Undodiaid

Trosolwg

Yr Ymneilltuwyr Cynnar

Fferm Brynllywarch

Fferm Brynllywarch, Penybont ar Ogwr

Er mai enwad cymharol fach ydynt, mae i’r Undodaidd le arwyddocaol yn hanes Ymneilltuaeth ac Anghydffurfiaeth yng Nghymru. Fel yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr, mae gwreiddiau’r Undodaidd yn tarddu o anfodlonrwydd Piwritanaidd â’r cytundeb crefyddol a osodwyd gan Elizabeth I mewn ymateb i’r Diwygiad Protestannaidd a ysgubodd drwy Ewrop yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Fe’u symbylwyd gan awydd i adfer ffurf burach, fwy cyntefig o gred a threfn Gristnogol wedi’i seilio’n gadarn ar ddysgeidiaeth y Beibl.

Esblygodd cynulleidfaoedd yn raddol yn ystod rhan olaf yr 17eg ganrif a dechrau’r 18fed ganrif, yn aml wedi datblygu’n ddiwinyddol allan o gynulleidfaoedd cynharach y Presbyteriaid, yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr. Cam tuag at Arminiaeth ddeuai gyntaf, sef y gred fod gan ddyn ryddid i ddewis ac y gallai ennill iachawdwriaeth drwy ei weithredoedd ei hun yn hytrach nag athrawiaeth Galfinaidd rhagordeiniad, sef mai dros yr etholedig ddethol rai yn unig y bu farw Crist. Athrawiaeth arall a Arysgrif 1733, Yr Hen Gapel, Llwynrhydowenarddelwyd oedd Ariaeth, a wrthodai athrawiaeth uniongred y Drindod, sy’n maentumio bod Duw’n cwmpasu tri pherson mewn un, gan arddel y gred mai un person yw Duw. Roedd safbwyntiau mor wrth-Drindodaidd yn eu gosod ar wahân i fudiadau Ymneilltuol eraill ac yn wir cawsant eu gadael allan yn benodol o ddarpariaethau Deddf Goddefiant 1689, tra pennodd Deddf Cabledd 1698 fod gwadu’r Drindod yn drosedd.

Braslun o Hen Dŷ Cwrdd 1751

Braslun o Hen Dŷ Cwrdd 1751, delwedd trwy garedigrwydd Archif Ffotograffiaeth Rhondda Cynon Tâf

Yng Nghymru, fel yn Lloegr, catalydd pwysig yn nhwf Undodiaeth oedd cariad at ddysgu a’r addysg ryddfrydol a ddarperid gan y Colegau Anghydffurfiol a ddatblygodd yn y 18fed ganrif oherwydd y cyfyngiadau a rwystrai anghydffurfwyr rhag mynychu Rhydychen a Chaergrawnt. Addysgwyd y rhan fwyaf o fyfyrwyr Undodaidd yn y colegau hyn a ddarparai hyfforddiant galwedigaethol hefyd i ddarpar weinidogion. Ffurfiodd Samuel Jones, wedi cael ei droi allan o’i fywoliaeth Anglicanaidd yn sgil Deddf Unffurfiaeth 1662, goleg pwysig ym Mrynllywarch ger Pen-y-bont ar Ogwr, coleg a symudodd i Gaerfyrddin yn ddiweddarach. Un o athrawon mwyaf dylanwadol Coleg Caerfyrddin oedd Thomas Perrot ac ym 1726 dechreuodd ei fyfyriwr Jenkin Jones bregethu Arminiaeth yng Ngheredigion.

Ym 1733, adeiladodd Jenkin Jones gapel yn Llwynrhydowen, Ceredigion – y capel Arminaidd cyntaf yng Nghymru. Sefydlwyd chwaer gapel yn <ahref=”http://www.welshchapels.org/search/nprn/7368″>Alltyblaca yn 1742. Dylanwadwyd ar weinidogion ifainc a chynulleidfaoedd eraill yn yr ardal gan Jenkin Jones a gweinidogion blaenllaw eraill a’i dilynodd, yn cynnwys David Lloyd a Dafydd Dafis. Yn y cyfamser, roedd Arminiaeth ac Ariaeth yn ennill tir yn ardal Merthyr Tudful. Roedd anghydffurfwyr Piwritanaidd wedi addoli’n ddirgel, o bosib mor bell yn ôl â’r 1640au, yn ffermdy Blaencanaid ac wedyn yng Nghwm-y-glo, dau le ar y llethrau rhwng Merthyr Tudful ac Aberdâr. Adeiladodd eu holynwyr yr Hen Dŷ Cwrdd yng Nghefn Coed y Cymer yn 1747 a’r Hen Dŷ Cwrdd yn Nhrecynon yn 1751.

