Ymneilltuaeth ac Anghydffurfiaeth

Beth yw Ymneilltuaeth ac Anghydffurfiaeth?

Mae’r Anghydffurfwyr yn aelodau o grwpiau crefyddol Protestannaidd y gwrthododd eu rhagflaenwyr gydymffurfio ag athrawiaeth, disgyblaeth ac arferion yr Eglwys Anglicanaidd sefydledig. Gellir olrhain eu hanes i weithgareddau’r Piwritaniaid, a oedd wedi digio am y cyfaddawdau a gorfforwyd yn Ardrefniant Eglwysig Elizabeth yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ac i ddigwyddiadau a thensiynau gwyllt hanner cyntaf yr ail ganrif ar bymtheg pryd y sefydlwyd yr eglwysi Annibynnol/Cynulleidfaol a Bedyddwyr cyntaf: ymysg y rheiny yng Nghymru roedd eglwys yr Annibynwyr yn Llanfaches, Sir Fynwy yn 1639 ac eglwys y Bedyddwyr yn Llanilltud Gŵyr yn 1649. Mae’r Annibynwyr/Cynulleidfawyr yn pwysleisio annibyniaeth ac ymreolaeth pob cynulliad o gredinwyr, ac mae’r Bedyddwyr yn credu mewn bedyddio, nid babanod, ond credinwyr, trwy eu trochi’n llwyr. Ymysg y grwpiau eraill a ddaeth i’r amlwg yn yr 17eg ganrif hefyd roedd yr Undodiaid, sy’n gwrthod athrawiaeth y Drindod, a’r Crynwyr: Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion, sydd ddim yn cadw sacramentau bedydd a’r cymun sanctaidd. Cafodd y grwpiau hyn i gyd, a adwaenid hefyd fel Ymneilltuwyr, eu herlid yn y blynyddoedd wedi adferiad y frenhiniaeth yn 1660, ac yn enwedig gan Ddeddf Unffurfiaeth 1662.

Chwyddwyd rhengoedd Anghydffurfwyr Cymru ymhellach yn y ddeunawfed ganrif yn dilyn y diwygiad efengylaidd, a ddechreuodd fel mudiad diwygio o fewn yr Eglwys Anglicanaidd. Roedd y Methodistiaid Calfinaidd yn ddilynwyr y diwinydd o’r 16eg ganrif, John Calvin, a’i bwyslais ar sofraniaeth lwyr Duw gyda’r etholedig rai a oedd wedi’u dewis ers bore oes, ac ymwahanasant oddi wrth Eglwys Loegr yn 1811. Mae eu disgynyddion heddiw’n aelodau o Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ac mae disgynyddion dilynwyr John Wesley, a ffurfiai ran o gyfundeb y Methodistiaid Wesleaidd, yn aelodau o’r Eglwys Fethodistaidd.

Huw Owen