Oes gennych chi un o’n Capeli ni yn eich ardal chi?
Os cefnogwch ein gwaith trwy gyfranogi, byddwch yn cydweithio â gwirfoddolwyr eraill, Ymddiriedolwyr a staff i greu amgylchedd cyfeillgar i ymwelwyr, gofalu am ein capeli a chefnogi’r defnydd o’n hadeiladau er budd y gymuned leol. Cynhaliwn ddigwyddiadau amrywiol yn ein hadeiladau a chroesawn unrhyw gymorth yn y gwaith isod:
Dal allweddi
Eiriolwyr cymunedol
Cynnal a chadw/glanhau/gofalu
Cynnal tiroedd
Cefnogi digwyddiadau/ymgynghori
Codi arian
Marchnata/cysylltiadau cyhoeddus
Gwefan/Cyfryngau Cymdeithasol
Gweinyddu cyffredinol
I ymuno â grŵp Cyfeillion lleol neu i gael mwy o wybodaeth am gyfleon gwirfoddoli cysylltwch â [email protected]
Rydym bob amser yn falch o glywed gennych!
Recent Comments