Hanes Hen Dŷ Cwrdd

BlaencanaidFarm_Image-02

Fferm Blaencanaid Drwy garedigrwydd Alan George, Old Merthyr Tydfil

Enw gwreiddiol yr Hen Dŷ Cwrdd oedd Tŷ Cwrdd Godre Hirwaun. Dyma’r capel anghydffurfiol cynharaf yng Nghwm Cynon a Mam Eglwys Undodiaeth yng Nghwm Cynon. Mae’n tarddu o’r hen Dai Cwrdd Anghydffurfiol yng Nghwm-y-glo a Fferm Blaencanaid ar lethrau’r mynydd rhwng Aberdâr a Merthyr Tudful. Wrth i raniadau ymddangos ymysg ymneilltuwyr, sefydlwyd Hen Dŷ Cwrdd Cefn Coed yn 1747 a Hen Dŷ Cwrdd Trecynon yn 1751. Diswyddwyd ei weinidog cyntaf, Thomas Lewis, yn 1756 am ei syniadau Calfinaidd a chymerwyd ei le gan Arminiad, Owen Rees. Yn ystod ei weinidogaeth ef, o 1756 nes iddo farw yn 1768, trodd Rees oddi wrth Arminiaeth i Ariaeth. Ysgrifennodd Edward Evan, a weinidogaethodd yn yr Hen Dŷ Cwrdd o 1772 i 1796, y ddau bennill acrostig er anrhydedd i Owen Rees sy’n ymddangos ar ei garreg fedd ym mynwent y capel.

Iolo Morganwg; Drwy garedigrwydd Archif Lluniau Digidol Rhondda Cynon Tâf

Iolo Morganwg; Drwy garedigrwydd Archif Lluniau Digidol Rhondda Cynon Tâf

Ysgogydd y newid o Ariaeth i Undodiaeth yng Nghymru oedd Thomas Evans, a oedd yn fwy adnabyddus i’r Cymry fel Tomos Glyn Cothi (1764-1833). Gwehydd o ddyffryn Teifi oedd Tomos a oedd wedi dod i gysylltiad â beirdd Jacobinaidd Morgannwg, yn cynnwys Iolo Morganwg, wrth deithio i farchnata’i frethyn. Yn 1796, sefydlodd y capel Undodaidd ei gyffes cyntaf yng Nghymru ger Brechfa, lle arweiniodd ei sêl dros Gristnogaeth resymol iddo gael ei alw’n “Priestley bach”. Tramgwyddodd yn erbyn yr awdurdodau wrth ganu caneuon Jacobinaidd yn gyhoeddus, gan gynnwys ei fersiwn Cymraeg ei hun o’r Marseillaise. Am y pechodau hyn cafodd ei roi yn y rhigod, cyn treulio cyfnod cynhyrchiol yng Ngharchar Caerfyrddin o 1803 tan 1811 lle ysgrifennodd nifer o bamffledi ac emynau radicalaidd. Ar ôl cael ei ryddhau, derbyniodd Tomos wahoddiad gan y gynulleidfa yn Nhrecynon i gymryd gofal yr Hen Dŷ Cwrdd fel Undodwr. Pan fu farw yn 1833, wedi gweinidogaethu yn Nhrecynon am fwy nag ugain mlynedd, cafodd ei gladdu dan y coed pinwydd ym mhen gogleddol y capel.

Drwy garedigrwydd Archif Lluniau Digidol Rhondda Cynon Tâf

Drwy garedigrwydd Archif Lluniau Digidol Rhondda Cynon Tâf

Yn ôl traed Thomas Evans daeth cyfres o weinidogion Undodaidd a oedd bob un ohonynt yn weithgar yng ngwleidyddiaeth radicalaidd y dydd ac yn ddylanwadol ymhell y tu hwnt i’w cryfder mewn nifer. Un sy’n nodweddiadol o’r rhain yw John Jones (1802-1863). Bu’n gweinidogaethu yn yr Hen Dŷ Cwrdd am ddeng mlynedd ar hugain olaf ei fywyd. Yn agored ei gydymdeimlad â’r Siartwyr ym mlynyddoedd cynnar ei weinidogaeth, cyfrannodd nifer o erthyglau i bapur newydd y Siartwyr yng Nghymru, Udgorn Cymru. Cafodd y syniad hefyd o gael cylchgrawn enwadol Undodaidd yn y Gymraeg ac roedd yn un o sefydlwyr yr Ymofynydd, yr ymddangosodd ei rifyn cyntaf yn 1847. Ailadeiladwyd yr Hen Dŷ Cwrdd gan Evan Griffiths, yr ieuaf, ym mlwyddyn olaf gweinidogaeth John Jones.

Seren Gomer1837 copy

Seren Gomer 1837

Cynhaliwyd eisteddfod leol yn y Mount Pleasant Inn ar 9 Hydref 1837, beirniad y traethodau oedd y Parchg. J. Jones, Hen Dŷ Cwrdd. Fe’i hysbysebwyd yn Seren Gomer yn y flwyddyn honno.

Gwahoddwyd E.R. Dennis (1882-1949) i’r Hen Dŷ Cwrdd yn 1916 a bu’n weinidog yno am dros ddeng mlynedd ar hugain. Yn un brwd dros y celfyddydau creadigol, anogodd gerddoriaeth a drama lleol ac roedd yn un o sylfaenwyr Theatr Fach Aberdâr. Ei olynydd yn 1945 oedd D. Jacob Davies (1916-1974), a arhosodd yn Nhrecynon hyd 1957. Yn fardd a heddychwr, gwnaeth Jacob Davies gyfraniad nodedig i fywyd cyhoeddus Cymru fel newyddiadurwr a darlledwr. Golygodd yr Ymofynnydd am dros ugain mlynedd ac ef yw awdur hanes daucanmlwyddiant yr Hen Dŷ Cwrdd. Unodd cynulleidfa’r Hen Dŷ Cwrdd â chynulleidfa Highland Place Aberdâr yn 1988. Trosglwyddwyd y capel i’r Ymddiriedolaeth yn 2005, dan ei statws fel elusen ragnodedig dan Ddeddf Eglwysi ac Addoldai Eraill Gwag 1969 (fel y’i diwygiwyd yn Atodlen 5 Deddf Elusennau 1992).

Animeiddio