Y Crynwyr – Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion

Roedd gwreiddiau’r mudiadau Anghydffurfiol cynnar yn deillio o anfodlonrwydd y Piwritaniaid ar y cytundeb crefyddol a orfodwyd gan Elizabeth I fel ymateb i’r Diwygiad Protestannaidd a oedd wedi ysgubo trwy Ewrop yn yr 16eg ganrif. Fe’u symbylwyd gan awydd i ailganfod ffurf burach, fwy cyntefig o gred a threfniadaeth Gristnogol wedi’i seilio’n gadarn ar ddysgeidiaeth y Beibl. Er mai’r Bedyddwyr a’r Annibynwyr oedd y mudiadau mwyaf o fewn yr “Hen Ymneilltuaeth” yng Nghymru, mae lle arwyddocaol hefyd i Gymdeithas Grefyddol y Cyfeillion, neu’r Crynwyr fel y’u gelwir yn gyffredin.

Tyfodd mudiad y Crynwyr o chwalfa’r Rhyfel Cartref: bu dadlau cyffredin am anghyfartaledd cyfoeth a grym, am yr angen am fwy o gyfiawnder cymdeithasol, ac ynghylch a oedd Duw ar fin ymyrryd mewn modd apocalyptaidd, diwedd-y-byd. Roedd rhyddid cydwybod a rhyddid addoli ar yr agenda i lawer a oedd yn awchu am newid. Yn yr hinsawdd hon, daeth eu sylfaenydd George Fox i gredu bod modd cael profiad uniongyrchol o Grist heb gymorth clerigwyr ordeiniedig a dechreuodd deithio yn Lloegr gan annog ei wrandawyr i ymateb i’r goleuni mewnol y credai ei fod ym mhob un. Ynghlwm wrth ddehongliad tra unigolyddol Fox o’r Efengyl roedd galwad am ddidwylledd syml, a oedd yn siŵr o dramgwyddo’r rhai mewn awdurdod. Roedd hyn yn cynnwys gwrthod mynegi parch drwy foesymgrymu neu ddiosg het, gwrthod tyngu llwon, a phwyslais ar siarad plaen heb ddim o addurniadau cwrteisi confensiynol.

Daeth Crynwriaeth i Gymru ym 1653 pan anfonwyd Siôn ap Siôn, aelod o gynulleidfa’r Annibynwyr yn Wrecsam, gan ei weinidog Morgan Llwyd i gartref George Fox yn Swarthmore Hall yn Swydd Gaerhirfryn i gael dysgu am ei athrawiaeth o lygad y ffynnon. Dychwelodd i Gymru’n Grynwr brwd ac wedi hynny rhoddodd ei holl egni i hyrwyddo dysgeidiaeth Fox yng Nghymru. O gynulleidfaoedd o’r fath y cafwyd rhai o’r tröedigaethau cyntaf i ddysgeidiaeth y Crynwyr yng Nghymru, gan eu bod eisoes yn ymdeimlo â’r angen am ddiwygiad crefyddol a chymdeithasol. Yn y De, roedd rhai o’r bobl a drodd at Grynwriaeth ym 1654 wedi bod yn rhan o gynulleidfa William Erbery, pregethwr ac ysgrifennwr radicalaidd  o’r Rath a oedd newydd farw.  Ym 1657 teithiodd Fox ei hun o gwmpas Cymru yng nghwmni Siôn ap Siôn, a weithredai fel cyfieithydd i’r Gymraeg ar ei ran. Llwyddodd y gwaith i ryw raddau yn syth, yn enwedig yn siroedd Maesyfed a Meirionnydd.

Wedi’r Adferiad ym 1660, ymosodwyd ar y Crynwyr gan yr Anglicaniaid a’r prif enwadau ymneilltuol fel ei gilydd am eu credoau crefyddol anuniongred, a chan yr awdurdodau sifil am eu hymddygiad anghymodlon tuag at rai mewn awdurdod. Nodwyd hwy ar gyfer erledigaeth arbennig o lym a systematig: bwriad diamwys Deddf Crynwyr 1662 oedd cyfyngu ar eu rhyddid i gynnal cyfarfodydd a’u hatal rhag gwrthod tyngu llwon. Achoswyd caledi economaidd drwy osod dirwyon ac atafaelu nwyddau; cyfyngwyd ar eu symudiadau; weithiau byddid yn tarfu’n dreisgar ar eu haddoliad, a gallent hyd yn oed gael eu carcharu. Roedd y Crynwyr yn gwrthod cydymffurfio â phethau megis talu degwm, mynychu eglwys Anglicanaidd ac, fel pobl a oedd wedi datgan nad oedd cred yn Nuw yn gydnaws â rhyfela, gwrthodent dalu at gynhaliaeth byddin. Trwy’r dulliau hyn ac mewn ffyrdd eraill, credent eu bod yn adfywio ffurf ar Gristnogaeth a oedd yn nes at ei ffurf ‘gyntefig’.

