Methodistiaid Calfinaidd / Presbyteriaid

Trosolwg

Yr Ymneilltuwyr Cynnar

Griffith Jones (1684-1761) Rheithor Llanddowror

Griffith Jones (1684-1761) Rheithor Llanddowror

Prif fudiadau Anghydffurfiaeth Protestannaidd yng Nghymru yn yr 17 eg ganrif oedd yr Annibynwyr, neu Gynulleidfawyr, a’r Bedyddwyr, er fod yma gynulleidfaoedd Presbyteraidd yn aml dan arweiniad clerigwyr a gawsai eu troi allan o’u bywoliaethau Anglicanaidd ar ôl herio Deddf Unffurfiaeth 1662. Yn y 18fed ganrif trawsnewidiwyd y tirlun crefyddol gan ddyfodiad Methodistiaeth. Rhan oedd hyn o fudiad crefyddol rhyngwladol llawer ehangach y gellir ei olrhain i dwf Pietistiaeth efengylaidd ar gyfandir Ewrop o ran olaf yr 17eg ganrif ymlaen. Roedd ei bwyslais ar feithrin ymroddiad personol dwys, drwy bregethu’n uniongyrchol i galon yr unigolyn, yn sail ar gyfer mudiadau a ymledodd i Brydain a hefyd i drefedigaethau America. Yng Nghymru arweiniodd at ffurfiant dau enwad pwysig, sef Methodistiaeth Galfinaidd, neu Bresbyteriaeth fel y’i gelwid hefyd yn ddiweddarach, a Methodistiaeth Wesleaidd, neu Fethodistiaeth yn syml.

Ystyrir mai Griffith Jones, rheithor Llanddowror, Sir Gaerfyrddin oedd rhagflaenydd y mudiad Methodistaidd yng Nghymru. Ym 1731 cychwynnodd ei ysgolion cylchynol, a ddysgodd filoedd o Gymry i ddarllen Cymraeg, gan ddilyn cwricwlwm yn ei ysgolion a oedd yn gwbl seiliedig ar astudio’r Beibl a Chatecism Eglwys Loegr. Wrth wneud hyn creodd genhedlaeth o bobl a fyddai’n barod i dderbyn syniadau Methodistiaeth. Erbyn ei farwolaeth ym 1761, amcangyfrifir bod dros 200,000 o bobl, rhyw 45% o boblogaeth Cymru, wedi dysgu darllen yn ysgolion Griffith Jones, ac wedi dod yn hyddysg iawn yn yr ysgrythurau Cristnogol. Pregethodd ef ei hun hefyd yn yr awyr agored fel y gwnâi arweinwyr Methodistaidd diweddarach.

Howell Harris (1714-73)

Howell Harris (1714-73)

Map dosbarthiad y Methodistiaid Calfinaidd cyn 1800

Map dosbarthiad y Methodistiaid Calfinaidd cyn 1800

Ond gwir fan cychwyn y mudiad Methodistaidd yng Nghymru oedd profiad tröedigaeth Howell Harris yn eglwys Talgarth ym 1735. Er ei fod yn lleygwr yn Eglwys Loegr, teimlodd reidrwydd i bregethu a hyfforddi dan yr hyn a gredai oedd yn arweiniad uniongyrchol gan Dduw. Ym 1737 cyfarfu â Daniel Rowland, curad Nantcwnlle a Llangeitho, a oedd yntau wedi profi deffroad ysbrydol dwys ac wedi dod yn bregethwr grymus ysbrydoledig yn sgil hynny. Yn wir, ar ôl ei dröedigaeth ymwelodd Howell Harris â Griffith Jones am arweiniad ysbrydol, a phregethau Griffith Jones yn Llanddewi Brefi a arweiniodd at dröedigaeth Daniel Rowland ac at iddo ddechrau pregethu syniadau Methodistaidd. Trydydd arweinydd mawr y mudiad cynnar oedd William Williams Pantycelyn, emynydd mawr Cymru’n ddiweddarach, a gafodd dröedigaeth ym 1737 wrth wrando ar Howell Harris yn pregethu ym mynwent Talgarth.

William Williams Pantycelyn (1717-1791), “Y Pêr Ganiedydd”, emynydd enwocaf Cymru

William Williams Pantycelyn (1717-1791), “Y Pêr Ganiedydd”, emynydd enwocaf Cymru

Daeth y dynion hyn yn arweinwyr mudiad efengylaidd cynyddol a anelai at adfywio Eglwys Loegr yng Nghymru. Yn fuan daethant i gysylltiad â John Wesley a George Whitefield, clerigwyr o Loegr a ysbrydolwyd gan werthoedd tebyg. Yn anochel, roedd tensiynau o fewn y mudiad ei hun. Roedd Methodistiaid Cymru bryd hynny’n coleddu athrawiaeth Galfinaidd rhagordeiniad, gan gredu bod Crist wedi marw dros yr etholedig ddethol rai yn unig. Dyma’r athrawiaeth a arddelid gan arweinwyr Methodistiaid Cymru a Whitefield ond roedd Wesley’n chwyrn yn ei herbyn gan bregethu’r syniad Arminaidd fod iachawdwriaeth yn gynnig a oedd yn agored i bawb. Er i Harris a Wesley lwyddo i gydweithio ar y dechrau, bu’r gwahaniaeth sylfaenol hwn yn eu dehongliad o’r Ysgrythur yn fodd i yrru hollt rhwng dwy garfan y mudiad Methodistaidd cynnar.

