Hen Dŷ Cwrdd, Trecynon
Yr Hen Dŷ Cwrdd yw’r achos anghydffurfiol cynharaf yng Nghwm Cynon ac mae’n cynrychioli dilyniant meddwl a gweithredu radicalaidd ers yr 17eg ganrif. Adeiladwyd y capel cyntaf yn 1751, yn dŷ cwrdd tebyg i fwthyn. Roedd lle i 50–100 o bobl eistedd yn yr adeilad gwreiddiol, ac erbyn 1853 roedd ganddo 60 o aelodau.
Gwelodd yr Hen Dŷ Cwrdd gyfres o weinidogion radicalaidd. Un o arddelwyr cynnar Undodiaeth yng Nghymru oedd Thomas Evans (Tomos Glyn Cothi). Gwehydd o ddyffryn Teifi oedd hwn, a sefydlodd gapel cyntaf y ffydd yn 1796, ac a heriai’r awdurdodau’n bryfoclyd drwy ganu caneuon Jacobinaidd yn gyhoeddus, gan gynnwys fersiwn Cymraeg o’r Marseillaise. Maes o law fe’i carcharwyd yng Nghaerfyrddin tan 1811, lle bu’n ysgrifennu llyfrynnau radicalaidd i’w dosbarthu. Pan gafodd ei ryddhau, wahoddiad i gymryd yr awenau yn yr Hen Dŷ Cwrdd. Wedi ei farwolaeth yn 1833, parhaodd y capel yn weithredol a dilynodd gweinidogion radicalaidd eraill yn ôl ei droed. Gweinidogaethodd John Jones am 30 mlynedd olaf ei fywyd, cyn marw yn 1863, ar ôl cyfnod o gyfrannu erthyglau i gyhoeddiad y Siartwyr, Udgorn Cymru. Ef hefyd oedd un o sylfaenwyr Yr Ymofynydd yn 1847, cylchgrawn enwadol Undodaidd Cymraeg. Un o weinidogion olaf y capel oedd Jacob Davies. Roedd yn fardd a heddychwr, ac yn ystod ei oes cyfrannodd yn rheolaidd i’r diwylliant Cymraeg fel gohebydd a darlledwr.
Adeiladwyd y capel presennol yn 1862 gan ddilyn cynllun y pensaer Evan Griffiths o Aberdâr. Mae’n gapel canolig o ran maint, yn eistedd 250-300, gyda ffasâd anghyffredin o ddiaddurn a ddyluniwyd i fod ‘yn syml a chryf, gan adlewyrchu’r credoau Undodaidd mewn rhyddid, goddefgarwch a maddeugarwch’. Wedi iddo gau fe’i prynwyd gan Addoldai Cymru yn 2005.
Darllenwch fwy am hanes Hen Dŷ Cwrdd Darllenwch fwy am Hen Dŷ Cwrdd Darllenwch fwy am y gwaith hyd ymaGwybodaeth Bellach

Darllen Pellach
Dr Jacob Dafis (gol), Crefydd a Gweriniaeth yn hanes Yr Hen-dy-Cwrdd, Aberdare 1751-1951, (Gwas Gomer, Llandysul, 1951).
David Leslie Davies, They Love to be Dissenters: The origins and history of Hen Dŷ Cwrdd Aberdare 1650-1862 (2012)
R Jenkins Jones, The Origin and History of the Old Meeting House, Hen-dy-Cwrdd, Aberdare Transactions of the Unitarian History Society, Vol 1 pt 2 (1918) p 155-176.
Alan Vernon Jones, Chapels of the Cynon Valley (Cymdeithas Hanes Cwm Cynon, 2004)