Annibynwyr

Trosolwg

Yr Ymneilltuwyr Cynnar

Map Dosbarthiad capeli’r Annibynwyr yng Nghymru 1800

Map Dosbarthiad capeli’r Annibynwyr yng Nghymru 1800

Roedd gwreiddiau’r mudiadau Anghydffurfiol cynnar yn tarddu o anfodlonrwydd Piwritanaidd â’r cytundeb crefyddol a osodwyd gan Elizabeth I mewn ymateb i’r Diwygiad Protestannaidd a ysgubodd drwy Ewrop yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Symbylwyd yr Ymneilltuwyr gan awydd i adfer ffurf burach, fwy cyntefig o gred a threfn Gristnogol wedi’i seilio’n gadarn ar ddysgeidiaeth y Beibl. Y ddau fudiad a fyddai’n fwyaf eu harwyddocâd yng Nghymru oedd y Bedyddwyr a’r Annibynwyr, neu’r Cynulleidfawyr fel y’u gelwid weithiau.

Coleddai’r Annibynwyr a’r Bedyddwyr fel ei gilydd y syniad fod pob cynulleidfa o gredinwyr a oedd wedi casglu ynghyd yn ffurfio eglwys ymreolaethol a allai benodi ei weinidog a’i swyddogion ei hun a bod yn hunanlywodraethol yn ei holl faterion goruchwyliaeth ysbrydol a threfniadaeth weinyddol ac ariannol. I raddau helaeth byddai cynulleidfaoedd yn trefnu eu cyfundrefn eu hunain gan gymryd unrhyw gymorth a allent oddi wrth arferion mewn mannau eraill. Cred Annibynwyr fod eu model o lywodraethu eglwysig yn cyflawni’r disgrifiad o’r eglwys fore ac yn caniatáu i bobl gael y berthynas fwyaf uniongyrchol â Duw. Am y rheswm hwn, yn enwedig yn y cyfnod cynnar, ni fu’r syniad o gyfundrefn enwadol erioed yn gryf o fewn y mudiad. Yn ddiwinyddol, roedd yr Annibynwyr ar y cyfan yn Galfinaidd eu hathrawiaeth, gan gredu bod Crist wedi marw dros yr etholedig ddethol rai yn unig.

Sefydlwyd y gynulleidfa Annibynnol gyntaf yng Nghymru yn Llanfaches, Sir Fynwy, dan arweiniad rheithor Piwritanaidd y plwyf, William Wroth. Corfforwyd y gynulleidfa hon yn ffurfiol ym 1639 trwy gyfamod difrifol a wnaed ac y tystiwyd iddo yng ngŵydd cynrychiolydd o gynulleidfa Annibynnol gydnabyddedig yn Llundain. Dan sêl cenhadol Wroth a’i gydweithwyr dawnus iau, pregethwyd yn helaeth yn ne Cymru a’r gororau, a sefydlu ail gynulleidfa yng Nghaerdydd.

maesyronnen external jpg

Maesyronnen, y Clas ar Wy (NPRN 8238): © Hawlfraint y Goron: RCAHMW

Pan gychwynnodd y Rhyfel Cartref ym 1642, ac yn wyneb y gefnogaeth gref i’r frenhiniaeth yn yr ardal, bu raid i gynulleidfa Llanfaches ymalltudio am gyfnod. Er mor ingol oedd hyn, esgorodd ar y fantais gadarnhaol o ddod â’r arweinwyr i gysylltiad â chylch ehangach o bersonoliaethau Piwritanaidd, yn Llundain yn arbennig. Wrth i achos y Seneddwyr ffynnu, daeth cyfle i’r gynulleidfa ddychwelyd i Gymru.

Gydag adferiad y frenhiniaeth ym 1660 dechreuodd cyfnod cythryblus i gynulleidfaoedd yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr fel ei gilydd. Bwriad Deddf Unffurfiaeth 1662 a Deddfau Cêl-gyfarfodydd 1664 a 1670 oedd gorfodi ufudd-dod i Eglwys sefydledig Lloegr. Gyda Deddf Corfforaethau 1661 a Deddf Brawf 1673 lleihawyd hawliau dinasyddol anghydffurfwyr. Amrywiai lefel yr erlid dan y Deddfau hyn ar wahanol adegau ac mewn gwahanol rannau o Gymru, ond does dim amheuaeth nad achoswyd dioddefaint sylweddol i lawer o aelodau ymroddedig cynulleidfaoedd anghydffurfiol.

