Libanus, Waunclynda
Mae Libanus yn enghraifft ragorol o ffasâd talcennog cynnar mewn lleoliad gwledig, ac mae’n dal i gadw ei seddau a’i galeri gwreiddiol, a’r galeri wedi’i addurno’n ddiweddarach â gwaith stensil Fictorianaidd.
Dechreuodd achos y Bedyddwyr yn 1788 pan fedyddiwyd aelodau o Gapel Soar, Llandyfaen (ger Llandybie) yn Waunclynda. Methu wnaeth symudiad i godi capel i’r grŵp newydd pan ddarganfuwyd anawsterau gyda’r safle a fwriedid, ac ymrannodd y grŵp yn dri grŵp llai. Adeiladwyd y capel cyntaf oddeutu 1790, yn adeilad to gwellt, yn ôl pob tebyg, i wasanaethu Bedyddwyr a Methodistiaid yn yr ardal.
Adeiladwyd y capel presennol yn 1841 yn ei leoliad unig gan aelodau’r capel eu hunain, ar dir a roddwyd iddynt gan un o’r blaenoriaid, David Price o Flaenwaun. Mae gan yr ochr ddeheuol, agosaf at y ffordd, festri ac ysgoldy to pwyso o ddiwedd y 19eg ganrif. Mae tu mewn y capel hwn yn arbennig o nodedig, gyda galeri tair ochr wedi’i godi ar bedair colofn addurnedig. Mae’r addurno stensil a welir ar y colofnau i’w weld hefyd ar y cornis a’r paneli, ac mae tri bloc o seddau blwch panelog wedi’u peintio, a seddau teuluol mwy yn y canol tua’r blaen. Mae’r pulpud a’r sêt fawr o ddiwedd y 19eg ganrif wedi’u gwneud o binwydd pyg.
Erbyn 1936 roedd yr aelodaeth wedi gostwng i 17 a chaeodd y capel yn 1998. Fe’i prynwyd gan Addoldai Cymru yn 2003 – ei bryniant cyntaf.
Darllenwch fwy am hanes Libanus Darllenwch fwy am Libanus Darlenwch fwy am y gwaith hyd yma