Ymgymerodd Howell Harris a William Williams â theithiau pregethu mawr, yn y De i ddechrau ond gan fentro i’r Gogledd yn ddiweddarach. Wrth bregethu byddent yn troi pobl at yr achos, a’r rheini wedyn yn casglu’n grwpiau trefnus o seiadau. Wrth i fwy a mwy o bobl gael tröedigaeth, crëwyd mwy a mwy o efengylwyr, ac erbyn 1750 roedd dros 400 seiat o’r fath yng Nghymru.

Daniel Rowland, Llangeitho (1713-1790)

Daniel Rowland, Llangeitho (1713-1790)

Canolbwyntiodd Daniel Rowland ei ymdrechion ar Langeitho a ddaeth yn ganolfan i’r mudiad, ac erbyn y 1760au ef oedd yn cael ei gydnabod fel arweinydd y mudiad. Ym 1762 gwelwyd golygfeydd anghyffredin o benboethni crefyddol yn Llangeitho wrth i bobl heidio i glywed Daniel Rowland yn pregethu. Tynnwyd ei statws fel curad oddi arno gan Eglwys Loegr ym 1763 ac yn sgil hynny adeiladodd ei gynulleidfa ym 1764 gapel Methodistaidd Calfinaidd ar gyfer ei weinidogaeth, sef Capel Gwynfil yn Llangeitho. Yn y cyfamser, ffurfiodd Howell Harris gymuned hunangynhaliol yn Nhrefeca ger Talgarth a esblygodd ym 1842 i fod yn goleg hyfforddi i’r Methodistiaid Calfinaidd.

Byddai’r Methodistiaid cynnar, yn Galfinwyr a Wesleaid, yn efengylu o fewn Eglwys Loegr ac yn parhau i dderbyn cymun yn yr eglwys Anglicanaidd leol. Gwnaent bopeth a allent i osgoi cael eu galw’n Anghydffurfwyr, gan ystyried mai eu rôl oedd glanhau ac adfywio Eglwys Loegr yn hytrach nag ymneilltuo oddi wrthi. Pan ddechreusant godi eu hadeiladau eu hunain, nid eglwysi na chapeli annibynnol oeddent, na hyd yn oed dai cwrdd (hoff derm yr Anghydffurfwyr) ond yn syml “tai pregethu” neu “dai newydd” dan yr eglwys sefydledig. Sefydlwyd tŷ pregethu penodol cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn y Groeswen, ger Caerffili, ym 1742. Mae twf cynyddol yr adeiladu yn ystod ail hanner y 18fed ganrif yn rhoi rhyw amcan o dwf y mudiad Methodistaidd: erbyn diwedd y ganrif roedd y Methodistiaid Calfinaidd wedi adeiladu dros 200 o dai pregethu. Ceid y niferoedd mwyaf yn Sir Gaernarfon, Sir Gaerfyrddin a Sir Aberteifi, ardaloedd Cymraeg yn bennaf.

Thomas Charles (1755-1814)

Thomas Charles (1755-1814)

Er i John Wesley ymweld â Chymru 35 o weithiau a phasio drwy’r wlad ar sawl achlysur arall wrth deithio i Iwerddon ac yn ôl, bach iawn oedd effaith Methodistiaeth Wesleaidd yng Nghymru. Roedd Wesley wedi gwneud cytundeb gyda Howell Harris yn gadael y rhan fwyaf o’r cyfrifoldeb am Gymru iddo ef; gan nad oedd yn siarad Cymraeg, ar siaradwyr Saesneg bron yn ddieithriad y byddai Wesley’n gadael argraff bersonol.

Wedi i Daniel Rowland a William Williams farw, trosglwyddwyd awenau’r enwad i Thomas Charles. Gweithiai hwnnw yn y Bala, ond o wlad Griffith Jones yr hanai felly nid yw’n syndod yr ymgysegrodd i waith addysgol, sefydlu mudiad yr mudiad yr Ysgolion Sul a’i weithgareddau cyhoeddi cysylltiedig. Buan y treiddiodd y mudiad i’r enwadau eraill a daeth yr Ysgol Sul i bob oed yn sefydliad unigryw i Gymru.

Yn ôl i’r brig^

Y 19eg Ganrif

Map dosbarthiad y Methodistiaid Calfinaidd cyn 1851

Map dosbarthiad y Methodistiaid Calfinaidd cyn 1851

Trwy gydol y 19eg ganrif dominyddwyd Ymneilltuaeth yng Nghymru gan hen fudiadau Anghydffurfiol yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr a mudiadau newydd y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd. Byddai diffiniadau aelodaeth yn amrywio’n fawr rhwng yr enwadau, gan beri ei bod yn anodd cymharu rhwng yr enwadau. Hyd yn oed o fewn un enwad nid yw’r cofnodion yn debygol o fod yn gyson ddibynadwy gan bob cynulleidfa ym mhob cyfnod. Serch hynny, mae’n amlwg i bob un o’r pedwar enwad weld cynnydd enfawr yn eu haelodaeth drwy gydol y ganrif.

