Bu’r Ymddiriedolaeth yn llwyddiannus yn ei chais am grant bach gan y rhaglen ARWAIN i fwrw golwg ar sut y byddai’n bosib i ni ddatblygu’r adeilad mewn ffordd sensitif, gan ddarparu dehongliad dwyieithog o’i hanes a’i bensaernïaeth. Apwyntiwyd Griffiths Heritage Consultancy Ltd gennym i ymgymryd â’r astudiaeth ddichonoldeb. Roedd yr opsiynau a ddatblygwyd yn seiliedig ar wneud ychydig newidiadau yn unig i’r adeilad rhestredig, yn cydymffurfio ag opsiynau cyllido pellach posib ac amcanion strategol (yn cynnwys ARWAIN), yn dod o hyd i ddefnydd cynaliadwy newydd ar gyfer y festri a’r stabl, ac yn gydnaws â gofynion a dibenion Addoldai Cymru. Dewiswyd yr opsiwn i ddefnyddio’r llawr isaf ar gyfer galeri a fyddai’n cynnwys y dehongliadau ac a fyddai ar gael ar gyfer defnydd cyhoeddus, a defnyddio’r llawr cyntaf, sef y festri a’r capel ei hun fel cyfleuster ‘lletya llan’ (champing) syml.

Darllenwch yr adroddiad llawn: Capel Beili Du Business Plan Final

Roedd y grant hefyd wedi galluogi Addoldai Cymru i weithio mewn partneriaeth gyda Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i ddatblygu dehongliad digidol arloesol. Sganiwyd y capel â laser a chrëwyd ‘hedfan drwodd’ laser gan CUB3D. Crëwyd cysylltiadau agos rhwng yr Ymddiriedolaeth â’r gymuned leol wrth i ni barhau â’n gwaith ymchwil i hanes y capel, ac yn arbennig hanes y rhan a chwaraewyd gan drigolion yr ardal yn y Diwygiad Methodistaidd ei hun ac yn y blynyddoedd a ddilynodd. Nodwyd hefyd y cysylltiad agos rhwng y capel â Chapel Babell ar Fynydd Epynt. Apwyntiwyd cwmni Tree House Media gennym i greu ffilm fer yn adrodd yr hanes hwn.

Gwyliwch y ffilm

Yn ogystal â derbyn gwybodaeth a mewnbwn defnyddiol gan haneswyr lleol, ymwelwyd â nifer o ganolfannau a llyfrgelloedd wrth geisio dod o hyd i ffynonellau cynradd a fyddai’n dadlennu manylion pellach am hanes trigolion yr ardal a’r capel ei hun. Ymwelwyd ag Archifau Powys yn Llandrindod, y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, Archifau Caerfyrddin, y Gaer yn Aberhonddu, Llyfrgell y Brifysgol yn Abertawe a’r Ganolfan Treftadaeth a Chelfyddydau Llanwrtyd a’r Cyffiniau. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a gyfrannodd am eu hamynedd a’u cymorth.

 

Braslun o Hanes Cynnar Capel Beili Du

Mae Beili Du yn gapel Methodistiaid Calfinaidd ger Pontsenni ym Mhlwyf Llywel, a ddaeth i feddiant yr Ymddiriedolaeth yn 2009. Er bod prydles y capel yn dyddio nôl i’r flwyddyn 1800, gellid olrhain gwreiddiau’r achos nôl at ddechrau’r Diwygiad Methodistaidd yn Sir Frycheiniog gan fod Howell Harris ei hun yn ymwelydd cyson â’r plwyf. Mae’r ymweliad cyntaf yno a nodir yn ei ddyddiadur yn dilyn ei dröedigaeth yn arwyddocaol iawn – gan ei fod wedi treulio’r noson yn y plwyf ar ei ffordd i ymweld â Daniel Rowland yn Llangeitho am y tro cyntaf. Bu Harris yn bregethwr cyson yn Nhrecastell, canolfan drefol y plwyf, gan ei fod yn fan aros o bwys ar y ffordd goetsh fawr rhwng Lloegr a Gorllewin Cymru. Dywedir i bobl o bob rhan o’r Epynt deithio i’r ardal i’w glywed yn pregethu gyda’r nos – a bod effaith ei bregethu mor drawiadol arnynt, roeddent yn gwbl rydd o flinder y diwrnod canlynol, er iddynt dreulio’r noson flaenorol yn cerdded adref dros y mynydd.

Sefydlwyd nifer o’r seiadau Methodistaidd cynnar yn yr un mannau ag Ysgolion Cylchynol y Parch. Griffith Jones. Cynhaliwyd yr Ysgol Gylchynol gyntaf yn Llywel yn ystod Gaeaf 1740 – 1741 ac argraffwyd tystlythyr gan y Curad, y Parch. Llywelyn Llywelyn yn adroddiad blynyddol Jones ar waith yr ysgolion, Welch Piety ar gyfer y flwyddyn honno. Cynhaliwyd yr Ysgol yn Sglydach – a bernir mai dyma hefyd oedd man cyfarfod y Seiat gynnar yn Llywel. Cynhaliwyd Ysgol Gylchynol hefyd yn ystod yr un cyfnod ym mhlwyf cyfagos Llandeilo’r Fan; eto mae yna dystlythyr gan y Curad, y Parch. Penry Bailey yn yr un rhifyn o Welch Piety.

