Defnydd Diwylliannol

Traddodiadau corawl a dramatig, Ysgol Gân / Gobeithlu, Eisteddfodau

Adeiladau bach, syml oedd y capeli cynnar, yn cynnig lle i aelodau’r gynulleidfa leol addoli a datblygu eu bywyd ysbrydol. Mewn sawl achos byddai’r cyfnod cynnar yn hanes capel wedi digwydd yng nghartrefi’r aelodau, a llofftydd tafarndai, ysguboriau neu unrhyw fannau eraill a allai fod ar gael ar gyfer addoli. Ym Maesteg, roedd y cyfarfodydd cynnar wedi’u cynnal mewn tai lleol ac wedyn yn llofft y Coitrehen Arms cyn adeiladu capel Bedyddwyr cyntaf Bethania ym 1832; ac yn Aberdâr cynhaliwyd gwasanaethau am dair blynedd yn Ystafell Hir Gwesty’r Boot cyn adeiladu capel Annibynwyr cyntaf Siloa ym 1844. Wrth i gynulleidfaoedd dyfu bu raid codi estyniadau ar adeiladau presennol a chodi adeiladau mwy a bu hynny’n fodd i ysgogi a chynnal amrywiaeth eang o weithgareddau cynulleidfaol. Mewn sawl cymuned, festri neu ysgoldy’r capel oedd yr unig fan lle gallai pobl gyfarfod, ar wahân i’r dafarn.

Yn rhifyn Ebrill 1852 o’r misolyn Y Traethodydd, dywedwyd fod y Cymry’n mynd i’r capel, yn rhannol o leiaf, ‘i geisio’r hyn yr â’r Sais i’r chwareudy i’w gael’, ac ym 1881 disgrifiwyd capeli ynThe Treasury, cylchgrawn misol y Methodistiaid Calfinaidd, fel ‘the social centre around which its adherents gather; it is school, lyceum, club, church, all in one…’.

atblygwyd traddodiad cryf o ganu corawl mewn llawer o gapeli, a hynny er gwaethaf gwrthwynebiad cynnar i ddefnyddio offerynnau cerdd mewn gwasanaethau crefyddol, yn y gred y dylent fod yn ddiaddurn a digyfeiliant. Byddid yn trefnu cyfres o sesiynau ymarfer, fel arfer ym misoedd y gaeaf, i oedolion yn yr Ysgol Gân ac i blant yn y Gobeithlu (Band of Hope), cyn cynnal ymarferion i bawb mewn capel unigol, neu grŵp o gapeli lleol, yn y gwanwyn dilynol, ac yna’r Gymanfa Ganu a oedd yn ddigwyddiad cymdeithasol o bwys yn ogystal â bod yn ddigwyddiad cerddorol./p>

Roedd ymwybyddiaeth o safon isel y canu yng nghapel Bethel, Llanidloes, wedi ysgogi’r Parch. Thomas Charles, y Bala (1755-1814) i gynnig y dylid rhoi Henry Mills, yr oedd ei lais canu wedi gwneud cryn argraff arno, yng ngofal y canu cynulleidfaol yn y capel. Gwasanaethodd Henry Mills a’i fab James fel codwyr canu am flynyddoedd lawer ym Methel, rhagflaenydd capel presennol China Street, lle sefydlwyd cymdeithas gorawl i ddysgu hanfodion cerddoriaeth i oddeutu 60-70 o bobl ifanc a fynychai’r dosbarth ar ôl gweithio yn ffatrïoedd gwlân y dref. Roedd nai James Mills, Richard Mills yn un o gerddorion amlycaf Cymru ac âi i Aberystwyth i fynychu ymarferion Cymdeithas Gorawl y Tabernacl a sefydlwyd erbyn 1845, a chyn 1858 roedd y côr hwn wedi perfformio oratorios yn cynnwys Meseia, Haydn’s The Creation , Deuddegfed Offeren/em> Mozart.

Mae hanes fod côr Bethania, Maesteg, a arweinid gan Isaac Howells, wedi cerdded dros y mynyddoedd ar ddydd Nadolig, yn wlyb at eu crwyn mewn glaw trwm, i gystadlu ac ennill y wobr gyntaf yn eisteddfod Aberpennar am ganu Teilwng yw’r Oen, gan ddangos maint eu hymroddiad. Ymysg capeli eraill a chanddynt gorau enwog roedd Capel y Garn, Bow Street, lle bu J.T. Rees, cyfansoddwr emynau, anthemau a gweithiau lleisiol ac offerynnol, yn godwr canu am dros drigain mlynedd; Capel Als a Zion, Llanelli, y naill dan arweinyddiaeth y Dr Haydn Morris a’r llall dan R. C. Jenkins; a Gellimanwydd, neu Christian Temple, Rhydaman, lle bu Gwilym R. Jones yn organydd a chôr-feistr o 1914 hyd 1950.

