Sut cafodd capeli eu hadeiladu?

Evan Roberts (1878-1951)

Erbyn 1860, roedd digon o seddau yng nghapeli Cymru ar gyfer tri chwarter y boblogaeth, gyda 2,922 o gapeli yn bodoli ar gyfer gwlad a brofodd y Diwygiad Mawr y flwyddyn gynt. Yn dilyn Diwygiad 1904, cynyddodd y nifer yma hyd yn oed yn fwy.
Roedd anghenion y gynulleidfa yn syml – lle golau a sych gyda seddau boddhaol yn wynebu’r pulpud hollbwysig. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth arddull bensaernïol yn bwysicach, yn ogystal ag ystyriaethau moethus fel acwsteg, gwres, goleuadau ac awyru.
Roedd y gwaith adeiladu’n gostus a pheryglus, fel arfer heb lawer o ffynonellau ariannol na chymwynaswyr cyfoethog. Roedd yn gyffredin iawn i achosion gyfarfod mewn lleoliadau dros dro hyd nes y gellid fforddio codi capel – ac roedd y cynulleidfaoedd cynnar yma fel rheol yn cyfarfod mewn tai, bythynnod, tafarndai ac hyd yn oed mewn ysguboriau. Wrth i’r niferoedd gynyddu, daeth angen am leoliadau dros dro ehangach – a cheir hanes am y Bedyddwyr yn Nhref-y Clawdd, Sir Faesyfed yn cyfarfod mewn ystafell uwchben seler win hyd nes iddynt godi eu capel eu hunain yn 1864. (Rev, J. Jones, The History of the Baptists of Radnorshire, 1895 tt. 80-94). Yn y gymuned lofaol yn Fochriw, Sir Forgannwg, cododd yr Annibynwyr gapel pren rhad yn 1865, gan ragori arno wrth godi capel carreg yn ei le ddwy flynedd yn ddiweddarach, (Rees and Thomas, Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, cyf. 2, tt. 154-9). Cyn gynted ag y sicrhawyd arian a thir, gellid codi capel parhaol. Gydag achosion cryf, roedd y broses hon yn cael ei hail-adrodd yn gyson – oherwydd diffyg lle a / neu’r dymuniad i blannu canghennau newydd – neu hyd yn oed rhwyg rhwng aelodau’r gynulleidfa.

Seion Aberystwyth

Berea Capel Bydyddwyr Cymraeg, Cricieth ©Crown

Yr angen i sicrhau safle oedd y cam cyntaf mewn cynllunio lleoliad newydd – fel arfer, safle ar brydles hir ac ar delerau manteisiol gan berchennog cefnogol. Yn Llechryd, Ceredigion (NPRN 11593) er enghraifft, rhoddodd Thomas Lloyd, Coedmor safle i’r Annibynwyr ar brydles 999 mlynedd ar gost (Rees and Thomas, cyf. 4, tt. 154-9). Mewn trefi ac ardaloedd diwydiannol lle roedd tir yn ddrutach, roedd tirfeddianwyr yn tueddu i gynnig prydlesi llai o hyd, fel y gwelir yn achosion yr ystadau Bute a Thredegar. Weithiau, yn y pen draw, roedd y achos yn prynu’r brydles – neu hyd yn oed yn ei derbyn fel rhodd gan y tirfeddiannwr. Bryd hynny, byddai’r aelodau yn sefydlu ymddiriedolaeth er mwyn osgoi unrhyw drafferthion yn y dyfodol, er enghraifft, bod y safle yn dychwelyd i fod yn eiddo unigolyn. Roedd y cynulleidfaoedd cyfoethocach yn gallu prynu eu safleoedd yn rhydd-ddaliadol. Prynodd y gynulleidfa Methodistaidd Calfinaidd Saesneg yn Ninbych (NPRN 7575) eu safle a oedd yn cynnwys iard eang a thŷ tafarn am £1,500. O fewn pythefnos, roeddent wedi gweithredu’n gall – gan werthu’r tŷ tafarn yn unig am £1,150. Weithiau, rhoddwyd tir – yn Gladestry, Sir Faesyfed (NP8279), codwyd capel Bedyddwyr yn 1842 yng ngardd y tŷ lle dechreuodd yr achos (Rev. J. Jones, op. cit., t. 54). Mewn ardaloedd diwydiannol, rhoddwyd nifer o safleoedd gan ystadau fel ystâd yr Arglwydd Mostyn, ac wrth i Anghydffurfiaeth gryfhau, daeth haelioni o’r math hwn yn fwy cyffredin.

