Cwestiynau Cyffredin

Beth yw adeilad rhestredig?

Mae’n ofyniad cyfreithiol ar Lywodraeth Cymru, dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, i lunio rhestrau o adeiladau o werth pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Defnyddir y rhestrau i helpu awdurdodau cynllunio wneud eu penderfyniadau lle bo buddiannau’r dreftadaeth adeiledig wedi’u nodi’n glir. Er nad yw rhestru adeilad yn golygu na ellir ei newid yn y dyfodol, mae’n gosod ar awdurdodau cynllunio lleol y gofyniad i ‘ystyried yn arbennig pa mor ddymunol yw cadw’r adeilad neu ei leoliad neu unrhyw nodweddion o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig sy’n perthyn iddo’.

Mae 6,426 o gapeli yng Nghymru, 867 ohonynt yn rhestredig. Dyna oddeutu 2.9% o gyfanswm yr adeiladau rhestredig yng Nghymru. Maent yn amrywio’n fawr o ran math ac oedran, o gapeli gwledig syml i enghreifftiau trefol mawreddog.

Mae capeli rhestredig wedi’u rhestru’n dri chategori yn ôl eu pwysigrwydd cymharol. Rhoddir yr un lefel o warchodaeth i bob categori.

Gradd I “Adeiladau o ddiddordeb eithriadol”

Yng Nghymru, dim ond 5 capel rhestredig sydd yn y radd hon, gan cynnwys Capel Peniel Tremadog.

Gradd II* “Adeiladau o ddiddordeb mwy nag arbennig”

Yng Nghymru, mae 74 capel rhestredig yn y radd hon, e.e. Capel Bethania Maesteg

Gradd II “Adeiladau o ddiddordeb arbennig”

Yng Nghymru, mae 788 capel rhestredig yn y radd hon.

Pam rhestru adeiladau?

Rhestrir adeiladau am fod Llywodraeth Cymru o’r farn eu bod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, ac felly bod angen cydnabyddiaeth statudol i’w pwysigrwydd.

Yn y bôn, mae rhestru adeiladau unigol yn rhoi gwarchodaeth arbennig iddynt mewn cyfraith gynllunio, sef yn fwyaf diweddar Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, gyda chymorth canllawiau yng Nghylchlythyron y Swyddfa Gymreig 61/96 a 1/98.

Bydd hyn yn eu diogelu a’u cadw fel rhan o’n treftadaeth er budd y cenedlaethau a ddaw. Nid yw’n golygu na all adeiladau rhestredig newid wrth iddynt ymateb i anghenion a defnyddiau’r oes. Nid amcan rhestru yw rhewi adeilad yn ei unfan. Mae angen cadw rhai adeileddau rhestredig arbennig ‘fel y’u cafwyd’, ond yn sylfaen i’r ddeddfwriaeth gynllunio mae’r gred mai’r ffordd orau i warchod buddiannau hirdymor adeilad hanesyddol yw ei gadw mewn defnydd: er mai’r defnydd y’i cynlluniwyd ar ei gyfer yw’r defnydd gorau yn aml. Mae rhestru’n ymdrech i sicrhau os oes unrhyw newidiadau’n angenrheidiol eu bod yn parchu ac yn cadw’r nodweddion a’r priodoleddau hynny sy’n peri bod yr adeilad yn un arbennig.

Caiff pob adeilad a ystyrir i’w restru ei farnu yn ôl set o safonau cenedlaethol a amlinellir yng Nghylchlythyron 61/96 a 1/98. Gellir eu gweld yma: cadw.wales.gov.uk.

Beth mae rhestru’n ei olygu?

Mae rhestru’n golygu pan gaiff adeilad ei gynnwys ar Gofrestr Adeiladau Rhestredig, bod angen gwneud cais am ‘Ganiatâd Adeilad Rhestredig’ gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn gwneud unrhyw waith a fyddai’n effeithio ar gymeriad yr adeilad.

Gall hyd yn oed waith cymharol fach, fel peintio, effeithio ar gymeriad adeilad rhestredig ac felly’r peth doeth fyddai cysylltu â’r Awdurdod Cynllunio Lleol cyn dechrau ar waith o’r fath os oes unrhyw amheuaeth. Rhestrir y pwyntiau cyswllt yn yr adran ar ddiwedd y nodyn cyngor hwn.

Dan Adran 9 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, mae’n drosedd dymchwel adeilad rhestredig, na newid neu ehangu adeilad o’r fath mewn modd a fyddai’n effeithio ar ei gymeriad, heb ganiatâd, a gall y cosbau am hyn fod yn drwm.

