Hanes Peniel

Dechreuodd hanes y capel hynod hwn pan agorwyd Ysgol Sul yn 1805 yn un o’r ychydig dai a oedd wedi’u hadeiladu yn ‘nhref newydd’ eginol William A Madocks, Tre Madoc. Entrepreneur o Lundain oedd Madocks, a brynodd y corstir yn 1798 gan feddwl sefydlu tref ar y llwybr masnach rhwng Llundain ac Iwerddon. Erbyn 1808 roedd symudiadau ar droed i godi capel Methodistaidd pwrpasol yn y dref ddatblygol ac erbyn Chwefror 1810 roedd digon o waith adeiladu wedi’i gwblhau i ganiatáu cynnal gwasanaeth agoriadol ym mhresenoldeb y pregethwr dylanwadol y Parch. Thomas Charles o’r Bala. Cwblhawyd y gwaith adeiladu flwyddyn yn ddiweddarach, yn 1811, ddeunaw mis yn gynt na’r eglwys Anglicanaidd newydd gyfagos. Nid oedd Madocks ei hun yn anghydffurfiwr, felly sioc i rai oedd iddo ganiatáu capel yn y dref. Ond nid oedd Madocks yn gweld bygythiad yn y syniad o godi capel mor fawr, gan nodi bod “yr eglwys wedi’i hadeiladu ar graig, a’r capel wedi’i adeiladu ar dywod”.

Roedd y capel a gwblhawyd yn 1811 heb y portico Clasurol a fyddai’n rhoi ei gymeriad eiconig i’r adeilad; daeth hwnnw’n ddiweddarach. Mae’n debyg mai’r bwriad o’r cychwyn (gan Madocks, mae’n debyg, fel addurn i’w dref newydd) oedd cynnwys y portico pedimentog â’i golofnau Tysganaidd, ond gan fod yr £50 a addawyd tuag at ei gost heb ddod i law cafodd ei adael i ffwrdd. Ond hyd yn oed heb ei bortico roedd y capel yn unigryw yng Nghymru ar adeg ei godi, a hynny oherwydd ei faint arloesol a hefyd ei gynllun anarferol. Roedd cynllun yr awditoriwm a’i wyneb talcen yn wahanol iawn i’r ffasiwn gyfoes am gapeli bychain â wynebau wal hir a’r pulpud wedi’i leoli rhwng y ddau ddrws i mewn. Yn raddol cafodd yr arddull hwn ei fabwysiadu’n gyffredinol yng Nghymru ac ystyrir bod Peniel yn allweddol bwysig yn y broses, wrth i gynulleidfaoedd werthfawrogi manteision awditoriwm.

Ffynnodd y capel a gwnaed ambell addasiad yn ddiweddarach, e.e. rhoi galeri yn y cefn yn 1840; cwblhau’r portico pedimentog yn 1849; cyflwyno seddau sefydlog yn 1860; estyn y galeri ar hyd y waliau ochr yn 1880; sedd fawr a phulpud newydd yn 1898; a nenfwd newydd yn 1908-10.

Mae’n ymddangos bod y tŷ annedd deulawr y tu cefn i’r capel wedi’i adeiladu yn ystod canol y 19eg ganrif, ac yr ychwanegwyd yr ysgoldy unllawr sylweddol nesaf ato yn hwyrach yn y ganrif honno .

Trosglwyddwyd Peniel i’r Ymddiriedolaeth yn 2010 am y swm bach o £100, dan ei statws fel elusen ragnodedig dan Ddeddf Eglwysi ac Addoldai Eraill Gwag 1969 (fel y’i diwygiwyd yn Atodlen 5 Deddf Elusennau 1992).

Animeiddio