Yn ôl i’r brig^

Y 18fed Ganrif

Ysgogydd y newid oddi wrth Ariaeth i Undodiaeth yng Nghymru oedd Thomas Evans, a adwaenid yn well fel Tomos Glyn Cothi (1764-1833). Gwehydd o ddyffryn Teifi oedd Tomos na chafodd addysg ffurfiol ond a ddatblygodd awydd dwys i ddysgu. Cerddai i Alltyblaca i glywed pregethau gan David Lloyd a Dafydd Dafis a dechreuodd bregethu ei hun yn ei gartref yng Nghwm Cothi, ger Brechfa, Sir Gaerfyrddin. Anfonodd yr Undodwr blaenllaw o Sais, Theophilus Lindsey, lyfrau Saesneg ato, yn cynnwys llyfrau ganddo’i hun a chan y gwyddonydd a’r Undodwr enwog, Joseph Priestley, llyfrau a gyfieithwyd gan Tomos Glyn Cothi i’r Gymraeg. Ym 1796, sefydlodd y gwir gapel Undodaidd cyntaf yng Nghymru yng Nghwm Cothi, lle cafodd y llysenw “Priestley Bach” oherwydd ei sêl dros Gristnogaeth resymol. Sefydlodd Charles Lloyd, mab David Lloyd, yr achosion Undodaidd cyntaf yng Ngheredigion, ym Mhant-y-defaid a Chapel y Groes ym 1802. Maes o law roedd 13 o gapeli Undodaidd yn yr ardal, yn gwrthsefyll ton ar ôl ton o ddiwygiadau efengylaidd a darddai o ganolfan Methodistiaeth Calfinaidd Cymru, Llangeitho, nid nepell i’r gogledd. Yn sgil hynny daethpwyd i alw’r cymunedau hyn gan haneswyr gelyniaethus Methodistaidd fel y ‘Smotyn Du’

Iolo Morganwg

Iolo Morganwg; trwy garedigrwydd Archif Ffotograffiaeth Rhondda Cynon Tâf

Cofeb Tomos Glyn Cothi (Thomas Evans) yn yr Hen Dŷ Cwrdd, Trecynon

Cofeb Tomos Glyn Cothi (Thomas Evans) yn Hen Dŷ Cwrdd, Trecynon

Pechodd Tomos Glyn Cothi yn erbyn yr awdurdodau pan ganodd ganeuon Jacobinaidd mewn cynulliad cymdeithasol, gan gynnwys ei fersiwn Gymraeg ei hun o’r Marseillaise. Am hyn fe’i rhoddwyd yn y rhigod a’i garcharu yng Ngharchar Caerfyrddin o 1803 hyd 1811 lle ysgrifennodd bamffledi radicalaidd, emynau a barddoniaeth. Ar ôl cael ei ryddhau, derbyniodd Tomos wahoddiad gan gynulleidfa’r Hen Dŷ Cwrdd, Trecynon lle gweinidogaethodd fel Undodwr tan ddiwedd ei oes ym 1833.
Ffigwr allweddol arall oedd Edward Williams, neu Iolo Morganwg fel y câi ei adnabod. Dyn o sawl talent a diddordeb oedd Iolo: yn saer maen, bardd, diwinydd, emynydd, a hynafiaethydd barddol. Yn y 1790au byddai’n cerdded yn fynych i Lundain lle daeth i gysylltiad agos â gwŷr a gydymdeimlai â’r Chwyldro Ffrengig a hefyd ag arweinwyr Undodaidd fel Lindsey a Priestley. Roedd Iolo’n ddolen gyswllt hollbwysig rhwng Llundain a’r arloeswyr Undodaidd Cymreig, yn gyfaill agos i Tomos Glyn Cothi ac yn brif ysgogydd sefydlu Cymdeithas Undodaidd Cymru ym 1802. Yn ystod y cyfnod hwn roedd yr Hen Dŷ Cwrdd yng Nghefn Coed y Cymer yntau wedi arddel Undodiaeth ac roedd cynulleidfaoedd Undodaidd eraill wedi ymffurfio yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, dyffryn Nedd, Trebannws, Caerfyrddin, Caerdydd ac Abertawe.