Defnyddiwyd y term “Methodist Calfinaidd” gyntaf ym 1801, ac wrth i’r enwad dyfu i fod yr enwad Anghydffurfiol mwyaf yng Nghymru, ymwahanodd oddi wrth Eglwys Loegr ym 1811 a sefydlu Cyffes Ffydd ym 1823. Yn ystod y 19eg ganrif cyfeirient atynt eu hunain gan amlaf fel Cyfundeb yn hytrach nag Eglwys.

Cofnododd Cyfrifiad Crefyddol 1851 fod gan y Methodistiaid Calfinaidd gyfanswm o 807 o addoldai. Er bod cwestiynau lu am ddibynadwyedd ystadegau Cyfrifiad 1851, mae’r niferoedd a gofnodwyd yn bresennol yn y gwasanaeth mwyaf poblogaidd – sef y gwasanaeth nos Sul fel arfer – yn cadarnhau bod cyfanswm o 120,734 yn mynychu oedfaon y Methodistiaid Calfinaidd. Dangosodd y Cyfrifiad hefyd fod y Methodistiaid Calfinaidd ar eu cryfaf yng ngogledd Ceredigion a’r cyfan o ogledd Cymru.

Cyn y 1830au roedd y prif enwadau, yn enwedig y Methodistiaid, wedi bod yn geidwadol yn eu hagweddau gwleidyddol. Ond daeth yr Anghydffurfwyr fwyfwy i siarad ag un llais ar faterion megis collfarnu’r adroddiad ar addysg Cymru ym 1847, esgyniad Mudiad Rhydychen o fewn Eglwys Loegr, y rhwystrau dinasyddol a osodwyd arnynt, a’r alwad am ddiwygio’r drefn etholiadol. Galluogodd yr undod hwn i Anghydffurfwyr Cymru symud i safle o gryn ddylanwad gwleidyddol a arferwyd ganddynt drwy gefnogaeth gref i’r Blaid Ryddfrydol, yr edrychent ati i’w rhyddhau o’u cwynion, ac y rhannent â hi gred ganolog ym mhwysigrwydd dewis yr unigolyn.

Yn ôl i’r brig^

Yr 20fed Ganrif

Map dosbarthiad y Methodistiaid Calfinaidd cyn 1914

Map dosbarthiad y Methodistiaid Calfinaidd cyn 1914

Er gwaethaf llwyddiannau’r19eg ganrif a’r gobeithion a godwyd gan ddiwygiad 1904, byddai’r 20fed ganrif yn dyst i ddirywiad trychinebus mewn Anghydffurfiaeth Gymreig. Cyrhaeddodd aelodaeth pob un o’r prif enwadau ei huchafbwynt yn gynnar yn y ganrif. Gan ystyried cynulleidfaoedd Cymraeg a Saesneg ill dwy, mae’n ymddangos i’r Methodistiaid Calfinaidd gyrraedd eu hanterth ym 1926 gyda 189,727 o aelodau.

Ym 1933 rhoddodd Deddf Methodistiaid Calfinaidd neu Eglwys Bresbyteraidd Cymru statws cydradd i’r ddau enw. Wrth i’r ganrif fynd rhagddi daeth y Methodistiaid Calfinaidd fwyfwy i arfer yr enw Eglwys Bresbyteraidd Cymru. (Eglwys Bresbyteraidd Cymru). I lawer o Gymry, serch hynny, hyd heddiw, y Methodistiaid ydynt yn syml. Bu’r enwad gryfaf ymysg siaradwyr Cymraeg erioed ond mae ganddo aelodaeth Saesneg sylweddol hefyd. Fel presbyteriaid, mae gan yr enwad ffurf hierarchaidd o lywodraeth eglwysig a ffurfir o’r eglwysi lleol, yr henaduriaethau dosbarth, rhanbarthau’r Gymdeithasfa genedlaethol, a’r Gymanfa Gyffredinol genedlaethol.

Dangosodd cyfrifiad y Feibl Gymdeithas o eglwysi Cymru ym 1982 fod gan y Methodistiaid Calfinaidd 79,900 o aelodau bryd hynny. Dangosodd Yr Her i Newid, adroddiad Arolwg Eglwysi Cymru a gynhaliwyd gan y Feibl Gymdeithas ym 1995, fod 885 o gapeli Methodistiaid Calfinaidd (o gymharu â 1169 ym 1982). Amcangyfrifodd Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i’n Cymunedau the report published by Gweini in 2008, yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Gweini yn 2008, fod 733 o gynulleidfaoedd Methodistiaid Calfinaidd yng Nghymru.

Lionel Madden a Neil Sumner

Yn ôl i’r brig^

Mapiau dosbarthiad y Methodistiaid Calfinaidd

Yn ôl i’r brig^