Methodistiaid Wesleaidd

Overview

Y 18fed Ganrif

Jwesleysitting

John Wesley (1703-1791)

Charles_Wesley

Charles Wesley (1707-1788)

George_Whitefield

George Whitefield (1714-1770)

Prif fudiadau Anghydffurfiaeth Protestannaidd yng Nghymru yn yr 17eg ganrif oedd yr Annibynwyr, neu Gynulleidfawyr, a’r Bedyddwyr, ond yn y 18fed ganrif trawsnewidiwyd y tirlun crefyddol gan ddyfodiad Methodistiaeth. Rhan oedd hyn o fudiad crefyddol rhyngwladol llawer ehangach, y gellir ei olrhain i dwf Pietistiaeth efengylaidd ar gyfandir Ewrop o ran olaf yr 17eg ganrif ymlaen. Roedd ei bwyslais ar feithrin ymroddiad personol dwys, drwy bregethu’n uniongyrchol i galon yr unigolyn, yn sail ar gyfer mudiadau a ymledodd i Brydain a hefyd i drefedigaethau America. Yng Nghymru arweiniodd at ffurfiant dau enwad pwysig, sef Methodistiaeth Galfinaidd, neu Bresbyteriaeth fel y’i gelwid hefyd yn ddiweddarach, a Methodistiaeth Wesleaidd, neu Fethodistiaeth yn syml.
Roedd John Wesley, ynghyd â’i frawd Charles a’i gyd-glerigwr George Whitefield, yn arweinydd mudiad efengylaidd a ddechreuodd yn y 1720au yn Rhydychen fel The Holy Club, clwb ar gyfer astudio a byw buchedd Gristnogol duwiol. Rhoddwyd yr enw “Methodist” ar y frawdoliaeth hon gan eu cyd-fyfyrwyr oherwydd y modd y defnyddiai “reol” a “method” i ymdrin â’i chred grefyddol. Cymerodd Wesley yr ymgais at wawd a’i throi’n deitl o anrhydedd.

Ym 1738, profodd Wesley ei dröedigaeth efengylaidd, fel y’i gelwir bellach, pan deimlodd “wres rhyfedd yn ei galon”. Cam allweddol yn natblygiad gweinidogaeth Wesley, fel Whitefield, oedd teithio a phregethu yn yr awyr agored. Gan symud ar draws gwledydd Prydain, Iwerddon a Gogledd America, helpodd ffurfio a threfnu grwpiau Cristnogol bychain a ddatblygai atebolrwydd, disgyblaeth ac addysg grefyddol ddwys a phersonol. Yn bwysicach, penododd efengylwyr crwydrol, anordeiniedig, i deithio a phregethu fel y gwnâi ef ac i ofalu am y pobloedd hyn.

Ar y dechrau, unig nod y Methodists Methodistiaid a arweinid gan Wesley oedd diwygio Eglwys Loegr yn fewnol, trwy ddychwelyd at yr efengyl, ond lledaenodd y mudiad gyda’r deffroad a chyn hir daeth nifer arwyddocaol o glerigwyr Anglicanaidd yn aelodau cysylltiol o’r mudiad gan adweithio i’r canfyddiad o ddifaterwch ar ran Eglwys Loegr. Tynnid Methodistiaid cynnar o bob haen o gymdeithas, gan gynnwys y bonedd, ond âi’r pregethwyr Methodistaidd â’r neges at weithwyr a throseddwyr a dueddai i fod wedi’u gadael allan o grefydd gyfundrefnol ar y pryd. Prif nodwedd Methodistiaeth yw ei phwyslais ar helpu’r tlodion a phobl gyffredin, ei hagwedd systematig iawn at adeiladu’r unigolyn, a’r “eglwys” a’i hysbryd cenhadol. Trefnodd Wesley’r tröedigion newydd yn lleol ac mewn “Cyfundeb” ledled gwledydd Prydain.