Er i rai capeli wrthwynebu gosod organ yn y capel ar y dechrau, yn raddol daeth yn beth derbyniol a chynhelid datganiadau ar yr organ yn aml, fel y rhai a gynhelid ar hyd y blynyddoedd yng nghapel y Maes, Caernarfon. Adeiladwyd organ y capel hwnnw’n gynnar yn y 1880au gan Edward Franklin Lloyd, ar gyfer tŷ preifat yn ôl pob tebyg, a rhoddwyd y datganiad cyntaf arno ar 21 Mawrth 1887 gan W.T. Best, organydd Neuadd St George, Lerpwl, a oedd wedi agor sawl organ gan gynnwys yr un yn Neuadd Albert Llundain ym 1871. Ymysg y cyngherddau a gynhaliwyd yn y capel hwn roedd y perfformiad o Crucifixion for Easter Stainer gan gôr y capel ym mis Chwefror 1920. Cafodd capel Tabernacl Caerdydd gyfres o organyddion dawnus a gwnaeth Arwel Hughes ac Owain Arwel Hughes gyfraniad sylweddol i draddodiadau cerddorol y capel. Trefnwyd nifer o gyngherddau dros y blynyddoedd gan gôr y Tabernacl, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd cynhelid cyngherddau bob nos Sul i filwyr oedd yn gwersylla yng Nghaerdydd.

CynhelidEisteddfodau’n rheolaidd mewn amryw o gapeli, gan gynnwys yr Hen Gapel yn Rhydowen. Roedd digwyddiadau cymdeithasol yn digwydd yn Rhydowen ar ddydd Nadolig dros gyfnod maith o amser ac ym 1891 dywedwyd bod y rhain wedi’u cynnal yno ‘ers cyn cof’. Ym 1896 cynhaliwyd Gymanfa Bwnc [sesiwn holi ac adrodd o’r Beibl] yng nghapel newydd Llwynrhydowen a chyfarfod adloniadol gyda’r nos yn yr hen gapel. Hefyd, trefnid cyngerdd Nadolig yn rheolaidd yn yr hen gapel ar noswyl y Nadolig nes iddynt gael eu symud i’r neuadd goffa ym Mhontsiân ym 1959.

Roedd cyngherddau, eisteddfodau a chynyrchiadau drama’n fodd i aelodau capel nid yn unig ddarparu adloniant i’w cymunedau lleol ond hefyd godi symiau sylweddol o arian, gan lwyddo mewn sawl achos i glirio dyledion a gododd o’r gwaith ar adeiladau’r capel. Roedd cwmni drama mewn ambell i gapel mewn gwahanol rannau o Gymru, ac ymysg y rhai a gafodd sylw yng nghyfrol Hywel Teifi Edwards Codi Llen (1998) roedd Capel Gad, Bodffordd; Bethesda, yr Wyddgrug; Capel Tegid, y Bala; Soar, Llanbedr Pont Steffan; Heol Awst, Caerfyrddin; Capel Seion, Drefach; Bethel, Pont-rhyd-y-fen; Tabor, Maesteg; Bethesda a Nasareth, Tonpentre; a Bethel, Cross Hands. Perfformiodd yr olaf y ddrama Yr Oruchwyliaeth Newydd mewn festrïoedd a neuaddau pentref ar hyd a lled y Gorllewin ac enillodd y cwmni yr ail wobr yn y gystadleuaeth drama hir yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych ym 1939. Roedd y capel yn gyfrifol hefyd am gynyrchiadau lliwgar yn Neuadd Gyhoeddus Cross Hands o weithiau cerddorol fel Holiday on the Sands, Agatha ac Ymgom yr Adar.

Bydd sawl côr yn ymarfer yn rheolaidd heddiw mewn gwahanol gapeli, gan gynnwys y Tabernacl, Efail Isaf, a Salem, Treganna, Caerdydd. Ymhlith y capeli lle parheir i gynnal cyngherddau hynod o boblogaidd mae Salem, Llangennech, lle mae Allan Fewster yn organydd a chôr-feistr ers 43 o flynyddoedd; bydd Côr Glandulais, a arweinir ganddo, ynghyd â’r côr merched, Lleisiau’r Llan, yn cynnal cyngherddau blynyddol yn y capel. Cynhelir traddodiad cerddorol eithriadol Tabernacl Treforys, a sefydlwyd gan nifer o godwyr canu a chôr-feistri gan gynnwys David Francis (1872-89), Eos Morlais (1889-92), W. Penfro Rowlands (1892-1919), Edgar Hughson (1919-66) ac Alun John (1966-96), drwy’r cyngherddau blynyddol a gynhelir yn y capel gan nifer o gorau, yn cynnwys Côr y Tabernacl, Côr Clwb Rygbi Treforys, Côr Orpheus Treforys a Chôr Merched Treforys.

D Huw Owen

Darllen Pellach:

David R. Barnes, People of Seion, (1995)

Braslun o hanes yr eglwysi… [The shorter, printed, history in handbook of the Baptist Annual Meeting held at Bethania in 1925]

Davies, Hanes Eglwys Bethania am y can mlynedd diwethaf , [History of Bethania during the past 100 years]

Hywel Teifi Edwards, Codi’r Llen, (1998)

Jones, A History of Castle Square Presbyterian Church, Caernarfon, (1983)

Alan Vernon Jones, Chapels of the Cynon Valley, Capeli Cwm Cynon, (2004)

Lionel Madden, Social and cultural uses of chapels (papur heb ei gyhoeddi)

Aubrey J. Martin, Hanes Llwynrhydowen, (1977)

D Huw Owen, The Chapels of Wales, (2012)