Mwy am Peniel

Mae Peniel yn enghraifft eithriadol o bensaernïaeth glasurol gynnar yng Nghymru ac mewn gwrthgyferbyniad amlwg ag arddull Gothig Eglwys y Santes Fair (NPRN 43788). Mae’r rhan fwyaf o’r adeilad yn dyddio o 1810-11, ond dim ond yn 1849 y cafodd y portico Tysganaidd tair rhan neilltuol ei ychwanegu, er ei fod yn rhan o’r cysyniad gwreiddiol.

Yn un o gapeli Methodistaidd mwyaf ei ddydd, gwasanaethai dref newydd Tremadog ar dir oedd ar brydles gan Mr Madocks am rent hedyn pupur. Yn 1810 addawodd Madocks ddarparu £50 ar gyfer portico, ond dim ond £10 a ddaeth i law (cronfa ddata’r Bwrdd Astudiaethau Celtaidd). Nid oedd seddau wedi’u cynnwys yn yr amcangyfrif gwreiddiol, ond erbyn 1809 penderfynwyd cael seddau ar hyd y ddwy ochr a meinciau yn y canol: goleuid y tu mewn â chanhwyllau. Yn 1840 adeiladwyd galeri yn erbyn y wal flaen i wneud lle i’r gynulleidfa gynyddol ac yn 1849 gosodwyd colofnau presennol y ffasâd yn eu lle gan John a Gershon Thomas, Porthmadog, gyda Mr John Williams, asiant i Stad Tremadog yn gweithredu fel ‘Archwyliwr’ (Cynllun – Llsgr. LlGC, Archif MC, E106115). O 1857 goleuwyd y capel â nwy ac roedd gwaith atgyweirio yn 1860 yn cynnwys gosod seddau, ac ailagor y capel ar 2 Tachwedd. Yn 1880 estynnwyd y galeri o amgylch tair o ochrau’r capel ac roedd gwelliannau 1898 yn cynnwys y Sedd Fawr a’r pulpud presennol. Yn 1908-10 gosodwyd y nenfwd presennol. Gosodwyd boeler gwresogi yn 1952 a chyflwynwyd golau trydan i’r capel a’r Tŷ Capel yn 1953.

Yn 1905, cofnododd y Comisiwn Brenhinol ynghylch Eglwys Loegr a Chyrff Crefyddol Eraill yng Nghymru a Sir Fynwy bod lle i 600 eistedd yn y capel a 100 yn yr ysgoldy; mae ffigyrau Cyfrifiad Crefyddol 1851 ar gyfer Dosbarth Ffestiniog ar goll.

Plastr garw wedi’i beintio’n lliw hufen sydd ar waliau allanol y capel, gyda tho llechi uwchben bondo ymestynnol. Mae dau ris llechfaen lled llawn yn arwain i fyny at bortico Tysganaidd enfawr o ddwy golofn, a’r pediment trionglog yn cynnal ffenestr olwyn a sbandreli panelog. Yng nghefn y portico mae dau ddrws mynediad, o boptu ffenestr ddalennog ddi-gorn naw cwarel, a thair ffenestr ddalennog ben sgwâr arall uwchben. Mae’r ochrolygon wedi’u hadeiladu o flociau carreg mawr afreolaidd ac mae tair ffenestr ddalennog ddeuddeg cwarel arall yn y naill a’r llall. Ar y wal gefn mae ffenestr dridarn ben gron gyda bariau gwydro Gothig.

Y tu mewn, mae gan y capel furiau plastr sgrifellog uwchben dado tafod a rhigol a llawr pren ar ogwydd. Seddi blwch panelog sydd ar y llawr gwaelod, wedi’u rhannu’n dri phrif floc a’r blociau allanol yn wynebu ar ongl tua’r pulpud, a phedwerydd bloc llai ar ochr sgwâr i’r pulpud. Mae’r Sedd Fawr wedi’i hamgáu gan baneli pîn dwy haen a dim ond o’r gogledd-orllewin y gellir mynd iddi. Mae ymestyniad canolog yn cynnwys darllenfa, a sedd fainc grom glustogog o boptu iddo. Mae’r pulpud wedi’i wneud gan gwmni Owen Morris Roberts a’r Meibion, Porthmadog ac eir iddo i fyny 5 gris o’r naill ochr a’r llall. Mae’r pulpud ymestynnol yn ymgorffori rhywfaint o bren caled ac mae’r panel wyneb wedi’i fframio gan bilastrau rhychiog â dyluniadau dail acanthws, gyda cherfweddau dail a blodau i’r panel canol. Yn y cefn mae soffa â ffrâm bîn a chlustog, o dan fwa plastr â philastrau rhychiog a maen clo wedi’i addurno â motiff deiliog sy’n ymgorffori tywysennau gwenith. O boptu i fwa’r pulpud mae drws: mae’r un gogleddol yn cysylltu â’r ysgoldy yn y cefn, a’r un deheuol yn arfer arwain i’r tŷ capel ond bellach wedi’i gau’n rhannol â byrddau tafod a rhigol ddiwedd y 19eg ganrif.

Mae’r galeri gogwyddol a osodwyd yn 1880 yn rhedeg o amgylch tair ochr ac efallai ei fod yn cynnwys y galeri pen a godwyd yn 1840. Caiff ei gynnal gan 7 colofn Ddorig Rufeinig rychiog ac mae ei flaen yn baneli pîn wedi’i fowldio a chloc wedi’i fewnosod gyferbyn â’r pulpud. Meinciau agored yw’r seddi.

Mae’r nenfwd (1908-10) wedi’i orchuddio â phaneli mawr, asennau ffurfiedig a rhosyn nenfwd addurnol yn y canol, a’i batrwm yn gopi o batrwm y ffenestr olwyn yn y pediment. Mae’r galeri gogwyddol wedi’i osod ar golofnau rhychiog o haearn bwrw, a chanddo astell fondo banelog, blaen panelog a chloc canolog. Mae’r prif lawr yn cynnwys seddi blwch wedi’u rhifo, a sêt fawr o ddiwedd y 19eg ganrif.

Adeiladwyd yr ysgoldy un llawr yn hwyr yn y 19eg ganrif. Mae ganddo 2 ffenestr hanner cylch yn y talcen a thair ffenestr ddalennog ben gwastad yn y wal dde-orllewinol. Mae dado panelog y tu mewn, sydd efallai’n ailddefnyddio paneli’r seddau a’r galeri o’r cyfnod cyn 1860. Nenfwd gwastad â 2 rosyn plastr crwn ac awyrell ganolog o waith metel ymblethog â phen blodyn.

Animeiddio