Yn foddlon cymeryd eu dysgu, ond nid oes llawer o undeb yn eu mysg, am na chyfarfyddant yn breifat. Dylent gael eu cymeryd yn dyner, fel baban sugno ar y fron, oblegyd eu gwendid’. Y disgrifiad cyntaf o’r Seiat yn Llywel sydd ar gael yw’r adroddiad a gyflwynwyd i Gyfarfod Sasiwn a gynhaliwyd yn Nhrefeca, 29 – 30 Mehefin 1743. Yn yr adroddiad, yn ôl yr Arolygwr, Morgan John Lewis, roedd yr 18 aelod:

Yn Rhagfyr 1746, cynhaliwyd Cyfarfod Sasiwn yn Llywel ei hun – ac erbyn 1749 roedd aelodau’r Seiat yno wedi datblygu’n ddigon hy i allu herio Howell Harris ynglŷn â’i berthynas gyda’i ‘broffwydes’, Madam Sydney Griffith. Yn ôl dyddiadur Harris, mae’n debyg ei fod wedi digio gyda’r aelodau am eu hyfdra, gan ei fod wedi eu hystyried yn ‘blant ysbrydol’ iddo – a bellach dyma hwy yn ei ‘feirniadu’ a’i ‘geryddu’. Yng ngolau’r ‘feirniadaeth’ hon, mae’n ddealladwy bod aelodau Seiat Llywel wedi ochri gyda Daniel Rowland yn dilyn yr ‘Ymraniad’ rhwng y ddau arweinydd yn 1750.

Mewn Cyfarfod Sasiwn a gynhaliwyd yn Nhrefeca yng Ngorffennaf 1747, penodwyd John Jones yn arolygwr grŵp o Seiadau yn Sir Frycheiniog – ac enwir Seiat Llandeilo’r Fan yn eu plith. Ni nodir y man cyfarfod, ond yn dilyn enghreifftiau lleol eraill, mae’n bosib ei bod wedi ei sefydlu yn dilyn yr Ysgol Gylchynol. Nid oes cyfeiriadau pellach ati yng nghofnodion y Cyfarfodydd Sasiwn cynharaf – ac mae’n bosib iddi ddod i ben yn dilyn yr ymraniad rhwng y ddau arweinydd. Ceir awgrym o hyn yn y gerdd a ddyfynnir isod.

Tyfodd nifer Methodistiaid yr ardal yn sylweddol yn dilyn y Diwygiad ‘Môr o Wydr’ yn 1762 – a chodwyd tŷ pregethu, ‘Tŷ Newydd’ yn Nhrecastell ei hun yn 1765. Dyma un o’r adeiladau cyfarfod cynharaf y Methodistiaid yn Sir Frycheiniog – a chynhaliwyd Cyfarfod Sasiwn yno ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn 1767.

Bu gan y Parch. William Williams, y trydydd o’r Diwygwyr berthynas gref gyda’r grŵp cynnar yn Llywel. Roedd ei gartref, Pantycelyn, ym mhlwyf Llanfair-ar-y-Bryn – ac roedd y plwyf yn rhannu ffin gyda gogledd Llywel a de Llandeilo’r Fan. Ysgrifennodd Williams Farwnad faith i gofio un o arweinwyr Seiat Llywel/Trecastell, Llywelyn Dafydd, a fu farw wedi iddo deithio i Lanfair ym Muallt ar gyfer Cyfarfod Sasiwn yno yn 1783.

Mae’r gerdd, sy’n hollol nodweddiadol o arddull Williams, yn cynnwys cyfeiriad at y ‘cwmwl oerllid fry’ a ymdaenodd dros Frycheiniog adeg yr ‘Ymraniad’ fel ‘rhyw len o dywyllwch du’. Ynddi hefyd ceir darlun byw o’r angladd ei hun. Traddododd William Llwyd o Gaeo y bregeth angladdol, cyn i’r galarwyr gerdded mewn tywydd mawr at eglwys y plwyf ar gyfer y ddefod angladdol a’r gladdedigaeth. Yn ôl y gerdd, bu’r eglwys yn orlawn – gyda muriau’r llan yn atseinio gyda chanu a galaru uchel y gynulleidfa Fethodistaidd.

