Bedyddwyr

Trosolwg

Yr Ymneilltuwyr Cynnar

Libanus, Waunclyndaf

Capel Libanus, Waunclyndaf, Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin, ble defnyddwyd yr Afon Marlais gerllaw ar gyfer bedyddio.

Roedd gwreiddiau’r mudiadau Anghydffurfiol cynnar yn tarddu o anfodlonrwydd Piwritanaidd â’r cytundeb crefyddol a osodwyd gan Elizabeth I mewn ymateb i’r Diwygiad Protestannaidd a ysgubodd drwy Ewrop yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Symbylwyd yr Ymneilltuwyr gan awydd i adfer ffurf burach, fwy cyntefig o gred a threfn Gristnogol wedi’i seilio’n gadarn ar ddysgeidiaeth y Beibl. Y ddau fudiad a fyddai’n fwyaf eu harwyddocâd yng Nghymru oedd yr Annibynwyr, neu Gynulleidfawyr fel y’u gelwid weithiau, a’r Bedyddwyr.

Bedyddfa, Penparc

Enghraifft dda o fedyddfa allanol wedi’i lleoli yn y fynwent i flaen Capel y Bedyddwyr Penparc, Penparc, Ceredigion. ©Hawlfraint y Goron: CBHC

Bedyddfa

Enghraifft fwy cyffredin o fedyddfa mewnol wedi’i lleoli dan Sedd Fawr Capel y Bedyddwyr Bethania, Maesteg. Bydd gorchudd dros fedyddfannau o’r fath pan na fyddant mewn defnydd.

Sefydlwyd y gynulleidfa gyntaf o Fedyddwyr Cymreig yn Llanilltud Gŵyr ger Abertawe yn 1649. Y prif ysgogydd oedd John Miles, brodor o Swydd Henffordd a ymgartrefodd yng Ngŵyr wedi’r Rhyfel Cartref. Dan ei efengyliaeth weithredol ef tyfodd y gynulleidfa i 261 o aelodau, a buan y tyfodd cynulleidfaoedd eraill wedyn yn y Gelli Gandryll, Llantrisant, Caerfyrddin a’r Fenni. Ymfudodd Miles yn ddiweddarach i Ogledd America gan sefydlu Eglwys y Bedyddwyr yn Swansea, Massachusetts. Calfinaidd eu hathrawiaeth oedd y cynulleidfaoedd cynnar hyn i gyd. Wrth i’r enwad esblygu tyfodd rhaniad hirsefydlog rhwng y Bedyddwyr Neilltuol mwy niferus, a gredai yn athrawiaeth Galfinaidd rhagordeiniad, sef y bu Crist farw dros yr etholedig ddethol rai yn unig, a’r Bedyddwyr Cyffredinol, a gredai’r athrawiaeth Arminaidd y cynigir buddiannau aberth Crist i bawb.

Mae’r Bedyddwyr yn wahanol i’r prif grwpiau Protestannaidd eraill gan eu bod wedi ymrwymo i’r arfer o fedyddio oedolion o gredinwyr drwy eu trochi’n llwyr, gan wrthod yr arfer o fedyddio babanod. Ar gyfer trochi llwyr bu raid cael dŵr, a hynny’n gyntaf ar ffurf afonydd lleol neu’r môr, ac yn ddiweddarach drwy ddarparu pyllau bedyddio naill ai yn yr awyr agored neu o fewn adeiladau capeli. Coleddai’r Annibynwyr a’r Bedyddwyr fel ei gilydd y syniad fod pob cynulleidfa o gredinwyr a oedd wedi casglu ynghyd yn ffurfio eglwys ymreolaethol a allai benodi ei weinidog a’i swyddogion ei hun a bod yn hunanlywodraethol yn ei holl faterion goruchwyliaeth ysbrydol a threfniadaeth weinyddol ac ariannol. I raddau helaeth byddai cynulleidfaoedd yn trefnu eu cyfundrefn eu hunain gan gymryd unrhyw gymorth a allent oddi wrth arferion mewn mannau eraill. Serch hynny, er gwaethaf y pwyslais ar ymreolaeth y gynulleidfa leol, o’r dechrau byddai eglwysi’r Bedyddwyr yn cyd-gyfarfod mewn Cymdeithasfa wirfoddol er mwyn rhannu cyngor a chefnogaeth. Roedd hyn bob amser yn agor y posibilrwydd o densiwn gan y gallai unrhyw awgrym o ymyrraeth gan y Gymdeithasfa ym materion y gynulleidfa leol gael ei weld fel rhywbeth oedd yn sawru o arddull mwy canolog, presbyteraidd o lywodraethu eglwysig.