Y gosb gyfredol am euogfarn mewn llys ynadon yw dirwy o hyd at £20,000 neu garchar am hyd at 6 mis (neu’r ddau), tra gall Llys y Goron roi dirwy anghyfyngedig neu ddedfryd carchar o hyd at ddwy flynedd (neu’r ddau) o gael troseddwr yn euog. Wrth benderfynu swm unrhyw ddirwy, rhaid i’r llys ynadon neu Lys y Goron ystyried unrhyw fantais ariannol a ddeilliodd neu a allai ddeillio o’r drosedd.

Ydy fy adeilad i’n rhestredig?

Bydd gan eich Awdurdod Cynllunio Lleol gofnod o’r holl adeiladau rhestredig; fel arall gellir eu gweld ar Borth Cymru Hanesyddol .

I ganfod a yw adeilad wedi’i restru gallwch gysylltu â Swyddog Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol yr Awdurdod a fydd yn gallu rhoi’r wybodaeth berthnasol ichi yn ogystal â chopïau o’r rhestrau.

Defnyddir y rhestrau i helpu awdurdodau cynllunio i wneud penderfyniadau lle bo buddiannau’r amgylchedd hanesyddol wedi’u nodi’n glir. Er mai Cadw sy’n gyfrifol am asesu adeiladau i’w rhestru, yr Awdurdod Cynllunio Lleol sy’n bennaf gyfrifol am wneud penderfyniadau mewn perthynas â gwaith ar adeiladau rhestredig.

Faint o’m hadeilad sydd wedi’i restru?

Mae’r cyfan o’r adeilad wedi’i restru, gan gynnwys y tu mewn a’r tu allan i gyd ac unrhyw beth ar dir yr adeilad.

Mae’n gamsyniad cyffredin mai dim ond tu allan adeilad sydd wedi’i restru; mae gosodiadau mewnol wedi’u cynnwys yn y rhestru hefyd.

Mae adeilad rhestredig fel y’i disgrifir gan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 yn cynnwys ‘unrhyw wrthrych neu adeiladwaith sydd ynghlwm â’r adeilad ac unrhyw wrthrych neu adeiladwaith o fewn cwrtil yr adeilad sydd, er nad ynghlwm â’r adeilad ei hun, yn ffurfio rhan o’r tir ac wedi gwneud hynny ers cyn 1 Gorffennaf 1948.’

Er bod y rhestru’n berthnasol i’r adeilad cyfan, unig fwriad y disgrifiad yn y rhestr yw adnabod yr eiddo, ac os nad yw un o nodweddion yr adeilad wedi’i chrybwyll yn nisgrifiad y rhestr, nid yw hynny’n golygu nad yw wedi’i rhestru.

Gweler cyhoeddiad gan Cadw am wybodaeth bellach –  Beth yw Rhestru?

Beth yw fy nghyfrifoldebau i?

Mae gan berchnogion adeiladau rhestredig gyfrifoldebau am eu cynnal a’u cadw; cyfrifoldebau a ddisgrifir dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

Mae’r rhan fwyaf o berchnogion a deiliaid yn cydnabod bod adeiladau rhestredig yn rhan o’n treftadaeth ac yn falch o gynnal eu heiddo. Lle’r ymddengys i’r Awdurdod Cynllunio Lleol nad yw’r adeilad yn cael ei gynnal yn iawn, gall gyflwyno hysbysiad (Hysbysiad Atgyweirio Adeilad/Gwaith Brys) i’r perchennog yn gofyn am i’r gwaith angenrheidiol gael ei wneud o fewn amser penodol.

Gall adeiladau rhestredig sydd wedi’u hesgeuluso’n fwriadol gan eu perchnogion gael eu prynu’n orfodol yn y pen draw gan y cyngor heb dalu ond yr iawndal lleiaf. Os nad oes neb yn byw yn yr adeilad, gall yr Awdurdod wneud y gwaith i ddiogelu’r adeilad ei hun ac wedyn adennill y costau oddi wrth y perchennog. Mae Llywodraeth Cymru a’r Awdurdod ill dau’n ystyried mai camau i’w cymryd pan fydd popeth arall wedi methu yw’r rhain, a’r gobaith yw y gellir cael deialog adeiladol fel mai prin y bydd angen gweithredu yn y fath fodd.

 A ellir dad-restru adeilad?