Wedi degawdau o drafferthion i anghydffurfwyr crefyddol, a effeithiodd ar Grynwyr yn fwy na’r rhelyw, ac wedi’u hysbrydoli gan freuddwydion am ryddid crefyddol a’r cyfle i greu cymdeithas dduwiol, dewisodd llawer allfudo i Bennsylvania ac ymgartrefu ar dir a brynwyd gan y Crynwr William Penn. Achosodd yr allfudo, a ddechreuodd ym 1662, ddirywiad mawr yng nghymuned y Crynwyr yng Nghymru. Yn ei nofelau Y Stafell Dirgel ac Y Rhandir Mwyn mae’r awdur Marion Eames yn dwyn i gof brofiad y Crynwyr yn ardal Dolgellau yn y 1670au a’u hallfudiad wedi hynny. Bu hynny’n gryn ergyd i niferoedd y Crynwyr yng Nghymru, a bu cwymp pellach yn eu niferoedd mewn rhai ardaloedd yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif.

Yn ystod y 18fed ganrif, dechreuodd y Crynwyr ar y cyfnod Tawelyddol yn eu hanes, ac aethant yn fwy mewnblyg yn ysbrydol ac yn llai gweithgar o ran troi eraill at y ffydd. Yn y cyfnod hwn roedd yn hawdd adnabod Crynwyr oherwydd eu dillad plaen, a byddai priodi ag unrhyw un nad oedd yn gyd-Grynwr yn arwain at ‘ddiarddel’. Edrychid yn ffafriol ar ddidwylledd y Cyfeillion a chafodd rhai eu denu atynt oherwydd y tawelwch yn eu haddoliad ac oherwydd gallu pregethwrol rhai o’u dynion a’u merched, ond ychydig a ddewisodd fynd yn Gyfeillion yn yr adeg honno. Parhaodd niferoedd y Crynwyr yng Nghymru i fod yn fach: dim ond pump o gynulleidfaoedd Crynwyr a gofnodwyd yng Nghyfrifiad Crefyddol 1851 a dim ond un gynulleidfa yn fwy a fodolai erbyn 1905.

Bu Crynwyr yn gynyddol weithgar mewn busnes o ddiwedd y 18fed ganrif ymlaen, ac yng Nghymru gadawsant eu hôl mewn gwaith glo, haearn a dur, mewn gwaith cynhyrchu llestri, ac ym myd bancio. Buont yn weithgar hefyd dros achosion dyngarol ac wrth hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol. Yn y cyfamser dechreuodd y cyfyngiadau traddodiadol o ran gwisg ‘blaen’ ac arferion priodi lacio. Erbyn yr 20fed ganrif roeddent wedi diflannu. Heddiw mae oddeutu ddwy waith yn fwy o aelodau gan Gymdeithas y Cyfeillion yng Nghymru nag a oedd ganrif yn ôl. Yn ogystal â’r rhain, ceir canran sylweddol o addolwyr gyda’r Cyfeillion sydd heb fod yn aelodau ond sydd efallai’n gysylltiedig â’r cyfarfodydd ers talwm, tra bod eraill yn newydd-ddyfodiaid cymharol.

Tai cwrdd yw’r enw ar addoldai’r Crynwyr, fel rhai’r Annibynwyr a’r Bedyddwyr cynnar. Mae ambell un yn bodoli ers canrifoedd, fel Dolobran (1700) ger Meifod, Sir Drefaldwyn; ac adeilad to gwellt y Pales yn Llandegle, Sir Faesyfed (1717), gyda mynwent nesaf ati’n dyddio’n ôl i 1673, yw’r tŷ cwrdd hynaf yng Nghymru sy’n dal i gael ei ddefnyddio. Erbyn heddiw mae 29 o gyfarfodydd Crynwyr yng Nghymru, a gynhelir mewn amrywiaeth eang o leoliadau, rhai yn eu tai cwrdd eu hunain a rhai mewn ystafelloedd ar rent.

Yn wahanol i lawer o grwpiau eraill sydd wedi ymddangos o fewn Cristnogaeth, mae Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion wedi mynd ati i geisio osgoi credoau a strwythurau hierarchaidd. Does dim gweinidogion, does dim pregethu ffurfiol yn eu cyfarfodydd sy’n cynnwys elfen fawr o ddisgwyl Duw mewn tawelwch, ac nid yw’r Crynwyr yn cadw sagrafennau bedydd a’r cymun sanctaidd.

Neil Sumner (gyda diolch mawr am ddeunydd a ddarparwyd gan Christine Trevett a Lionel Madden)