Hanes Bethania

Bethania pre 1906 and post 1906

Ym mlynyddoedd cynnar y 19eg ganrif gwelwyd cyfnod o ddiwydiannu mawr yng Nghymru. Llanwyd cymoedd y De â gweithfeydd haearn a phyllau glo, ac aeth y trefoli cynyddol hwn ymlaen ymhell i ganol y ganrif. Mae’r achos ym Methania, Mam Eglwys y Bedyddwyr yng nghwm Llynfi, yn dyddio o’r adeg y daeth y Parch. Thomas Hopkin i Faesteg o Hirwaun yn 1828 i wasanaethu cymuned fechan ond cynyddol o Fedyddwyr a oedd yn gysylltiedig â’r gwaith haearn newydd. Roedd yn hanu’n wreiddiol o’r Gelli Gandryll; mae achos y Bedyddwyr ym Maesteg felly’n olrhain ei achau i eglwys fwy pellgyrhaeddol Bedyddwyr dyffryn Olchon ar y ffin rhwng Swydd Henffordd a Mynwy, yn hytrach nag eglwys John Miles yn Llanilltud Gŵyr. Yn weinidog ym Methania am 17 o flynyddoedd, goruchwyliodd y Parch. Hopkin yn 1832 waith adeiladu’r capel cyntaf ar y safle presennol gan Mr Hurley o Faesteg ar gost o £60. Capel talcen hir fyddai hwn yn wahanol i eglwysi Anglicanaidd yn ei symlrwydd diymffrost a’i bulpud canolog. Y Parch Hopkin oedd wrth y llyw hefyd pan ehangwyd y capel yn 1840-41, i ymateb i’r cynnydd yn y niferoedd a oedd yn mynychu. Mae wedi’i gladdu ym mynwent Llangynwyd lle mae wedi’i goffáu gan englyn gwych gan un o’i olynwyr, y Parch. Richard Hughes.

po 5.tifSefydlwyd y Parch. H. W. Hughes (Arwystl) yn weinidog ar y capel yn fuan wedi ei ehangu yn 1848. Bu raid iddo dreulio llawer o amser ac ynni dros y blynyddoedd dilynol ar deithiau pregethu er mwyn talu’r ddyled am y gwaith ailadeiladu, ac aeth o Faesteg i ofalu am gynulleidfa yn Lerpwl yn 1851. Yn y flwyddyn honno, cofnododd y Cyfrifiad Crefyddol fod 700 wedi bod yn bresennol yng ngwasanaeth yr hwyr ar nos Sul “lawn miri” ddiwedd mis Mawrth, ac roedd yr adeilad erbyn hyn yn ganolfan ddiwylliannol fyrlymus a gynhaliai ddigwyddiadau cymdeithasol a chymunedol, gwyliau ac eisteddfodau. Yn ddiddorol, yn un o’r eisteddfodau hyn yn y cyfnod hwn cafwyd darlith dan y pennawd ‘Ffeithiau daearegol a gwirioneddau’r Beibl: a ydynt yn gwrth-ddweud ei gilydd?’ .

Ei olynydd oedd y Parch. Richard Hughes (1820-1885) a gawsai ei fedyddio yn afon Llynfi yn ugain oed gan y Parch. Thomas Hopkin. Ym mis Tachwedd y digwyddodd y bedydd! Dan weinidogaeth y Parch. Richard Hughes gwelwyd ehangu mawr ar y capel gydag ailadeiladu’n dilyn ailadeiladu: un waith yn gysylltiedig â Diwygiad 1859, a thro arall yn 1878. Daeth dathliadau’r Sulgwyn a gwyliau pregethu’n nodweddion sefydlog yng nghalendr y capel yn y cyfnod hwn, ynghyd â pherfformiadau corawl a dramatig. Cyhoeddwyd cyfrol o bregethau’r gweinidog dan enw’r capel, ‘Pwlpud Bethania’. Mae’r Parch. R. Hughes wedi’i gladdu ym mynwent y capel.

Ior Ddu

Daeth y Parch. Edward Jones (Iorwerth Ddu) (1852-1931) i Faesteg o Droedyrhiw yn 1894. Ddeng mlynedd wedi iddo gyrraedd, traflyncwyd Cymru gan y Diwygiad a gysylltid â phregethau Evan Roberts. Yn yr un flwyddyn honno, 1904, bedyddiwyd 158 o aelodau newydd ym Methania; yn ugain mlynedd cyntaf gweinidogaeth y Parch. Edward Jones cafwyd 651 bedydd yn y capel. Yn yr awyrgylch diwygiadol hwn y comisiynwyd Syr William Beddoe Rees, pensaer yng Nghaerdydd a anwyd ym Maesteg, i ddylunio’r capel presennol.

Ym mis Medi 1925, ymgynullodd Undeb y Bedyddwyr yn y capel newydd dan Lywyddiaeth y gweinidog hir ei wasanaeth. Roedd hanes yr achos wedi’i gyhoeddi ar gyfer yr achlysur gan Samuel Davies, cadeirydd y pwyllgor hanes. Ysgrifennydd y pwyllgor oedd y Dr Tom Richards, hanesydd Piwritaniaeth Gymreig ac athro hanes yr ysgol uwchradd leol ar y pryd. Heidiodd Bedyddwyr o bob rhan o Gymru ar fws a thrên i gyfarfod yr Undeb ym Maesteg. O Gadair yr Undeb, craffai “Ior Ddu” yn wyliadwrus ar helyntion gwleidyddol a chymdeithasol y dydd.

Yr union gyffro a gyfrannodd at Ddiwygiad 1904 a fyddai, yn baradocsaidd, yn sicrhau’r dirywiad yn y niferoedd a fynychai’r capel, dirywiad a gynyddodd yn y blynyddoedd wedi’r Rhyfel Mawr a gymerodd fywydau cymaint o’i aelodau. Wrth i aelodaeth Bethania grebachu’n raddol, ac yn gynt yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, y canlyniad oedd cau’r capel yn 2004.
Unodd y gynulleidfa â chynulleidfa Capel Carmel gerllaw, a throsglwyddwyd Bethania i’r Ymddiriedolaeth yn 2006, dan ei statws fel elusen ragnodedig dan Ddeddf Eglwysi ac Addoldai Eraill Gwag 1969 (fel y’i diwygiwyd yn Atodlen 5 Deddf Elusennau 1992).

 

Gwybodaeth Bellach

Dolen sain Casgliad y Werin
Diwygiad 1904–1905 ym Maesteg
 
 

Oriel

 

Animeiddio