Albion Sgwâr, Doc Penfro ©

Capel Tabernacl Ardd-leen, Sir Drefald

Capel Tabernacl Aberystwyth (Capel y Groes)

Y cam nesaf oedd codi arian ar gyfer y gwaith adeiladu. Cyflawnwyd hyn yn aml o dan amgylchiadau anodd, yn arwydd o ffydd rhyfeddol. Yn achos Capel y Bedyddwyr, Rhos, Sir Forgannwg er enghraifft, benthycodd Thomas Williams arian ar ei watsh boced, nes iddo allu gwerthu ei lo. (T.M. Bassett, The Welsh Baptists 1977, t. 245). Ffordd gyffredin o godi arian oedd anfon y gweinidog ar daith gasglu, yn aml i ardaloedd pellennig. Pan aeth Azariah Shadrach ar daith i Lundain ar ran Seion, Aberystwyth, Ceredigion (NPRN 7147) yn 1823, daeth o hyd i 40 o weinidogion eraill a oedd yn gwneud yr un peth. (D.R. Barnes, People of Seion, 1995 t. 49), ac aeth y Bedyddiwr o Sir Faesyfed, John Jones ar daith drwy saith o siroedd Cymru a deuddeg o siroedd Lloegr rhwng 1866-69. Wantage oedd yr unig le iddo fethu â chael cyfraniadau, gan i ‘dri o ffugwyr yn olynol’ eisoes ymweld â’r dref. (Rev. J Jones, op. cit., tt. 95-6)
I godi arian yn lleol, sefydlwyd apeliadau cyhoeddus, fel arfer ar ffurf pamffledi neu gyda’r manylion mewn papurau newydd. Cofnodir ambell enghraifft hynod o ffordd o godi’r arian, yn cynnwys hanes John Saunders o Buckley a gasglodd gyfraniadau gan fynychwyr y tafarndai lleol ar brynhawniau Gwener! (E. Gruffydd, A Review of Nonconformity in Flintshire, 2007). Y ffordd fwyaf cyffredin oedd sefydlu clybiau a chymdeithasau cyfeillgar, a chodi arian trwy’r tâl aelodaeth. Wrth i’r gwaith adeiladu fynd yn ei flaen, codwyd arian trwy gynnal cyngherddau a chyfarfodydd gweddi. Pan osodwyd y garreg sylfaen, daeth yn arfer gyffredin i gymwynaswyr hael ei choroni ag arian, a chofnodwyd hyn yn fanwl iawn fel arfer gan y wasg leol.  Erbyn blynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd cymanfaoedd canu, ffeiriau sborion, ymgyrchoedd plant a darlithiau llusern oll yn ffyrdd gyffredin o godi arian.
Nid oedd benthyg arian yn anghyffredin. Er nad oedd yn aelod o’r achos, benthycodd dyn a oedd yn cadw siop leol arian ar gyfer adeiladau capel Bedyddwyr Berea yng Nghricieth, Sir Gaernarfon (NPRN 6792) (gwelir hefyd Taflen Wybodaeth Leol Capel, rhif 8, Llanystumdwy a Cricieth) , a chaffaeliwyd benthyciadau banc gan gynulleidfaoedd eraill. O ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen, sefydlwyd benthyciadau a grantiau mewnol gan yr enwadau eu hunain, mewn ymgais i geisio datrys y broblem o ddyledion byth-gynyddol a baich y teithiau casglu. Roedd nifer o gapeli’n gorfod ysgwyddo dyledion am flynyddoedd ar ôl eu hagor. Costiodd gapel Albion Square ‘Congregational’, Doc Penfro, Penfro (NPRN 11008) £3,940 yn 1867, ond ni chliriwyd y ddyled gronnol o £6,389 tan 1899. (S. Peters, The History of Pembroke Dock, 1995, t. 100).