Cyn hir tynnwyd John Wesley a George Whitefield i gysylltiad â Howell Harris a Daniel Rowland, Cymry a oedd wedi’u hysbrydoli gan werthoedd tebyg. Pregethodd Wesley yng Nghymru am y tro cyntaf ym 1739 ar wahoddiad Howell Harris. Ond roedd y Methodistiaid Cymreig ar y pryd yn coleddu athrawiaeth Galfinaidd rhagordeiniad, gan gredu bod Crist wedi marw dros yr etholedig ddethol rai yn unig. Dyma’r athrawiaeth a ddelid gan arweinwyr Methodistiaid Cymru a Whitefield, ond roedd Wesley’n chwyrn yn ei herbyn gan bregethu’r syniad Arminaidd fod y cynnig o iachawdwriaeth yn agored i bawb. Er i Harris a Wesley lwyddo i gydweithio ar y dechrau, bu’r gwahaniaeth sylfaenol hwn yn eu dehongliad o’r Ysgrythur fwyfwy yn fodd i yrru hollt rhwng dwy garfan y mudiad Methodistaidd cynnar.Er i John Wesley ymweld â Chymru 35 o weithiau a phasio drwy’r wlad ar sawl achlysur arall wrth deithio i Iwerddon ac yn ôl, bach iawn oedd effaith Methodistiaeth Wesleaidd yng Nghymru. Gan nad oedd Wesley yn siarad Cymraeg, ar siaradwyr Saesneg bron yn ddieithriad y câi effaith. Roedd ei gytundeb gyda Howell Harris, y gadawai’r rhan fwyaf o’r cyfrifoldeb am Gymru iddo ef, yn golygu mai dim ond rhyw 600 o ddilynwyr oedd gan Wesley yng Nghymru erbyn diwedd y 18fed ganrif.

BpThomasCoke

Thomas Coke (1747-1814)

Byddai’r Methodistiaid cynnar, yn Galfinwyr a Wesleaid, yn efengylu o fewn Eglwys Loegr ac yn parhau i dderbyn cymun yn yr eglwys Anglicanaidd leol. Gwnaent bopeth a allent i osgoi cael eu galw’n Anghydffurfwyr, gan ystyried mai eu rôl oedd glanhau ac adfywio Eglwys Loegr yn hytrach nag ymneilltuo oddi wrthi. Pan ddechreusant godi eu hadeiladau eu hunain, nid eglwysi na chapeli annibynnol oeddent, na hyd yn oed dai cwrdd (hoff derm yr Anghydffurfwyr) ond yn syml “tai pregethu” neu “dai newydd” dan yr eglwys sefydledig. Y cynharaf sy’n dal i sefyll yw Earlswood yn Sir Fynwy, a adeiladwyd ym 1791.

Ymwahanodd y Methodistiaid Wesleaidd Prydeinig yn ffurfiol oddi wrth Eglwys Loegr yn ystod y 1790au, yn dilyn marwolaeth Wesley. Dan arweiniad Dr Thomas Coke, brodor o Aberhonddu, penderfynodd Cynhadledd Wesleaid Prydain ym 1800 anfon pregethwyr Cymraeg eu hiaith i Gymru, a arweiniodd at dwf cynulleidfaoedd Cymraeg. Hawlir mai Pendref yn Ninbych yw’r capel Wesleaidd Cymraeg cyntaf yng Nghymru, wedi’i adeiladu ym 1801. Yn y cyfamser, bu mewnlifiad Wesleaid Saesneg eu hiaith, o Gernyw yn arbennig, i’r ardaloedd mwyngloddio a oedd yn tyfu’n gyflym, yn fodd i hyrwyddo sefydlu ac ehangu cynulleidfaoedd Saesneg. Er i’r Wesleaid ledaenu wedi hynny drwy Gymru gyfan roeddent wastad yn llai o ran niferoedd a dylanwad na’r tri enwad mawr arall.

Yn ôl i’r brig^

Y 19eg Ganrif

Trwy gydol y 19eg ganrif dominyddwyd Ymneilltuaeth yng Nghymru gan hen fudiadau Anghydffurfiol yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr a mudiadau diweddarach y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd. Byddai diffiniadau aelodaeth yn amrywio’n fawr rhwng yr enwadau, gan beri ei bod yn anodd cymharu rhwng yr enwadau. Hyd yn oed o fewn un enwad nid yw’r cofnodion yn debygol o fod yn gyson ddibynadwy gan bob cynulleidfa ym mhob cyfnod. Serch hynny, mae’n amlwg i bob un o’r pedwar prif enwad weld cynnydd enfawr yn eu haelodaeth drwy gydol y ganrif.
Cofnododd Cyfrifiad Crefyddol 1851 fod gan y Wesleaid gyfanswm o 499 o addoldai. Er bod cwestiynau lu am ddibynadwyedd ystadegau Cyfrifiad 1851, mae’r niferoedd a gofnodwyd yn bresennol yn y gwasanaeth mwyaf poblogaidd – sef y gwasanaeth nos Sul fel arfer – yn cadarnhau bod cyfanswm o 53,730 yn mynychu oedfaon Wesleaidd.

