Mwy am yr Hen Dŷ Cwrdd

20-b-101 copy

Drwy garedigrwydd Archif Lluniau Digidol Rhondda Cynon Tâf

Adeiladwyd y capel cyntaf mewn cae oedd yn eiddo i hen fferm y Gadlys Uchaf; rhoddwyd y brydles ar 5 Mawrth 1751 gan Theophilus Richards a’i adolygu gan ei fab Richard Richards ar 12 Rhagfyr 1796. Adeilad bach a syml ydoedd, gyda phorth mynediad a grisiau cerrig y tu allan a tho teils. Roedd lle ynddo i 50-100 o bobl, ac yn 1782 roedd 43 o aelodau, nifer a dyfodd i 60 erbyn 1853.

AiladeiladwyDS2014_291_013d y capel yn 1862 ar gost o £753-15s-4c gan ddilyn cynllun y pensaer Evan Griffiths o Aberdâr, wedi’i ddylunio i fod ‘yn syml a chryf, gan adlewyrchu’r credoau Undodaidd mewn rhyddid, goddefgarwch a maddeugarwch’. Mae’n gapel canolig o ran maint, yn eistedd 250-300.

Mae’r blaen cymesur, sydd wedi’i rendro â sment, wedi’i adeiladu yn yr arddull Eidalaidd gyda chynllun mynedfa dalcen. Mae hanner isaf y ffasâd yn sianelog, gyda drws bwaog yn y canol a grisiau carreg yn arwain i fyny at ddrysau panel dwbl. Uwchben y drws mae’r plac carreg arysgrifenedig, ac o boptu iddo mae ffenestri dalennog pen sgwâr. Ar lefel y galeri mae pâr o ffenestri pen crwn a’r llin-gwrs wedi’i fowldio’n ffurfio bwâu drostynt, ac ar y naill ochr a’r llall i’r rhain mae dwy ffenestr ddalennog arall, y rhai agosach at y canol yn gulach na’r rhai allanol. Yn y pediment mae ffenestr atig gron. Mae’r tu mewn yn sgwâr gyda phulpud ar y wal gefn, yr eir iddo o’r naill ochr neu’r llall ar risiau o’r Sedd Fawr ac mae cilfach fwaog y tu ôl iddo. Rhed galeri o gwmpas tair ochr, wedi’i chynnal gan golofnau haearn bwrw a gyda blaen galeri anarferol o ddwfn. Ar y nenfwd mae cornis syml, rhosyn canolog a phaneli awyru wythochrog.

 

Animeiddio