Capel Bethania Glyn Nedd
Mae gan Gwm Nedd hanes Methodistaidd hir a disglair, gyda Howell Harris, George Whitfield a Daniel Rowland oll wedi pregethu yno yn eu tro. Mae capel Bethania ei hun yn arwyddocaol oherwydd ei gysylltiad â hanes Diwygiadau crefyddol Cymru, gyda’r capel gwreiddiol yn cael ei godi yn 1858 yn ystod cyfnod o Ddiwygiad ledled y wlad, a’r ail yn cael ei godi yn 1905, yn dilyn Diwygiad enwog 1904 – a arweiniodd at y fath gynnydd yn nifer yr addolwyr, y bu’n rhaid codi’r adeilad newydd. Yn ôl y Cambrian News, cafodd 290 o aelodau newydd eu hychwanegu at gapeli’r Cwm o ganlyniad i’r Diwygiad arbennig hwn. Mae capel Bethania ei hun yn cael ei restru fel adeilad Gradd II, yn gapel Diwygiad 1904, yn adeilad sylweddol, gyda chywreinrwydd nodedig ar ei wedd allanol, a gwaith pren cain iawn oddi fewn.
Yn ogystal â’i chysylltiad â Diwygiadau, yn ystod blynyddoedd cynnar yr Ugeinfed Ganrif, bu yna draddodiad cerddorol cryf iawn yn perthyn i’r capel. Roedd David Ewart Parry-Williams yn canu’r soddgrwth yng ngherddorfa’r capel, a dysgodd yn ogystal i ganu’r organ yno, yn ddisgybl i’w ewyrth, a oedd yn organydd y capel. Diolch i’w fagwraeth ym Methania, aeth Parry-Williams ymlaen i fod yn Athro Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.
Capel Bethania Glyn Nedd- Holiadur Cymunedol |
Capel Bethania Glyn Nedd- Holiadur Cymunedol