Christmas Evans

Christmas Evans (1766-1838), gweinidog gyda’r Bedyddwyr ac un o bregethwyr enwocaf Cymru © Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Gydag adferiad y frenhiniaeth ym 1660 dechreuodd cyfnod cythryblus i gynulleidfaoedd yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr fel ei gilydd. Bwriad Deddf Unffurfiaeth 1662 a Deddfau Cêl-gyfarfodydd 1664 a 1670 oedd gorfodi ufudd-dod i Eglwys sefydledig Lloegr. Gyda Deddf Corfforaethau 1661 a Deddf Brawf 1673 lleihawyd hawliau dinasyddol anghydffurfwyr. Amrywiai lefel yr erlid dan y Deddfau hyn ar wahanol adegau ac mewn gwahanol rannau o Gymru, ond does dim amheuaeth nad achoswyd dioddefaint sylweddol i lawer o aelodau ymroddedig cynulleidfaoedd anghydffurfiol. Er nad oedd yn dileu’r rhwystrau dinasyddol ar anghydffurfwyr, adferodd Deddf Goddefiad 1689, rywfaint o ryddid addoliad, er mai o fewn paramedrau a reolid yn gaeth y gwnaeth hynny. Un ddarpariaeth bwysig iawn dan y Ddeddf oedd y caniateid am y tro cyntaf i anghydffurfwyr adeiladu eu haddoldai eu hunain. Cyn hynny roeddent wedi cwrdd yn bennaf mewn tai preifat ond o 1690 ymlaen dechreuodd yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr godi capeli. Ym 1695, adeiladodd cynulleidfa’r Fenni y capel Bedyddwyr cyntaf yng Nghymru yn Llanwenarth, ger Gofilon. Dim ond rhyw 500 oedd cyfanswm nifer y Bedyddwyr ar ddiwedd yr 17eg ganrif.
Canlyniad arall i’r Ddeddf Goddefiad oedd ailsefydlu Cymdeithasfa i eglwysi Bedyddwyr yn Lloegr a Chymru. Ym 1700 crëwyd Cymdeithasfa ar wahân ar gyfer yr eglwysi yng Nghymru. Roedd y naw eglwys yn y Gymdeithasfa wedi’u lleoli yn Siroedd Mynwy, Morgannwg a Chaerfyrddin, er bod eu haelodaeth yn ymestyn i Faesyfed, Penfro a Cheredigion. Bach iawn oedd y presenoldeb yn y Gogledd.

Gyda thwf cynulleidfaoedd yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr braenarwyd y tir iddynt godi’n rymoedd pwysig ym mhrif ffrwd Anghydffurfiaeth yn ddiweddarach. Yn anochel, cafodd sêl a chyffro ysbrydol y diwygiad Methodistaidd yng nghanol y 18fed ganrif ddylanwad ar y ddau brif grŵp Anghydffurfiol. Un ffigwr arbennig o nodedig oedd Christmas Evans, pregethwr grymus ac ysbrydoledig a enillodd y llysenw “Bunyan Cymru” oherwydd ei ddychymyg gwreiddiol. Wedi’i eni ger Llandysul, Ceredigion, aeth yn weinidog gyda’r Bedyddwyr ac ym 1789 ymgartrefodd ym mhen Llŷn. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, symudodd i Langefni ym Môn, gan sefydlu cymuned gref o Fedyddwyr yng Nghapel Tŷ Cildwrn , a chodi arian i godi capeli newydd drwy deithiau pregethu o gwmpas y De.

Yn ôl i’r brig^

Y 19eg Ganrif

Roedd y mudiad yn dal ar ei wannaf yn y Gogledd, serch hynny, heb ddim ond wyth o gapeli wedi’u cofnodi cyn 1800. Achoswyd niwed hefyd yn 1795 pan ddatgysylltodd grŵp dan arweinyddiaeth J. R. Jones o Feirionnydd, gan ffurfio sylfaen y cynulleidfaoedd o Fedyddwyr Albanaidd a ffurfiwyd yn ddiweddarach mewn sawl rhan o’r Gogledd. Roedd y rhain yn Galfinaidd o ran athrawiaeth ond yn gynulleidfaol o ran trefniadaeth. Tua chanol y 19eg ganrif ymunodd tua’u hanner â’r “Cambeliaid”, neu Eglwysi Crist â rhoi eu henw priodol iddynt, a sefydlwyd gan Alexander Campbell. Magwyd a bedyddiwyd David Lloyd George yn un o eglwysi’r Bedyddwyr Albanaidd/Cambeliaid.