Prin yw’r ffynonellau ysgrifenedig sy’n adrodd hanes adeiladu’r capeli cynnar – ond gellid tybio mai crefftwyr lleol a fu’n gyfrifol am eu hadeiladu a’u cynllunio. Yn aml iawn, aelodau’r achos oedd y bobl hyn, gydag aelodau eraill yn ymgymryd â’r gwaith di-grefft, megis llusgo cerrig a chreu mortar. Yn ystod yr wythnos, roedd y menywod yn aml yn dod o hyd i amser i gludo cerrig neu bren. Cludodd Jane Griffiths gerrig ar ei chefn ar gyfer adeiladu Capel M. C. Horeb, Mynydd-y-garreg, Sir Gaerfyrddin (NPRN 6281) yn 1841 (Rev. J. Morris, Hanes Methodistiaeth Sir Gaerfyrddin, 1911), yn ogystal a chludo’r pulpud o Lanelli. Fel arfer, adeiladwyd waliau’r capel yn ystod yr haf i osgoi difrod rhew neu law i’r mortar. Unwaith y gosodwyd y to, roedd y gwaith coed yn gallu mynd yn ei flaen unrhyw adeg o’r flwyddyn.
Mewn rhai achosion, cynlluniwyd y capel gan y gweinidog ei hun. Er enghraifft, cynlluniwyd capel M. C. Arddleen Sir Drefaldwyn (NPRN 11261), yn 1839 gan y Parchg. Evan Lloyd. (Rev. R.M.Roberts, The Story of the Tabernacle, Arddleen, Montgomeryshire, 1920). Parhaodd y traddodiad hwn yn ddiweddarach yn y ganrif, gyda nifer o weinidogion-benseiri fel Thomas Thomas a William Jones – roedd angen y gallu i drefnu cyllid a chynlluniau yn ogystal â sicrhau’r ffynonellau ariannol i ymgymryd â gwaith adeiladu. Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth yr arfer o apwyntio pwyllgor adeiladu’n gyffredin iawn, pwyllgor a oedd yn cynnwys y gweinidog yn ogystal ag aelodau’r gynulleidfa a oedd â sgiliau mewn materion busnes. Fodd bynnag, gwelir pwyllgorau yn troi fwyfwy at ddrafftwyr medrus neu benseiri i gynllunio eu capeli, naill ai drwy gysylltiad uniongyrchol neu drwy hysbysebu yn y wasg leol – fel y digwyddodd yn achos y Tabernacl, Aberystwyth, Ceredigion (NPRN 7157), pan y ceisiwyd cynllun ar gyfer capel ‘heb fod yn uwch na £1,500’ (S. Hughes, Thomas Thomas 1817-88; the First National Architect of Wales, 2003, tt. 80-81).
Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd nifer o benseiri’n arbenigwyr dylunio capeli. Mae Richard Owens o Lerpwl yn enghraifft nodedig; mae ei bapurau wedi goroesi, yn archif ryfeddol o’i waith. Roedd Owens, fel ei gyfoeswyr, yn cyfathrebu’n uniongyrchol gyda’r pwyllgor adeiladu. Byddai’r ohebiaeth yn dechrau fel arfer gyda thrafodaeth am y gwahanol opsiynau ar gyfer nifer y seddau a’r costau. Yn dilyn cytundeb rhwng y pwyllgor a’r pensaer, lluniwyd rhestr manylebau ar gyfer ystyriaethau pellach. Y cam nesaf oedd darparu dogfennau’r tendr, a’u cyhoeddi, fel arfer yn y wasg leol neu’r wasg adeiladu. Roedd dogfennau tendr yn tueddu i ddilyn patrwm arbennig, yn olrhain y broses drwy’r crefftau gwahanol, o gloddio’r sylfeini hyd at baentio ac addurno. Cofnodwyd yn ofalus lle roedd gwahanol aelodau’r gynulleidfa yn medru darparu neu gludo deunyddiau yn rhad ac am ddim.
Nid yw’n syndod i bethau weithiau fynd o’i le. Yn awyddus i arbed arian, derbyniodd Gapel Bedyddwyr Hill Park, Hwlffordd, Penfro (NPRN 11038) dendr isel gan adeiladwyr o Aberystwyth bell yn 1888. Condemniwyd y gwaith gan y pensaer, aeth y contractwr yn fethdalwr ac erlyniodd y masnachwr pren y capel yn y llys er mwyn cael ei arian. Ar ôl i’r sefyllfa gael ei datrys, cyfrifwyd bod yr holl gythrwfl wedi costio £14 yn fwy na’r tendr uchaf gwreiddiol. (W.J. Edwards, Three Hundred Years: the Story of the Church Worshipping at Hill Park, 1957)
Yn nhermau costau, roedd capel a oedd â seddau ar gyfer tua 250 yn costio ar gyfartaledd lai na £200 i’w adeiladu rhwng 1780 – 1810. Erbyn canol y ganrif, roedd capeli cyffelyb yn costio tua £500-600. Yn y 1860au, roedd y capeli mwy addurnol a ddyluniwyd gan benseiri yn costio ar gyfartaledd £1,200 – 1,500 ar gyfer 250 – 300 o seddau, yn codi i £2,000 – 2,500 am enghreifftiau cyffelyb yn y 1870au a’r 1880au.
O’r 6,427 o gapeli y gwyddys amdanynt yng Nghymru, ail-adeiladwyd o leiaf 2,295 unwaith, 806 ddwywaith, 213 dair gwaith a 39 bedair gwaith. Rhydd hyn gyfanswm o 9780 o brosiectau adeiladu – prosiectau y bu’n rhaid i’r cynulleidfaoedd godi arian a threfnu’r gwaith adeiladu ar eu cyfer.