Yn ôl i’r brig^

Y 19eg Ganrif

Gwilym Marles (William Thomas)

Gwilym Marles (William Thomas) (1834-1879)

Cred Undodiaid mewn diwinyddiaeth resymegol, ac fe’u hysgogir gan ddynoliaeth ac awdurdod moesol Crist, yn hytrach na’i ddwyfoldeb. Mae’r symudiad o Ariaeth i Undodiaeth yn ystod cyfnod y rhyfeloedd Ffrengig yn cynrychioli ailgyflwyno gwleidyddiaeth i’r traddodiad anghydffurfiol. Bu Undodwyr ar flaen y gad mewn brwydrau dros ryddid dinesig a chrefyddol, a dim ond wedi Deddf Athrawiaeth y Drindod 1813 y dilëwyd cosbau yn eu herbyn o’r diwedd. Roeddent yn radicalaidd yn eu gwleidyddiaeth yn ogystal ag mewn crefydd. Roedd John Jones, gweinidog Cefn Coed y Cymer, ac Owen Evans, gweinidog Trecynon, yn gefnogwyr cyhoeddus i ymdrechion mudiad y Siartwyr, gan ennyn llid yr awdurdodau. Amddiffynnodd gweinidog dynamig Llwynrhydowen, William Thomas (Gwilym Marles) y ffermwyr lleol a gâi eu cam-drin gan eu tirfeddianwyr trwy gyfraniadau cyson i’r wasg, darlithoedd cyhoeddus a phregethau rheolaidd. Arweiniodd hyn at ddigwyddiad drwgenwog ym 1876 pryd y cafodd ef a’i gynulleidfa eu troi allan gan y tirfeddiannwr Torïaidd lleol.

Mae Cyfrifiad Crefyddol 1851 yn cynnwys adroddiadau am 27 o gynulleidfaoedd Undodaidd. Er gwaethaf gweithgarwch cenhadol, mae’n debyg nad oedd yr Undodiaid yn ymroi i broselytiaeth ymosodol, ac erbyn 1905 dim ond un addoldy ychwanegol oedd wedi’i gofnodi dros ffigwr 1851.

Mae’n bosib mai’r Undodiaid oedd yr unig enwad Cristnogol yn y 19eg ganrif na chafodd eu taflu oddi ar eu hechel gan y chwyldro Darwinaidd; yn wir, coleddodd y mudiad y syniadaeth newydd, fel y gwnaeth byth ers hynny, ar y cyfan, gyda datblygiadau gwyddonol diweddarach. Yn y 19eg ganrif, chwyldrôdd Theodore Parker a James Martineau y meddylfryd diffrwyth cysylltiedig â dibyniaeth draddodiadol yr Undodiaid ar destunau Beiblaidd, a dwyn y mudiad ymlaen i ffydd newydd seiliedig ar reswm a’r gydwybod oleuedig.

Mae 22 o gynulleidfaoedd Undodaidd yng Nghymru ar hyn o bryd, 13 ohonynt yn gynulleidfaoedd Cymraeg yng Ngheredigion. Mae pob un yn perthyn i Gymanfa Gyffredinol yr Undodiaid a’r Eglwysi Cristnogol Rhydd, a gynrychiolir yng Nghymru gan Bwyllgor Cyfadran Undodiaid Cymru. Mae Cyfadran Cymru’n darparu cyswllt rhwng prif ganolfan y mudiad yn Llundain a’r cynulleidfaoedd yng Nghymru yn ogystal â bod yn ddolen rhwng y ddwy Gymdeithas Undodaidd, y naill yn ne-ddwyrain Cymru a’r llall yn cynnwys y cynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith yn y Gorllewin.

Neil Sumner

Yn ôl i’r brig^

Mapiau dosbarthiad yr Undodiaid

Unitarian Distribution All

 

 

 

 

 

Yn ôl i’r brig^