Capeli Cymru

Beth yw capel?

Roedd y tai cwrdd neu gapeli cynnar fel rheol yn adeiladau bychain a gynigiai ystafell syml i’r gynulleidfa leol addoli ynddi. Adeiladwyd rhai wedi i’r cyfarfodydd cychwynnol gael eu cynnal yng nghartrefi aelodau neu yn llofftydd tafarndai; câi ysguboriau neu feudai eu trosi hefyd weithiau i fod yn addoldai addas. Un nodwedd gyffredin oedd lleoliad canolog y pulpud, a gynrychiolai’r pwyslais blaenaf a roddid ar bregethu gair Duw.

Adlewyrchwyd cryfder cynyddol Anghydffurfiaeth yng Nghymru, a’r cynnydd dramatig yn y boblogaeth, yn enwedig yn yr ardaloedd diwydiannol, yng nghyfrifiad crefyddol 1851 a gofnododd fod bron i 80% o addolwyr yng Nghymru’n mynychu capel anghydffurfiol. Un canlyniad oedd codi estyniadau ar adeiladau presennol neu adeiladu capeli mwy, gan osod y pulpud yn aml ar y talcen ôl, yn wynebu’r fynedfa yn y talcen blaen. Elfennau annatod eraill oedd y bwrdd cymun diaddurn a’r sêt fawr yn union o flaen y pulpud, lle’r eisteddai’r blaenoriaid neu’r diaconiaid a oedd wedi’u hethol gan yr aelodau. Byddai awyrgylch theatraidd grymus mewn awditoriwm caeedig o’r fath bob amser yn cynnig cyfle i bregethwr huawdl.

Cafodd Anghydffurfiaeth ddylanwad arwyddocaol ar fywyd diwylliannol, addysgol, gwleidyddol a chymdeithasol Cymru, yn ogystal â’i bywyd crefyddol, o’r ddeunawfed i’r ugeinfed ganrif. Ond wrth nesáu at ddiwedd yr ugeinfed ganrif gwelwyd gostyngiad mawr yn aelodaeth yr eglwysi Anghydffurfiol ac o ganlyniad mae llawer o gapeli bellach wedi cau a dyfodol llawer o addoldai hanesyddol heddiw dan fygythiad.

Huw Owen

Darllenwch fwy am Anghydffurfiaeth yng Nghymru