Mae cyfrannu i’n capeli yn un o’r ffyrdd gorau i’n cynorthwyo i amddiffyn ein capeli. Mae rhoddion cyson yn ein galluogi i flaengynllunio gan sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o’n hadnoddau prin. Os ydych yn talu treth incwm y DU, mae’n bosib y gallwn hawlio 25% yn ychwanegol ar ben eich rhodd gan Gyllid a Thollau EM, heb unrhyw gost i chi.
I gyfrannu at waith yr Ymddiriedolaeth neu i gefnogi capel unigol
Anfonwch siec, gosodwch archeb sefydlog, neu mae yna groeso i chi dalu’n uniongyrchol i’n cyfrif banc HSBC 40-16-02 31518097 (rhowch gyfeirnod fel y gallwn adnabod eich rhodd)
Neu
Cliciwch ar y linc PayPal isod

Capel Libanus

Yr Hen Gapel

Capel Peniel

Hen Dŷ Cwrdd

Capel Bethania

Capel Beili Du
Give as You Live!
Ffordd arall ddi-boen o “roi wrth fyw” (h.y. rhoi heb ddim cost i chi) yw ymuno â “Give as You Live”. Os ydych yn siopa ar-lein drwy wefan “Give As You Live” (neu drwy’r ategyn porwr) cewch fynediad i dros 3,000 o siopau ar-lein sy’n cymryd rhan yn y cynllun, llawer ohonynt yn gyfarwydd i chi’n barod… mae’r dewis yn enfawr. Dan y cynllun, pryd bynnag y prynwch rywbeth ar-lein bydd y manwerthwr yn rhoi rhodd – gallai fod hyd at 6% – i’ch elusen enwebedig, swm a fyddai fel arall yn cael ei dalu fel ffi i wefan neu gwmni marchnata. Mae hyn yn digwydd yn awtomatig heb ddim cost i chi, a gellir ychwanegu Cymorth Rhodd yn awtomatig hefyd! Anhygoel! Gallwch ymuno yn
www.giveasyoulive.com
Cymorth Rhodd at eich Rhodd
Os ydych yn talu treth incwm yn y Deyrnas Unedig gallwn hawlio 25% ychwanegol o werth eich rhodd oddi wrth Gyllid a Thollau EM, heb ddim cost i chi.
Gwefan rhoi i elusen
Gallwch ddod o hyd i ni hefyd yn everyclick.
Cymynrodd
Ystyriwch dreftadaeth grefyddol adeiledig cymru pan wnewch eich ewyllys
Dim ond canran fach iawn o gefnogwyr elusennau sy’n gadael rhodd yn eu hewyllys. Os ydych yn bwriadu ysgrifennu neu adolygu eich ewyllys cyn hir, ar ôl gofalu am eich teulu a’ch ffrindiau a fyddech chi mor garedig ag ystyried gadael cymynrodd i ni i’n helpu i ofalu am ein casgliad o addoldai hanesyddol Cymru? Gallwch drafod hyn gyda’ch cyfreithiwr neu’n gyfrinachol gyda Rheolwr yr Ymddiriedolaeth.
Recent Comments