801, ac erbyn y 1820au roedd yr arddull hwn yn boblogaidd gan gynulleidfaoedd mwy ar hyd a lled Cymru, fel yng Nghapel Adfa, Sir Drefaldwyn a adeiladwyd i’r Annibynwyr ym 1820. Ffenestri dalennog oedd arnynt yn nodweddiadol, gyda gwydro cywrain yn y pennau bwaog. Roedd toeau’n dalcennog, a daeth talcendoeau’n gynyddol ffasiynol gan ddilyn arddull tai Sioraidd diweddar.

Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod pob un o’r prif enwadau wedi codi capeli wal hir ar gynllun tebyg, gan nad oedd fawr o wahaniaeth yn eu hanghenion o ran gweithredu. Byddai syniadau dylunio’n lledaenu ar lafar ymysg gweinidogion ac aelodau a deithiai o gwmpas y wlad, a thystir i hynny gan debygrwydd capeli Nanhoron a Phenrhiw, a adeiladwyd y naill ben a’r llall i orllewin Cymru o fewn degawd i’w gilydd. O ran arddull adeiladu, roeddent yn hawdd i’w copïo.

Tu Mewn

Capel Maesyronnen

Capel Maesyronnen, Sir Faesyfed. ©Hawlfraint y Goron: CBHC, Picture ref; DI2008_0391

Maesyronnen yw’r tu mewn cynharaf a mwyaf cyfan sydd ar gael yng Nghymru. Mae’r pulpud wedi’i osod yn erbyn y wal gefn ac mae seddau teuluol amgaeedig mawr wedi’u gosod yn erbyn y waliau blaen a chefn. Yng nghanol y capel ceir meinciau agored a byrddau, yn cynnwys un bwrdd cymun. Cafwyd mwy o safoni ar du mewn capeli tua diwedd y 18fed ganrif, a’r arfer erbyn hynny oedd gosod pulpud yn ganolog yn erbyn y wal flaen rhwng dau ddrws tebyg. Goleuid y pulpud o’r tu ôl gan ffenestr neu, yn fwy cyffredin erbyn tua 1800, gan bâr o ffenestri.

Soar Mynydd

Soar y Mynydd©Hawlfraint y Goron: CBHC, Picture ref; DI2007_0536

Byddai’r pâr ffenestri’n caniatáu ar gyfer rhywfaint o addurno ar y wal rhyngddynt, gan roi mwy o amlygrwydd i’r pulpud. Gallai’r addurn fod ar ffurf ffrâm ffurfiedig neu bedimentog, neu adnod o’r ysgrythur wedi’i beintio, fel a welir yn Soar y Mynydd, Ceredigion. Arweiniai’r drysau i gynteddau mewnol a fyddai’n fframio’r sêt fawr caeedig lle eisteddai’r diaconiaid neu’r blaenoriaid. Byddai’r diaconiaid hŷn fel arfer yn eistedd mewn cadeiriau wedi’u gosod o dan y pulpud, a’r lleill ar feinciau wedi’u gosod i mewn yn yr amgaead panelog. Seddi ‘blwch’ oedd yr eisteddleoedd cynnar, gydag ochrau a chefnau panelog i helpu atal drafftiau. Yn nodweddiadol byddai’r seddi wedi’u gosod allan yn syml gyda dwy eil yn rhannu’r rhengoedd canol oddi wrth y rhesi ochr. Weithiau byddai’r seddi yn yr ochrau ar fymryn o ongl i ganiatáu iddynt weld yn well, neu wedi’u gosod yn sgwâr i’r rhai yn y canol mewn dull colegaidd.

Roedd galerïau’n gyffredin, fel y ffordd rataf o gynyddu nifer y seddi, yn ogystal â neilltuo rhannau o’r adeilad i’w defnyddio gan sgolorion yr Ysgol Sul neu anghymunwyr. Mae gan yr enghreifftiau cynharaf flaenau panelog wedi’u codi ar golofnau pren. Byddai’r galeri fel arfer yn cylchynu tair ochr o’r capel, yn wynebu’r pulpud. Weithiau byddai gan y galeri gorneli ar oledd a byddai’r seddi ar ongl gyfatebol, a roddai wedd theatrig i’r lle. Tueddai capeli llai i gael un galeri yn y pen lle roedd y fynedfa. Mewn rhai capeli lle nad oedd galeri, byddai’r llawr yn goleddfu’n serth i fyny i’r cefn, fel y gallai pawb weld y pulpud (er enghraifft, Capel Annibynnol Troedyrhiw, Llanfihangel Ystrad, Ceredigion, 1861).

Tua 1840 ymlaen

Nanternis

Capel Nanternis, Nanternis ©Hawlfraint y Goron: CBHC, Picture ref; DI2006_0063

Erbyn y 1850au, roedd y model wal hir yn hen-ffasiwn er bod rhai’n dal i gael eu hadeiladu yn nechrau’r 20fed ganrif, fel capel Ebenezer a’i arddull Art Deco braidd yn Llanfair Caereinion, Sir Drefaldwyn..

Mewn ambell ardal ddiarffordd, ceir enghreifftiau diweddarach fel capel Annibynwyr Nanternis yng Ngheredigion (NPRN 7276), a adeiladwyd ym 1867 heb unrhyw arlliw o’r chwaeth Fictorianaidd . Cyn hir, capeli cynllun sgwâr, ac yn gynyddol, cynllun talcen, fyddai’r norm a chafodd nifer o gapeli eu hailwampio’n llwyr i roi mynedfa yn y wal dalcen, a oedd yn fwy ffasiynol, fel a welir yng Nghapel Tŷ-newydd y Methodistiatid Calfinaidd, Cynwyl Gaeo , Sir Gaerfyrddin (1837, addaswyd 1907).

Rob Scourfield