Mae Llywodraeth Cymru’n barod i adolygu rhestriadau yng ngolau tystiolaeth newydd.

Does dim trefn apêl ffurfiol, ond dylai perchnogion neu eraill sy’n credu y dylid ailystyried rhestriad anfon y dystiolaeth at Cadw, ynghyd â ffotograffau o’r adeilad a chynllun o’r lleoliad. Rhaid i’r dystiolaeth fod ynglŷn â’r diddordeb hanesyddol neu bensaernïol arbennig a briodolwyd i’r adeilad yn unig.

Sut mae cael caniatâd adeilad rhestredig a/neu gynllunio?

Bydd ffurflenni cais ar gael ar gais o Adran Gynllunio eich Awdurdod Lleol, neu gellir eu lawrlwytho o’u gwefan.

Rhestr o Awdurdodau Lleol

Fel rheol bydd angen Caniatâd Adeilad Rhestredig yn ogystal â Chaniatâd Cynllunio, ond ni chodir tâl am Ganiatâd Adeilad Rhestredig.

Rhaid i ymgeiswyr am Ganiatâd Adeilad Rhestredig allu cyfiawnhau eu cynigion. Bydd angen dangos pam y mae eisiau neu y mae angen gwaith a fyddai’n effeithio ar gymeriad adeilad rhestredig, a chynnwys hyn fel datganiad cyfiawnhau ysgrifenedig yn eu cais. Dylent roi gwybodaeth lawn i’r Awdurdod, fel y gall hwnnw asesu effaith debygol y cynigion ar ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol arbennig yr adeilad, ac ar ei leoliad.

Adeiladau crefyddol heb eu rhestru

Dyma yw mwyafrif (?%) y math hwn o adeilad, ac ar wahân i’w pwysigrwydd i’r rhai sy’n eu defnyddio, maent yn nodweddion cyfarwydd yn y dirwedd yn aml. Bydd rhai Awdurdodau Cynllunio Lleol yn cadw rhestrau o ‘adeiladau lleol pwysig’ a all gynnwys nifer o adeiladau crefyddol sydd heb eu rhestru. Mae gan eraill agwedd bolisi sy’n rhoi pwysigrwydd ar gadw cymeriad adeiladau o’r fath wrth ystyried cynigion datblygu. Wrth drafod gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol cyn gwneud cais dylai’r materion cynllunio perthnasol i’w hystyried ddod i’r amlwg.

Pryd mae angen Caniatâd Adeilad Rhestredig?

Atgyweirio:

Nid oes angen caniatâd fel arfer ar gyfer gwaith cynnal neu atgyweirio ar yr amod fod y defnyddiau, y manylwaith a’r effaith orffenedig yn cydweddu’n union â’r gwaith gwreiddiol.

Gydag adeiladau rhestredig dylid bob amser roi’r pwyslais ar drwsio yn hytrach nag amnewid. Lle nad yw’n ymarferol trwsio eitem, dylid gosod eitem arall debyg yn ei lle gan ddefnyddio dulliau a thechnegau traddodiadol, ond dylai hyn fod yn ddewis olaf ac efallai y bydd angen Caniatâd Adeilad Rhestredig.

Dymchwel:

Mae angen Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer gwaith dymchwel.

Er ei bod yn nod gan bolisi’r Llywodraeth i sicrhau y cedwir adeiladau hanesyddol, yn achlysurol iawn fe geir achosion lle na ellir osgoi dymchwel. Mae rheoliadau adeiladau rhestredig yn sicrhau y creffir yn llawn ar unrhyw gynigion i ddymchwel cyn dod i unrhyw benderfyniad. Mae sawl adeilad hollol arbennig na ellid byth ystyried rhoi caniatâd i’w dymchwel. Dylai dymchwel unrhyw adeilad Gradd I neu Radd II* fod yn beth cwbl eithriadol a dylai fod angen y cyfiawnhad cryfaf posibl.

Addasu:

Mae angen Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer unrhyw waith sy’n effeithio ar gymeriad adeilad rhestredig.

Egwyddor gyffredinol yw y dylid ceisio sicrhau bod modd dadwneud addasiadau fel y gellir adfer adeilad i’w ffurf wreiddiol ar ddyddiad yn y dyfodol os bydd angen. Rhaid i ymgeiswyr am Ganiatâd Adeilad Rhestredig allu cyfiawnhau eu cynigion. Bydd angen iddynt ddangos pam y mae eisiau neu y mae angen gwaith a fyddai’n effeithio ar gymeriad adeilad rhestredig. Mae enghreifftiau o waith y byddai angen caniatâd adeilad rhestredig ar eu cyfer yn nodweddiadol yn cynnwys dymchwel; estyniadau; addasiadau i doeau; ffenestri a drysau; addasiadau mewnol; peintio waliau a oedd heb eu peintio gynt; a dymchwel simneiau a waliau terfyn.