Trwy gydol y 19eg ganrif dominyddwyd Ymneilltuaeth yng Nghymru gan hen fudiadau Anghydffurfiol yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr a mudiadau diweddarach y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd. Byddai diffiniadau aelodaeth yn amrywio’n fawr rhwng yr enwadau, gan beri ei bod yn anodd cymharu rhwng yr enwadau. Hyd yn oed o fewn un enwad nid yw’r cofnodion yn debygol o fod yn gyson ddibynadwy gan bob cynulleidfa ym mhob cyfnod. Serch hynny, mae’n amlwg i bob un o’r pedwar prif enwad weld cynnydd enfawr yn eu haelodaeth drwy gydol y ganrif.

Cofnododd Cyfrifiad Crefyddol 1851 fod gan yr amryfal grwpiau Bedyddwyr – Cyffredinol, Neilltuol, Cyfundeb Newydd ac Albanaidd – gyfanswm o 533 o addoldai. Er bod cwestiynau lu am ddibynadwyedd ystadegau cyfrifiad 1851, mae’r niferoedd a gofnodwyd yn bresennol yn y gwasanaeth mwyaf poblogaidd – sef y gwasanaeth nos Sul fel arfer – yn cadarnhau bod cyfanswm o 83,324 yn mynychu oedfaon y Bedyddwyr. Dangosodd y Cyfrifiad hefyd fod y Bedyddwyr, fel yr Annibynwyr, ar eu cryfaf yn y De.

Cyn y 1830au roedd y prif enwadau, yn enwedig y Methodistiaid, wedi bod yn geidwadol yn eu hagweddau gwleidyddol. Ond daeth yr Anghydffurfwyr fwyfwy i siarad ag un llais ar faterion megis collfarnu’r adroddiad ar addysg Cymru ym 1847, esgyniad Mudiad Rhydychen o fewn Eglwys Loegr, y rhwystrau dinasyddol a osodwyd arnynt, a’r alwad am ddiwygio’r drefn etholiadol. Galluogodd yr undod hwn i Anghydffurfwyr Cymru symud i safle o gryn ddylanwad gwleidyddol, a arferwyd ganddynt

Dosbarthiad Capeli’r Bedyddwyr yng Nghymru cyn 1914

Dosbarthiad Capeli’r Bedyddwyr yng Nghymru cyn 1914

drwy gefnogaeth gref i’r Blaid Ryddfrydol, yr edrychent ati i’w rhyddhau o’u cwynion, ac y rhannent â hi gred ganolog ym mhwysigrwydd dewis yr unigolyn.

Ym 1866 ffurfiwyd Undeb Bedyddwyr Cymru (Undeb Bedyddwyr Cymru) i wasanaethu anghenion y Bedyddwyr yng Nghymru, ac ym 1891 daeth y Bedyddwyr Cyffredinol a’r Bedyddwyr Neilltuol ynghyd i ffurfio Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr. Mae’r rhan fwyaf o gynulleidfaoedd yng Nghymru’n aelodau o Undeb Bedyddwyr Cymru.

Er gwaethaf llwyddiannau’r 19eg ganrif a’r gobeithion a godwyd gan ddiwygiad 1904, byddai’r 20ed ganrif yn dyst i ddirywiad trychinebus mewn Anghydffurfiaeth Gymreig. Cyrhaeddodd aelodaeth pob un o’r prif enwadau ei huchafbwynt yn gynnar yn y ganrif. Gan ystyried cynulleidfaoedd Cymraeg a Saesneg ill dwy, mae’n ymddangos i’r Bedyddwyr gyrraedd eu ffigwr uchaf mor gynnar â 1906 gyda 143,584 o aelodau.

Dangosodd cyfrifiad y Feibl Gymdeithas o eglwysi Cymru ym 1982 fod gan y Bedyddwyr 50,200 o aelodau bryd hynny. Dangosodd Yr Her i Newid, adroddiad Arolwg Eglwysi Cymru a gynhaliwyd gan y Feibl Gymdeithas ym 1995, fod 699 o gapeli Bedyddwyr (o gymharu ag 833 ym 1982). Amcangyfrifodd Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i’n Cymunedau, yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Gweini yn 2008, fod 557 o gynulleidfaoedd Bedyddwyr.

Lionel Madden a Neil Sumner

Yn ôl i’r brig^

Mapiau dosbarthiad y Bedyddwyr

Yn ôl i’r brig^