Beili Du, Pentre-bach
Mae Beili Du yn enghraifft ardderchog o gapel mur-hir mewn lleoliad gwledig, ac mae’r gwaith coed, a gwblhawyd mewn graeniad ffug sydd wedi ei beintio, yn nodweddiadol o’i gyfnod. Fe’i adeiladwyd gyntaf yn 1800 ar gyfer Methodistiaid Calfinaidd y rhan honno o sir Frycheiniog lle cafwyd ei wasanaethu yn dda gan fyfyrwyr-bregethwyr Coleg yr enwad yn Nhrefeca. Sefydlwyd yr achos yn 1790 a gosodwyd ar brydles yn 1800 ddarn o dir yn perthyn i fferm Beili Du. Roedd yr achos yn un Cymraeg ar y cychwyn ond ymhen amser enillodd Saesneg y dydd, yn dilyn trefn y newidiadau ieithyddol a ddigwyddodd mewn nifer o ardaloedd yn ne a chanolbarth Cymru. Ailadeiladwyd y capel presennol yn 1858, pan oedd ei arddull ‘ mur-hir’ gwyngalchog rwbel braidd yn hen-ffasiwn yn ei gyfnod. Ni amharwyd bron o gwbl ar y tu fewn gan ddulliau Fictoraidd, gan gynnwys y pulpud sydd megis twba.
Yn dilyn ei gau, fe’i derbyniwyd gan Addoldai Cymru yn 2009.
Darllenwch fwy am hanes Beili Du Mwy am Beili Du Darllenwch fwy am y gwaith hyd yma