Gweler cyhoeddiad gan Cadw am wybodaeth bellach – Caniatâd Adeilad Rhestredig

Oes angen Caniatâd Adeilad Rhestredig ar eglwysi neu gapeli?

Mae adeiladau eglwysig yn dod o dan reolaeth cynllunio, ond mae llawer o adeiladau eglwysig sy’n cael eu defnyddio i ddibenion eglwysig ar hyn o bryd, a chanddynt system fonitro gymeradwy, wedi’u heithrio o’r rheolau adeiladau rhestredig.

Nid yw’r eithriad eglwysig yn berthnasol i dai gweinidogion yr efengyl. Cyd-destun yr eithriad yw’r ymgymeriad fod adeiladau eglwys hanesyddol yn destun system reoli ar wahân sy’n rhoi ystyriaeth i’w pwysigrwydd hanesyddol a phensaernïol. Mae “Ecclesiastic Exemption: What it is and how it works” (Medi 1994)” yn rhoi gwybodaeth lawn am hyn.

Ac eithrio i’r graddau y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn darparu fel arall drwy Orchymyn dan 60(5) a 75(7) Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

Eithrio eglwysig

Nid oes raid i adeiladau rhestredig sydd ym mherchnogaeth chwe enwad ‘eithriedig’ ddilyn proses y Caniatâd Adeilad Rhestredig seciwlar. Yn lle hynny, mae Cadw wedi cytuno gyda phob enwad y cânt gymeradwyo addasiadau i addoldai rhestredig yn unol â mesurau rheoli a bennir gan yr enwad hwnnw. Y sail ar gyfer yr eithrio a fwynheir gan bob un o’r enwadau cymeradwy hyn yng Nghymru yw bod gan bob un ohonynt brosesau mewnol sy’n darparu mesur o graffu ar weithiau arfaethedig sydd o leiaf gystal â’r mesurau rheoli seciwlar cyfatebol a weithredir drwy’r awdurdodau cynllunio lleol. Eithrio eglwysig yw’r term am hyn, a dyma’r enwadau ‘eithriedig’ yng Nghymru:

  • Yr Eglwys yng Nghymru
  • Eglwys Loegr
  • Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr ac Undeb Bedyddwyr Cymru
  • Yr Eglwys Gatholig Rufeinig
  • Yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig
  • Yr Eglwys Fethodistaidd

Mae enwadau eraill (yn cynnwys y Methodistiaid Calfinaidd/Presbyteriaid, Undodiaid, Annibynwyr (a Chapeli’r Bedyddwyr lle nad yw’r naill na’r llall o Undebau’r Bedyddwyr yn ymddiriedolwr) yn dod dan reolaeth lawn ar faterion cynllunio ac adeiladau rhestredig.

Unwaith y bydd capel rhestredig wedi’i ddatgan yn ffurfiol yn gapel gwag, neu wedi’i droi at ddefnydd arall, bydd rheolaeth adeilad rhestredig llawn yn weithredol.

Ceir manylion eithrio a’r mesurau rheoli a weithredir gan y gwahanol enwadau yng ‘Ngorchymyn Esemptiad Eglwysig (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1994’ a ‘The Ecclesiastical Exemption – What it is and How it Works’. Adolygwyd trefniadau eithrio eglwysig yng Nghymru yn 2004 ac mae angen gwneud newidiadau i’r Gorchymyn cyfredol i adlewyrchu newidiadau sydd eisoes wedi’u cyflwyno yn Lloegr ac y bydd Cadw – yn amodol ar ddymuniadau Llywodraeth newydd yng Nghymru – yn bwriadu bwrw ymlaen i ymgynghori arnynt ddiwedd y flwyddyn.

Dolenni Enwadol

Sut mae gwneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig?