Ceir cipolwg arwyddocaol ar weithgaredd y Methodistiaid yn ardal Llywel a Llandeilo’r Fan mewn cerdd arall a ysgrifennwyd gan William Williams at Mrs. Mary Watkins, gwraig David Watkins, Aberllech, perchennog Fferm Beili Du. Roedd Mrs. Watkins, a oedd, yn ôl tystiolaeth y gerdd, yn adnabod Williams yn bersonol, wedi anfon gwahoddiad ato i ddod i bregethu – yn ôl hanes lleol – i’w thŷ. Yn dibynnu ar union ddyddiad y gerdd, gall ‘y babell’ y cyfeirir ati yn y gerdd fod yn blasty Aberllech ei hun ym mhlwyf Llandeilo’r Fan – neu, os yw’r gerdd yn dyddio o 1790, gall fod yn gyfeiriad at dŷ pregethu Beili Du. Yn anffodus, nid oedd Y Pêr Ganiedydd yn rhydd i ddod adeg y gwahoddiad– ac yn nodweddiadol iawn ohono, ysgrifennodd ei ymateb ar ffurf cerdd. Mae’r gerdd yn disgrifio plwyf Llandeilo’r Fan fel ardal ‘lle roedd trwm gwsg a hepian’ ysbrydol, gyda Satan ei hun o’r farn na ddeuai’r ‘Efengyl yno byth’.  O ganlyniad i’r gwahoddiad i bregethu, byddai’r pâr, Mr a Mrs Watkins, a oedd eisoes wedi dechrau ar eu taith ysbrydol, eu ‘siwrne ddedwydda’ chwedl y gerdd, yn destun ei weddïau – a chaent eu gwobrwyo’n dragwyddol am iddynt ‘ddwyn Efengyl Iesu i blwyf Llandeilo’r Fan’. Bu farw Williams yn 1791 – ac yn anffodus, nid yw ar gof a chadw os cyrhaeddodd erioed y tŷ pregethu newydd hwn.Daeth Ebenezer Morris o Geredigion i blwyf Llywel i weithio fel athro ysgol yn 1786. Ymunodd â’r Methodistiaid a dechreuodd bregethu yn gymharol fuan ar ôl ei dröedigaeth. Pregethodd gydag arddeliad mawr ac o ganlyniad, cafwyd digwyddiad arall yn yr ardal  – gyda 25 o bobl yn cael tröedigaeth ac yn ymuno â’r Seiat mewn un noson. Digiodd un tirfeddiannwr lleol ar y gorfoleddu a dawnsio Methodistaidd ym mhrif ffyrdd a chaeau’r plwyf yn hwyr y nos – ac yn ôl yr hanes, aeth at Ynad Heddwch i weld a fyddai’n bosib i ddwyn nerth y gyfraith yn erbyn y sawl a fu’n gyfrifol am aflonyddu ei gwsg. Ond bu ei gais yn aflwyddiannus – gyda nifer yr aelodau lleol yn parhau i gynyddu. Addaswyd adeilad gerllaw Ffermdy Beili Du yn dŷ pregethu yn 1790, ac arwyddwyd prydlesau ar gyfer tai pregethu newydd ym mhlwyfi agos Merthyr Cynnog yn 1792 a Defynnog yn 1797.

Yn 1800, lluniwyd prydles Beili Du. Gosodwyd y tŷ pregethu ar brydles 999 o flynyddoedd, am swllt y flwyddyn. Ymhlith yr Ymddiriedolwyr, ceir nifer o enwau arwyddocaol – y Parch. John Williams, Lledrod (ddim John Williams, Pantycelyn), a William Llwyd o Gaeo, arweinwyr Methodistaidd cynnar, ynghyd â James James, Evan Evans a David Parry – y tri gŵr o Sir Frycheiniog a ordeiniwyd yn ystod gwasanaeth ordeinio cyntaf y Methodistiaid yn Llandeilo yn 1811. Enw mawr arall ymhlith yr unarddeg yw Ebenezer Morris – gŵr arall a gafodd ei ordeinio yn yr un cyfarfod wedi iddo ddychwelyd i’w sir enedigol. Dilynodd yn ôl traed Daniel Rowland fel arweinydd y Methodistiaid yn Ne Cymru.

Yn 1801, ysgrifennodd David Watkins ei ewyllys, gan farw wythnos a hanner ar ôl ei harwyddo. Gan fod ganddo eiddo sylweddol, profwyd ei ewyllys yn Llys Archesgob Caergaint. Serch hyn, yr eiddo cyntaf y ceir cyfeiriad ato yn yr ewyllys yw Fferm Beili Du – sy’n cael ei gadael i’w wraig am weddill ei hoes.  Gan nad oedd plant gan y teulu Watkins, gadawodd Mr. Watkins yr Ystâd i’w nai, David Lloyd, a oedd yn fab i’w chwaer, Elizabeth.  Bu farw Mrs. Watkins yn 1812 – a daeth y fferm a’r capel yn eiddo i Mr. Lloyd. Talwyd y rhent o swllt y flwyddyn gan aelodau’r capel i ddisgynyddion y teulu tan ganol yr ugeinfed ganrif.

 

Dr. Tanya Jenkins, 2019