Yn ystod y 19eg ganrif, profodd yr Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd sawl ymddatgysylltiad, a’r mwyaf o’r rhain oedd y Methodistiaid Cyntefig, a’u cenhadaeth benodol i’r dosbarth gweithiol. Torrodd y rhain i ffwrdd i ffurfio’u Cyfundeb eu hunain pan wrthododd y prif gorff ganiatáu pregethu yn yr awyr agored, ac mae ganddynt batrwm dosbarthiad cryf a diddorol yng Nghymru. Roedd gan grwpiau ymneilltuol eraill, yn cynnwys y Cyfundeb Newydd Methodistaidd, Cristnogion y Beibl, Cymdeithas y Methodistiaid Wesleaidd a’r Diwygwyr Wesleaidd, i gyd bresenoldeb yng Nghymru, yn bennaf ymysg y boblogaeth Saesneg ei hiaith, er bod Cymdeithas y Methodistiaid Wesleaidd yn cynnwys y capeli Cymraeg hynny a adwaenid fel y Wesle Bach, a adawodd Wesleaid Cymru mewn ymddatgysylltiad a gychwynnodd ym 1831. Ac eithrio’r Methodistiaid Cyntefig, byddai’r cyrff hyn i gyd yn cyfuno’n raddol, gan ddod yn rhan o’r Eglwys Fethodistaidd Unedig maes o law ym 1907, a unodd ei hun gyda’r Wesleaid a’r Methodistiaid Cyntefig i ffurfio’r Eglwys Fethodistaidd ym 1932.

Cyn y 1830au roedd y prif enwadau, yn enwedig y Methodistiaid, wedi bod yn geidwadol yn eu hagweddau gwleidyddol. Ond daeth yr Anghydffurfwyr fwyfwy i siarad ag un llais ar faterion megis collfarnu’r adroddiad ar addysg Cymru ym 1847, esgyniad Mudiad Rhydychen o fewn Eglwys Loegr, y rhwystrau dinasyddol a osodwyd arnynt, a’r alwad am ddiwygio’r drefn etholiadol. Galluogodd yr undod hwn i Anghydffurfwyr Cymru symud i safle o gryn ddylanwad gwleidyddol a arferwyd ganddynt drwy gefnogaeth gref i’r Blaid Ryddfrydol, yr edrychent ati i’w rhyddhau o’u cwynion, ac y rhannent â hi gred ganolog ym mhwysigrwydd dewis yr unigolyn.
Er gwaethaf llwyddiannau’r 19eg ganrif a’r gobeithion a godwyd gan ddiwygiad 1904, byddai’r 20fed ganrif yn dyst i ddirywiad trychinebus mewn Anghydffurfiaeth Gymreig. Cyrhaeddodd aelodaeth pob un o’r prif enwadau ei huchafbwynt yn gynnar yn y ganrif. Gan ystyried cynulleidfaoedd Cymraeg a Saesneg ill dwy, mae’n ymddangos i’r Methodistiaid Wesleaidd gyrraedd eu hanterth ym 1932 gyda 56,027 o aelodau.

Dangosodd cyfrifiad y Feibl Gymdeithas o eglwysi Cymru ym 1982 fod gan y Methodistiaid Wesleaidd 24,300 o aelodau bryd hynny. Dangosodd Yr Her i Newid, adroddiad Arolwg Eglwysi Cymru a gynhaliwyd gan y Feibl Gymdeithas ym 1995, fod 396 o gapeli Methodistiaid Wesleaidd (o gymharu â 553 ym 1982). Amcangyfrifodd Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i’n Cymunedau, yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Gweini yn 2008, fod 341 o gynulleidfaoedd Methodistiaid Wesleaidd yng Nghymru.

Lionel Madden a Neil Sumner

Yn ôl i’r brig^

Mapiau dosbarthiad y Methodistiaid Wesleaidd

Yn ôl i’r brig^