Dylid gwneud ceisiadau ar ffurflen a ddarperir gan yr awdurdod lleol. Rhaid cyfiawnhau’r angen am y gwaith. Dylai cais wedi’i ffurfio’n gywir ddangos pam y mae eisiau neu y mae angen gwaith a fyddai’n effeithio ar gymeriad adeilad rhestredig. Rhaid iddo roi gwybodaeth lawn i’r Awdurdod Cynllunio Lleol, i’w alluogi i asesu effaith debygol y cynigion ar yr adeilad a’i leoliad. Does dim darpariaeth ar gyfer rhoi caniatâd amlinellol. Lle mae ansicrwydd ynglŷn â’r angen am ganiatâd, byddai’n ddoeth cysylltu â’r Awdurdod Cynllunio Lleol cyn paratoi cynlluniau manwl er mwyn osgoi costau diangen. At hynny, fe allai fod yn briodol cyflogi neu ymgynghori â phensaer neu syrfëwr â phrofiad o waith cadwraeth. Bydd Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) neu Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) yn gallu darparu rhestri o benseiri neu syrfewyr addas.

Beth am TAW?

Mae TAW yn daladwy ar waith atgyweirio ar unrhyw adeilad, boed restredig ai peidio. Ond mae Cynllun Addoldai Rhestredig y Llywodraeth yn rhoi grantiau tuag at TAW sy’n daladwy ar waith atgyweirio ac addasu ar addoldai rhestredig– insert link

 Beth yw rôl Cadw a’ch Awdurdod Cynllunio Lleol?

Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, ac mewn rhai achosion lle bydd Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwriadu rhoi caniatâd adeilad rhestredig, rhaid iddo hysbysu Cadw am y cais cyn gwneud hynny. Mae gan Cadw gyfnod statudol o 28 diwrnod wedi derbyn y cais i benderfynu a ydyw am gyfeirio’r cais yn ôl i’r awdurdod cynllunio i’w benderfynu, ynteu a ydyw am hysbysu bod angen mwy o amser i ystyried a ddylai’r cais gael ei ‘alw i mewn’ os yw’n codi materion eithriadol o arwyddocaol neu ddadleuol.

Mae gan rai Awdurdodau Cynllunio Lleol ‘bwerau dirprwyedig’, sy’n galluogi iddynt benderfynu ar y rhan fwyaf o geisiadau adeiladau rhestredig eu hunain.

Mynediad i’r anabl?

Bwriad y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yw y dylai pobl anabl allu defnyddio adeiladau hanesyddol yn yr un modd â phawb arall. Mae ymchwil gan y Comisiwn Hawliau Anabledd yn awgrymu y gellir gwneud y rhan fwyaf o newidiadau heb fawr o gost nac anghyfleustra. Gall llawer o newidiadau gael eu gwneud heb gostio dim o gwbl os cânt eu hymgorffori yn y cylch cynnal a chadw. Er enghraifft, ni fydd newid y cynllun lliwiau i helpu pobl â nam ar eu golwg yn costio dim os gwneir y newid fel rhan o’r cylch ailbeintio adeiladau.

Yn ymarferol, mae sicrhau mynediad i bawb yn golygu y dylai perchnogion anelu at addasu adeiladau i ganiatáu i bobl anabl wneud y canlynol —

Defnyddio’r un ffyrdd â phawb arall

Yn ddelfrydol, ni ddylai rhywun anabl orfod mynd i mewn drwy fynedfa wahanol, er enghraifft yng nghefn yr adeilad, a dylai fod yn bosib i bob ymwelydd symud o gwmpas o fewn rhannau cyhoeddus yr adeilad.

 Defnyddio’r adeilad yn annibynnol

Ni ddylai rhywun anabl orfod gofyn am help i gael mynediad i adeilad neu fynd o le i le ynddo, er y dylid rhoi help os gofynnir amdano, wrth gwrs.

Defnyddio’r cyfleusterau a gynigir yn yr adeilad yr un fath â phawb arall

Ni ddylai rhywun anabl gael ei rwystro rhag defnyddio cyfleuster am fod darparwr y gwasanaeth yn credu y byddai’n peri anghyfleustra i eraill neu’n tybio’n anghywir y byddai hynny’n creu risg diogelwch.

Fodd bynnag …

Gall y gofyniad cyfreithiol i gadw cymeriad adeilad hanesyddol olygu y bydd achlysuron prin lle na ellir cyflawni pob un o’r amcanion hyn. Er enghraifft, byddai’r camau a fyddai’n angenrheidiol i ganiatáu mynediad llawn i bob rhan o adfeilion castell canoloesol mor niweidiol i gymeriad yr adeilad nes difetha mwynhad ymweld â’r adeilad i bawb.

Gweler cyhoeddiad gan Cadw am wybodaeth bellach – Goresgyn y Rhwystrau