Cofiwch ddarllen eich newyddlenni diweddaraf – ar gael wrth glicio yn y fan hyn Addoldai Cymru Newyddlen Hydref 2018 Addoldai Cymru Newyddlen Gwanwyn 2018
Os nad ydych eisoes wedi gwneud, byddem yn ddiolchgar iawn petaech yn ymuno â Chyfeillion Addoldai Cymru. Bydd eich tanysgrifiad yn rhoi cyfraniad bach ond defnyddiol iawn a ddefnyddir i gefnogi gwaith yr Ymddiriedolaeth. Bydd eich aelodaeth yn ein helpu hefyd i ddangos bod gan yr Ymddiriedolaeth gefnogwyr ledled Cymru a thu hwnt. Mae aelodaeth […]
A oes gennych unrhyw atgofion neu wybodaeth am Gapel Beili Du? Galwch i mewn i rannu’ch atgofion a darganfod mwy am brosiect Beili Du. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Christine Moore: [email protected] neu ffoniwch 07528491819 Tafarn Y Crydd | The Shoemakers Arms, Pentrebach LD3 8UB Medi 22ain| 22nd September 11.00am – 4.00pm
Rhagfyr 22ain 2018 am 7.00pm Tocynnau £5 yr un, plant am ddim Gyda Chôr Meibion Maesteg a’r Cylch Côr Merched Cwm Llynfi Ysgol Gyfun Maesteg Tocynnau | Tickets Tocyn | Ticket £5.00 GBP Enw | Name Cyfeiriad | Address
Dathlwyd hanes a thraddodiad y Bedyddwyr yn ardal Penybont-ar-Ogwr, trwy gynnal arddangosfa lwyddiannus iawn ym Methania, Maesteg ar Fedi’r cyntaf. Yn ogystal ag arddangosfa ar ‘Lestri Capel’, a oedd yn cynnwys enghreifftiau o lestri capel o Gymru benbaladr, rhai yn perthyn i’r arlunydd Cefyn Burgess ac eraill yn perthyn i Gymdeithas Treftadaeth Cwm Garw a’r […]
Cawsom cyngerdd llwyddiannus iawn yng Nghricieth nos Sadwrn diwethaf (Mai 5ed 2018), gyda’r cyfle i fwynhau gwledd o gerddoriaeth gan gôr, offerynwyr ac unawdwyr. Nod y cyngerdd oedd codi arian ar gyfer Apêl Pediment Capel Peniel, Tremadog – gyda nifer o artistiaid y noson â chysylltiad agos â’r capel a phentref Tremadog ei hun. Diolch […]
Lansiwyd ymgyrch i godi’r £15,000 sydd ei angen i achub un o gapeli pwysicaf a mwyaf hanesyddol Cymru: Capel Peniel Tremadog. Lansiwyd apêl i amddiffyn un o gapeli mwyaf eiconig Cymru o ran ei bensaernïaeth; Peniel, Tremadog, capel a restrwyd yn adeilad Gradd I yng Ngwynedd. Lansiwyd ymgyrch rhowch ‘£1 i achub Pediment mewn Perygl” […]
4ydd safle: Yr Hen Gapel, Yr Hen Gapel Llongarfarchiadau i’r Undodwyr ac eraill a bleidliesiodd dros Yr Hen Gapel Llwynrhydowen yng nghystadleuaeth Cymru Sanctaidd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Yr Eglwysi A ennilwyd gan Gapel Tabernacl, Treforys. Daeth Tabernacl i’r brig yn erbyn 49 o eglwysi a chapeli eraill. Mae’r Tabernacl wedi ei restru’n adeilad Gradd […]
Hen Dŷ Cwrdd, Trecynon Dysgwch mwy am ein cynlluniau yma… Os hoffech ein cynorthwyo, anfonwch lythyr o gefnogaeth (gwelwch linc isod ar gyfer llythyr awgrymiedig) a chwblhewch ein holiadur – diolch i chi am eich cefnogaeth: I BWY BYNNAG A FYNNO WYBOD
Bydd Hen Dŷ Cwrdd, Trecynon yn agor ei ddrysau ar ddydd Iau 21 Medi 2017 o 10.00 a.m. tan 5.00 p.m. Bydd hwn yn gyfle i edrych o gwmpas a chael gweld y Capel Undodaidd diddorol hwn. Bydd hefyd yn gyfle i ddysgu am hanes y capel ac i gael gwybod am ddatblygiadau posibl. Croeso […]
Recent Comments