DI2008_0392

Maesyronnen, y Clas ar Wy (NPRN 8238): © Hawlfraint y Goron: RCAHMW

Er nad oedd yn dileu’r rhwystrau dinasyddol ar anghydffurfwyr, adferodd Deddf Goddefiad 1689 rywfaint o ryddid addoliad, er mai o fewn paramedrau a reolid yn gaeth y gwnaeth hynny. Un ddarpariaeth bwysig iawn dan y Ddeddf oedd y caniateid am y tro cyntaf i anghydffurfwyr adeiladu eu haddoldai eu hunain. Cyn hynny roeddent wedi cwrdd yn bennaf mewn tai preifat, ysguboriau neu lennyrch mewn coedydd, ond o 1689 ymlaen dechreuodd yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr godi capeli.  Wrth i’w cynulleidfaoedd dyfu braenarwyd y tir iddynt godi’n rymoedd pwysig ym mhrif ffrwd Anghydffurfiaeth yn ddiweddarach.

Adeiladwyd y capel Annibynwyr cyntaf gan gynulleidfa Llanfaches ym mhentref cyfagos Carrow Hill. Er nad yw’r adeilad gwreiddiol, y capel anghydffurfiol cyntaf i’w adeiladu yng Nghymru, yno mwyach, ystyrir Llanfaches o hyd fel “Jerwsalem Cymru”. Capel Annibynwyr arall o’r cyfnod hwn yw Maesyronnen, ger y Clas ar Wy (NPRN 8238) a addaswyd o ysgubor ym 1692 – y capel cynharaf yng Nghymru sydd wedi goroesi yn ei ffurf wreiddiol i bob pwrpas.

Back to top^

Y 19eg Ganrif

Yn anochel, cafodd sêl a chyffro ysbrydol y diwygiad Methodistaidd yng nghanol y 18fed ganrif ddylanwad ar y ddau brif grŵp Anghydffurfiol. Ym 1775 roedd oddeutu 100 o gynulleidfaoedd Annibynnol yng Nghymru ac roedd hyn yn cynyddu’n gyson. Erbyn 1800 roedd 28 o weinidogion yr Annibynwyr yn y De a 18 yn y Gogledd.

Distribution map of all Independent Chapels in Wales 1851

Map Dosbarthiad capeli’r Annibynwyr yng Nghymru 1851: © Hawlfraint y Goron: RCAHMW

Ymunodd y cynulleidfaoedd Saesneg eu hiaith a rhai cynulleidfaoedd Cymraeg â’r Congregational Union of England and Wales pan sefydlwyd hwnnw ym 1832, tra ffurfiodd mwyafrif llethol y cynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith eu hundeb eu hunain, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, ym 1872. Erbyn heddiw, mae llawer o eglwysi’r Undeb Cymraeg yn cynnal eu gwasanaethau’n ddwyieithog. Amcan yr Undeb yw cynnig cefnogaeth eglwysi i’w gilydd ond does ganddo ddim awdurdod dros y cynulleidfaoedd unigol.

Trwy gydol y 19eg ganrif dominyddwyd Ymneilltuaeth yng Nghymru gan hen fudiadau Anghydffurfiol yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr a mudiadau diweddarach y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd. Byddai diffiniadau aelodaeth yn amrywio’n fawr rhwng yr enwadau, gan beri ei bod yn anodd cymharu rhwng yr enwadau. Hyd yn oed o fewn un enwad nid yw’r cofnodion yn debygol o fod yn gyson ddibynadwy gan bob cynulleidfa ym mhob cyfnod. Serch hynny, mae’n amlwg i bob un o’r pedwar prif enwad weld cynnydd enfawr yn eu haelodaeth drwy gydol y ganrif. Ynghyd â’r Methodistiaid Calfinaidd, gan yr Annibynwyr yr oedd y niferoedd mwyaf o aelodau a chapeli.

Tabernacl Morriston

Tabernacl, Morriston (NPRN 8993): © Crown Copyright: RCAHMW

Cofnododd Cyfrifiad Crefyddol 1851 fod gan yr Annibynwyr 700 o addoldai. Er bod cwestiynau lu am ddibynadwyedd ystadegau Cyfrifiad 1851, mae’r niferoedd a gofnodwyd yn bresennol yn y gwasanaeth mwyaf poblogaidd – sef y gwasanaeth nos Sul fel arfer – yn cadarnhau bod cyfanswm o 96,527 yn mynychu oedfaon yr Annibynwyr. Dangosodd y Cyfrifiad hefyd fod yr Annibynwyr, fel y Bedyddwyr, ar eu cryfaf yn y De.

Adlewyrchir cryfder yr Annibynwyr yng nghanol y 19eg ganrif gan gapel Tabernacl Treforys, campwaith pensaernïol uchelgeisiol a adeiladwyd ym 1873 ac a ystyrir yn briodol fel ‘Cadeirlan Anghydffurfiaeth yng Nghymru’. Mae’n ddatganiad hyderus mewn lleoliad trefol ac yn sefyll mewn gwrthgyferbyniad llwyr â chapel gwledig, diymffrost a gwerinol Maesyronnen. Mae’r ddau adeilad yn nodweddu trawsnewidiad Anghydffurfiaeth yng Nghymru mewn llai na 200 mlynedd.

Cyn y 1830au roedd y prif enwadau, yn enwedig y Methodistiaid, wedi bod yn geidwadol yn eu hagweddau gwleidyddol. Ond daeth yr Anghydffurfwyr fwyfwy i siarad ag un llais ar faterion megis collfarnu’r adroddiad ar addysg Cymru ym 1847, esgyniad Mudiad Rhydychen o fewn Eglwys Loegr, y rhwystrau dinasyddol a osodwyd arnynt, a’r alwad am ddiwygio’r drefn etholiadol. Galluogodd yr undod hwn i Anghydffurfwyr Cymru symud i safle o gryn ddylanwad gwleidyddol, a arferwyd ganddynt drwy gefnogaeth gref i’r Blaid Ryddfrydol, yr edrychent ati i’w rhyddhau o’u cwynion, ac y rhannent â hi gred ganolog ym mhwysigrwydd dewis yr unigolyn.

Er gwaethaf llwyddiannau’r 19eg ganrif a’r gobeithion a godwyd gan ddiwygiad 1904, byddai’r 20fed ganrif yn dyst i ddirywiad trychinebus mewn Anghydffurfiaeth Gymreig. Cyrhaeddodd aelodaeth pob un o’r prif enwadau ei huchafbwynt yn gynnar yn y ganrif. Gan ystyried cynulleidfaoedd Cymraeg a Saesneg ill dwy, cyrhaeddodd yr Annibynwyr neu Gynulleidfawyr eu hanterth ym 1927 gyda 171,242 o aelodau.

Back to top^

Yr 20fed Ganrif

Ym 1972 ymunodd y rhan fwyaf o’r Cynulleidfawyr Saesneg yng Nghymru a Lloegr ag Eglwys Bresbyteraidd Lloegr i ffurfio’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig.  Ym 1981 ymunodd Eglwysi Crist â hwy a dilynodd Undeb Cynulleidfaol yr Alban ym 2000. Penderfynodd rhai cynulleidfaoedd beidio ag ymuno, ac mae 29 o’r rhain ar hyn o bryd wedi ymgysylltu â’r Gynghrair Gynulleidfaol yng Nghymru.

Dangosodd cyfrifiad y Feibl Gymdeithas o eglwysi Cymru ym 1982 fod gan yr Annibynwyr 65,200 o aelodau bryd hynny. Dangosodd Yr Her i Newid, adroddiad Arolwg Eglwysi Cymru a gynhaliwyd gan y Feibl Gymdeithas ym 1995, fod 642 o gapeli Annibynnol/Cynulleidfaol (o gymharu â 746 ym 1982) a 140 o gapeli Diwygiedig Unedig.  Amcangyfrifodd Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i’n Cymunedau, yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Gweini yn 2008, fod 514 o gynulleidfaoedd Annibynwyr a 117 o gynulleidfaoedd yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig.

Back to top^

Mapiau dosbarthiad yr Annibynwyr